Pyllau Plwm y Mwynglawdd : Gwybodaeth i Ymwelwyr ac Oriau Agor

Mae’r pyllau plwm mewn parc gwledig, islaw Mynydd Mwynglawdd, sydd ar agor drwy’r flwyddyn i bobl a’u cŵn. Dylid gwisgo esgidiau call.

Mae Mynydd Mwynglawdd gerllaw yn lle da i gerdded hefyd ac mae llwybr troed i fyny’r mynydd o’r parc gwledig. Maes parcio’r pyllau plwm yw’r man cychwyn i gerdded Llwybr Clywedog neu gallwch yrru dros y mynydd i Ben Draw’r Byd a Llangollen.

Manylion Cysylltu

Canolfan Dreftadaeth y Bers
Y Bers
Wrecsam
LL14 4HT

Ffôn: 01978 318 970
Ffacs: 01978 318 971
Ebost: bershamheritage@wrexham.gov.uk

Cyfleusterau

  • Maes parcio ar y safle
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Teithiau tywysedig i grwpiau ar gais. Cysylltwch â Chanolfan Dreftadaeth y Bers ar 01978 318 970 i drefnu cylchdaith. Mae tâl bychan y pen am deithiau tywysedig. Y grŵp lleiaf yw 12 o bobl.

yn ôl i'r brig