Bu’r pedwar mis ar ddeg hyd at Chwefror 14eg 2011 yn gyfnod llawn digwydd i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac i’r staff sy’n gweithio yno.
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam - adeilad ardderchog sydd bellach yn amgueddfa llawer gwell hefyd.
Er mwyn cael cipolwg y tu ôl i’r llenni fel petai, cofiwch ddarllen dyddiadur yr amgueddfa. Aeth pob cyfrannwr ati i ysgrifennu yn ei arddull ei hun.
Chwe wythnos i fynd a chymaint i’w wneud! Galwodd Rob a Steve o’r papur lleol i weld sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen. Gallant weld fod gennym fynydd i’w ddringo, ond mi fyddwn yn barod.
Llwytho delweddau i lawr drwy’r dydd a’u cadw ar gyfer panelau darluniadol Oriel 1. Mae angen y graffigwaith ar gyfer y llinell-amser Gynhanes ar EDM. Ble maen nhw, oherwydd cawsant eu llofnodi’n derfynol gennym ni wythnosau’n ôl?!

Dyluniadau cynnar ar gyfer y baneri tu allan
Ceisio dod o hyd i seinyddion cyfeiriol ar gyfer ffilmiau yn Oriel 3 am gost resymol. Hyd yma mae’r costau i gyd yn symiau pedwar ffigur, sy’n bell tu hwnt i’n cyllideb ni! Anfon testun Cynhanes, Oes y Tywysogion, Castell Holt a Wrecsam Fictoraidd at y dylunwyr.
Testun drafft ar gyfer llyfryn newydd yr amgueddfa. Cwrdd â Chymdeithas Hanes Lleol Holt a thîm Caer Alyn. Mae eu ffilmiau’n barod ac maen nhw i gyd yn holi am yr agoriad. Mae Workhaus, y contractwyr gosodion, yn ôl ar y safle.
Gweithio ar frand swfenîr newydd yr amgueddfa gyda’r darlunydd lleol, Carl Parry.

Dyluniadau aflwyddiannus ar gyfer y celfwaith y bwriedir ei ddefnyddio ar swfenîrs.

Coridor mynediad, casys newydd gyrraedd, 11.01.2011

Lle arddangos Dyn Brymbo, 11.01.2011

Y fynedfa i’r Hippodrome, 11.01.2011

Oriel 1 o’r drws i ystafell ymchwilio’r archifdy, 11.01.2011
Cyfarfod safle gyda James o’r cwmni dylunio, Bright 3D, a Terry, y rheolwr prosiect o Workhaus. Does dim curo ar gyfarfod wyneb yn wyneb, hyd yn oed os yw’n para sawl awr!!

Syniad ar gyfer mownt i Gasgliad Oes Efydd yr Orsedd
Mae’r cas ar gyfer Dyn Brymbo yn dipyn o her: dal cerrig y gist ar i fyny, cynnal pwysau’r holl gerrig, a symud y cyfan yn ofalus i’w le. James o Heritage Interactive yn cysylltu â ni gan ei fod yn disgwyl am gynnwys y sgriniau cyffwrdd. Rwy’n rhagweld nosweithiau hwyr a gweithio ar benwythnosau er mwyn gorffen mewn pryd.
Rhagor o drafod ynglŷn â sut i gynnal y cerrig yng nghist Dyn Brymbo. Rhaid gwneud hynny’n sensitif, yn wahanol i’r hen arddangosfa. Ymchwilio i ddelweddau ar gyfer y Wal Ddelweddau a chasglu syniadau ar gyfer nenfwd y Twnnel Amser.
Ymchwilio a chreu mapiau bras o Wrecsam yn yr Oesoedd Canol a’r 17eg ganrif, yn barod i’r artist greu fersiynau proffesiynol!
Casglu delweddau ar gyfer y llyfryn newydd, a hefyd ar gyfer mynedfa ac allanfa Oriel 1. Dechrau ysgrifennu’r testun rhagarweiniol ar gyfer Oriel 1. Y rhagarweiniad yw’r darn anoddaf bob amser.

Beth fyddai orau o ran desg y dderbynfa? Rhai syniadau cynnar gan y dylunwyr, Bright3D.
Mae Matty, Steve a minnau’n ailddylunio un wal yn lle arddangos Dyn Brymbo i ddatrys problem a ganfuwyd gan y contractwyr gosodion – bod cas a gosodwaith rhyngweithiol ar wahanol ochrau o’r un wal yn ffordd ei gilydd. Diolch byth! Caiff y cas arddangos canol ei gymeradwyo’n derfynol o’r diwedd.

Dyluniad newydd yn dilyn trafodaeth gyda’r penseiri, Austin-Smith:Lord
Prawfddarllen paneli drwy’r dydd, testun Cymraeg a Saesneg. Cysylltu â’r gwneuthurwyr rhyngweithiol – rhaid gwneud yn siŵr eu bod yn cysylltu â Workhaus er mwyn i’r gwaith gosod fynd yn ei flaen yn esmwyth. Croesi bysedd! Rwy’n cadw delweddau i ddisg ac yn eu hanfon at Bright3D bob dydd bron, neu felly mae’n teimlo. Mae Terry o Workhaus yn dechrau poeni – fydd o wedi cael y graffigwaith mewn pryd i allu creu’r arddangosfa?
Rhagor o ysgrifennu testun, rhagor o brawfddarllen a rhagor o chwilio am ddelweddau a’u cadw!! Rwy’n ceisio dod o hyd i ddyfyniad hanesyddol da am Wrecsam. Mae’n debyg mai gan George Borrow y mae’r llinellau gorau. Rhagor o boeni a fydd gêm Oes y Tywysogion yn ffitio. Rydym yn cytuno i’w gostwng yn hytrach na gorfod ail-wneud yr holl waith graffeg.
Peidiwch â chynhyrfu – felly meddai Steve y Rheolwr, ond rydym i gyd yn gwybod fod llawer i’w wneud eto fel sy’n amlwg o’r e-bost hwn:
Dyma’r sefyllfa ar hyn o bryd, felly:
Newydd gael llun diwygiedig o L i gynnwys y panelau gorchudd powdrog hyn ond fel arall maent i gyd wedi cael eu cymeradwyo’n derfynol. Mae casys B, C, D, E, F, G, V, W, X , J, T, M, N ac O wedi cael eu gosod i raddau amrywiol. Mae casys eraill, sef A, K, ?L, R, S, U ac Y yn barod i gael eu gosod yr wythnos nesaf (pryd fydd HIQ yn barod ?). Rwy’n hoffi’r syniad o drin y gist fel yr oedd pan gafodd ei darganfod. Gallaf ddarparu trywel ac ati, ac ati.
Rydw i wedi gofyn i’r gosodwyr cyfarpar clyweled roi gwybod imi wrth i bob system fynd yn fyw a byddwn yn cael y cyflenwyr i weithredu fel sy’n bosib, yn hytrach na gwneud y cwbl ar unwaith
Byddwn yn mynd i orwedd lawr mewn stafell dywyll, ond mae’n ‘brysur’ ac mae ciw y tu allan iddi. Y testunau dehongli terfynol wedi cael eu hanfon at y dylunwyr.
Cymdeithas Hanes Lleol Holt yn ymweld â’r amgueddfa i weld ble bydd ei harddangosfa hi.

Tîm Holt a Chaer Alyn yn yr amgueddfa, 22.01.2011
Casglu replicâu ar gyfer y gosodwaith rhyngweithiol ymarferol y bwriedir ei ddarparu o’r Celfyddydau Hynafol. Panig ynglŷn â gwaith celf i’r Borough Reporter.
Mae Martin y dylunydd yn gweithio ar garlam gwyllt yn Bright 3D gyda phroflenni gweledol y panelau arddangos newydd yn hedfan drwy’r ether o Gaeredin, sy’n golygu mwy fyth o broflenni a chwilio am ragor o ddelweddau a’u cadw er mwyn inni gyrraedd y safonau yr ydym am eu cyrraedd!!

Syniadau er mwyn atal model plastr o gerflun o angel gan Joseph Morcom rhag disgyn.
Pam gwnes i gytuno ddeunaw mis yn ôl i roi sgwrs am Fantell yr Wyddgrug heddiw?! E-bostio label enghreifftiol at wirfoddolwraig, Heather Vernon, sy’n gweithio ar y labeli i’r gwrthrychau yn ymwneud ag anifeiliaid yn y Cas Mawr.
Mae pethau’n dechrau symud – wedi cymeradwyo’r dyluniadau i ddau barth o’r oriel yn derfynol a’r gwaith celf ar gyfer y Borough Reporter. Gweithio gyda Virginia i benderfynu ar yr holl fowntiau a’r cynalyddion ar gyfer yr arteffactau fydd yn cael eu harddangos.

Lluniau ffenestri ar gyfer yr estyniad gwydr – daw’r gwrthrychau i gyd o gasgliad yr amgueddfa, 27.01.2011
Cwrdd ag Elizabeth Royles, curadur yn Amgueddfa Grosvenor, Caer, i ddewis arteffactau o waith teils llengol Rhufeinig Holt i’w harddangos yn Oriel 1. Chwilio am ddelweddau o wrthrychau ar gyfer y baneri tu allan. Cymeradwyo nenfwd y Twnnel Amser yn derfynol a’r fersiwn ddiwygiedig o ddeunydd dehongli Castell Holt.

Dyluniad y nenfwd yn y coridor mynediad – i gyd yn enghreifftiau o’r dreftadaeth leol, 28.01.2011

Dyluniad gwreiddiol Castell Holt ac ardal Anghydfod Ffiniau Oriel 1, 28.01.2011
Bwrdd iddi o ddifrif i ysgrifennu cynnwys ar gyfer y sgriniau cyffwrdd yn Oriel 1. Ysgrifennu panel dehongli’r Oes Haearn. Wedi gorffen cynnwys y sgrin gyffwrdd Olion Rhufeinig ddoe. Gweithio ar destun Wrecsam yn 1898 heddiw.

Coridor mynediad i Oriel 1, 29.01.2011

Oriel 1, 29.01.2011

Oriel 1 o’r drws i ystafell ymchwilio’r archifdy, 29.01.2011
David ac Adam y technegydd yn fy helpu i roi’r casys arddangos sy’n datgymalu at ei gilydd yn Oriel 3. Bron fod rhaid ichi wneud yr hakka’n gyntaf cyn codi rhai o’r darnau mawr hynny o wydr.
Mae’r waliau symudol yn cyrraedd ar gyfer Oriel 3. Maent yn edrych yn weddol hawdd eu rhoi at ei gilydd a’u symud o gwmpas, cyn belled ag y gallaf fanteisio ar synnwyr cyffredin David. Prysurdeb mawr yn Orielau 1 a 2:

Mike y peintiwr wrth ei waith yn Oriel 2, 02.02.2011

Matty yn gweithio gyda’r graffigwaith yn Oriel 1. Bydd yr oriel yn brawf o’i sgiliau papuro, 02.02.2011
Pethau wedi mynd ar chwâl gyda’r Borough Reporter. Y dylunydd a’r gwneuthurwr yn gweithio i ddimensiynau gwahanol. Treulio’r noson gyfan yn creu storïau newydd i lenwi’r lle gwag annisgwyl ar y belt. Grrr.

Graffigwaith yn mynd i’w le, 04.02.2011

Graffigwaith yn mynd i’w le, 04.02.2011

Y pwysau’n dechrau dweud ar rai o dîm Workhaus, 04.02.2011
Datrys y broblem gyda’r Borough Reporter. Karen (Addysg) ac Eleri’n mynd i Ŵyl Hanes Wrecsam, a minnau’n adolygu panel Castell Holt a’r Anghydfod Ffiniau eto a’i gymeradwyo’n derfynol.
Cymeradwyo’r panelau olaf ar gyfer arddangosfa Oriel 3 yn derfynol. Testun y sgriniau cyffwrdd ar gyfer yr arddangosfa Cymdeithasau Anifeiliaid yn y Cas Mawr wedi cael eu hanfon at Heritage Interactive – diolch i waith caled Heather.
Gweithio ar gynnwys sgriniau cyffwrdd Wrecsam – Eich Tref Chi yn 1898 ac 1950. Pedair awr ar ddeg yn ddiweddarach … zzzz
Wythnos i fynd – safle adeiladu yw’r lle, gyda gosodwyr siop, trydanwyr, seiri, peintwyr, gosodwyr TG a chlyweled ym mhobman! Mae’r hyn sy’n edrych fel anhrefn llwyr yn hynod o gynhyrchiol mewn gwirionedd, hyd yn oed os oes rhyw olwg ar adegau ar Matty o Workhaus fel pe bai’n edrych dros ymyl y dibyn.
Mae’r deidlein terfynol yn prysur nesau wrth i Terry o Workhaus ddweud sut mae hi i fod gyda chymysgedd o benderfyniad a phragmatiaeth:
Allwn ni wneud yn siŵr fod yr holl graffigwaith ar gyfer y prosiect yn cael ei gymeradwyo’n derfynol heddiw a bod yr holl waith celf wedi cael ei anfon at Quarmby’s. Os gwelwch yn dda!
Rydym yn yr wythnos olaf erbyn hyn a dydy’r gwaith celf i gyd ddim wedi cael ei gymeradwyo? Bydd angen cwblhau’r argraffu ar gyfer rhai ardaloedd erbyn dydd Mercher fan hwyraf i ganiatáu cludo’r deunydd i’r safle a chwblhau’r ardaloedd. Falle bod peth graffigwaith na fydd yn barod ond dylai hynny olygu dim byd ond arwyddion cyfeirio.
Cymeradwyo’r arddangosfeydd ar gyfer Oriel 1 yn derfynol.
EDM ac AIVAF yn cyrraedd y safle. Mae gêm Oes y Tywysogion a Hen Wrecsam Ddrewllyd yn edrych yn wych. Mae Nev a Carlos yn bwrw iddi yn gosod ffilm newyddion y Borough Reporter ar ei wal ar ôl pryderon cychwynnol ei bod yn rhy fawr. Dechrau ysgrifennu’r holl labeli byr ar gyfer y gwrthrychau yn y casys.
Mae hogiau Armour yn lefelu’r cas. Mae’r drysau’n enfawr, ond mae Marcus i’w weld yn eu codi i’w lle ar ei ben ei hun. Mae Matty a’r tîm yn gosod y fframwaith a fydd yn cynnal y maen capan yn ei le ar ôl i Steve a minnau drafod ble y dylai fynd.

Lle arddangos Dyn Brymbo yn Oriel 1, 09.02.2011

Y cas canol – yn gynnar y bore, 09.02.2011

Y cas canol – yn ddiweddarach yr un diwrnod, 09.02.2011

Faint o bobl all weithio mewn oriel yr un pryd? 09.02.2011

Cartref newydd Dyn Brymbo, 09.02.2011

Gosod y cas canol, 09.02.2011

Gosod y cas canol, 09.02.2011
Mae’r testun Cymraeg ar gyfer y sgriniau cyffwrdd yn cyrraedd mewn pryd. Gweithio ar fap bach o’r amgueddfa gyda Nicky o’r Uned Farchnata. Mae Bill a Stuart o Hanmer yn dod â’r arteffactau a achubwyd o Eglwys Hanmer adeg tân 1889 i mewn.

Gwaith celf ar gyfer y labeli i’r gwrthrychau yn y Cas Hynodion wrth y fynedfa i’r Hippodrome.
Galw heibio i Wrexham Plastics i gasglu’r pethau dal labeli, ac ymweld â’n storfa oddi ar y safle i gasglu cynifer o boteli â phosib ar gyfer cas y Caffi. Mae problemau gyda dogfennau’r sgriptiau ar gyfer y sgrin gyffwrdd Olion Rhufeinig yn golygu mod i’n treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn copïo a phastio’r gwahanol fersiynau Cymraeg a Saesneg i un ddogfen derfynol hollgwmpasog.

Lle arddangos Dyn Brymbo – Matty a Mike yn gosod y graffigwaith, 10.02.2011

Y cas canol – y gwaith gosod terfynol, 10.02.2011

Halio’r sgriniau mawr i’w lle, 10.02.2011
Mae Richard o EDM ar y llawr is yn gosod llinell amser gynhanes ryngweithiol ‘Y Gêm Ddyddio’ ym Mharth 9. Yr hogiau o Workhaus a Fusion yn dod at ei gilydd i halio’r pedair sgrin wastad i’w lle ar y Wal Ddelweddau ac Andy o Armour a’i hogiau’n gorffen gosod y cas canol enfawr. Mae cwblhau’r cas hwnnw’n gweddnewid yr ystafell. Mae’r drws wedi cael ei roi ar gas Dyn Brymbo – mae Workhaus a Steve yn graddol symud y maen capan enfawr i’w le newydd – yn hofran uwchben y gist agored.

Karen (Addysg) a Virginia (Casgliadau) yn rhoi eitemau o Gasgliad Pêl-droed Cymru yn eu lle yn Oriel 2, 10.02.2011
Diwrnod caletaf y prosiect, ddwedwn i. Tri diwrnod i fynd ac mae’r orielau’n orlawn o bobl yn gweithio’n galed i gael yr amgueddfa’n barod mewn pryd. Mae’r dechnoleg yn ymlafnio i wneud ei gwaith. Mae’r sgrin gyffwrdd Anghydfod Ffiniau yng Ngwlad Belg yn hytrach na Wrecsam. Mae’n profi’n amhosib cydamseru’r sgriniau ar y Wal Ddelweddau. Herciodd Dave (Centre Screen) i mewn ar faglau i osod y ffilm a bydd yn dod yn ôl fory i orffen y gwaith. Cyrhaeddodd James (Heritage Interactive), â’i lygaid yn goch o raglennu’r cynnwys ar gyfer y mannau gwybodaeth, a mynd ati’n dawel i weithio. Roeddwn yn dal i anfon newidiadau Cymraeg drosodd wrth i’w gydweithiwr ddal ati i gyrraedd y dedlein. Mae’r caffi’n llawn plinthau …
Mae Steve a minnau’n codi, gwthio, pwtio ac ysgwyd cerrig y gist i’r cas ac mae’n edrych gymaint gwell nag oedd cynt. Mae Kaytee a’r tîm yn gorffen yr arddangosfeydd yn Oriel 3. Mae’r trydanwyr yn cyrraedd jyst mewn pryd ac yn addo dod yn ôl y peth cyntaf fore Llun i orffen cysylltu’r offer ar gyfer ffilm Crogen. Mae Eleri i fyny’r grisiau’n trefnu’r testun ar gyfer labeli’r Cas Coridor. Cymeradwyo labeli’r oriel yn derfynol wrth i’r testun Cymraeg terfynol gyrraedd a chael ei slotio i’w le. Mae Gavin and Cain, y seiri, yma drwy’r dydd ac rydym yn helpu i godi llwyfan dadorchuddio’r llechen i fyny’r grisiau i brif ystafell y llys.
Pethau wedi mynd yn dda heddiw: Esther, Eleri, Kaytee, Joy a Virginia yn fy helpu i osod y casgliadau yn Oriel 3. Caiff Ci Acton ei roi yn ei gas. Mae cerflun glo Jagusch a Gambrinus yn y casys cornel wrth ymyl y Wal Ddelweddau.

Joy (Astudiaethau Lleol) ac Esther (Archifau) yn paratoi gwrthrychau i’w harddangos, 12.02.2011

Grŵp Caer Alyn, yn union ar ôl arddangos eu darganfyddiadau, 12.02.2011

Eleri (Addysg) ac Esther (Archifau) yn paratoi Ci Acton i’w arddangos yn y cas amgueddfa a wnaed yn arbennig ar ei gyfer, 12.02.2011
Matty, Terry a’r tîm yn gosod y panelau graffigwaith olaf yn yr oriel. Mae’r graffigwaith ar y nenfwd yn mynd allan i’r coridor mynediad ac mae’n edrych yn wych. Roedd yn bendant yn werth yr ymdrech chwilio am ddelweddau da ar ei gyfer. Yn araf mae’r brif oriel yn newid o le gweithio i brofiad amgueddfaol cwbl arbennig.
Mae’n 9pm y nos a thîm Workhaus yn dal yma – yn rhoi’r lluniau ffenestri ar waliau gwydr yr estyniad gwydr.

Steve y Rheolwr gyda Terry Hewson (rheolwr prosiect Workhaus, ar y chwith) a hogiau Workhaus, 12.02.2011, 22:00hrs
Pawb wedi dod i mewn. Gyda’r orielau wedi cael eu glanhau, rydym yn gosod y gwrthrychau yn y cas Pobl a Lleoedd a’r Cas Mawr. Mae Joy ac Eleri yn mynd i’r afael â’r dalwyr labeli trafferthus, tra mae Esther, Virginia, Karen a minnau’n dechrau gosod y plinthau a’r silffoedd yn barod i’r gwrthrychau gael eu rhoi yn eu lle.

Cartref newydd Dyn Brymbo, a’r cas ar fin cael ei selio, 13.02.2011

Oriel 1, y noson cyn yr agoriad, 13.02.2011

Oriel 1, y noson cyn yr agoriad, 13.02.2011
Gosod y labeli a threfnu’r panelau arddangos yn Oriel 3. Gorffen fymryn cyn i’r cloc daro hanner nos.
Y tacluso olaf. Gosod posteri sinematig Neil yn dathlu digwyddiadau hanesyddol o orffennol Wrecsam ar hen hysbysfwrdd yr Hippodrome. Mae’r staff blaen tŷ i gyd yn eu gwisg newydd. Mae hyd yn oed Steve y Rheolwr mewn siwt a thei!!
Y gwahoddedigion yn cyrraedd, yn cynnwys yr Athro John Davies, awdur ‘Hanes Cymru’, a’r Cyng. Dutton, a fu’n gefnogwr i’r amgueddfa ers blynyddoedd lawer. Areithiau a dadorchuddio’r llechen, yna’n ddiweddarach mae’r maer yn torri’r rhuban a chyn pen dim mae’r orielau’n llawn. Un job o waith wedi’i chwblhau, un arall yn dechrau …

Y Cyng. Bob Dutton, OBE., yn llywyddu yn yr agoriad swyddogol, 14.02.2011

Yr Athro John Davies, yn huawdl yn ystod ei araith ddysgedig a difyr yn yr agoriad swyddogol, 14.02.2011

Brymbo Bryn, Masgot yr Amgueddfa, yn yr agoriad swyddogol, 14.02.2011

Ailagor Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’r Bobl, 15.02.2011

Pobl yn edrych o amgylch Oriel 1, 15.02.2011

Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 24.02.2011
Bûm yn Ysgol Madras yn Llannerch Banna er mwyn cynnal gweithdy ar Deganau yn yr Oes a Fu. Fe wnaeth y plant ddylunio mini-amgueddfa gyda’r teganau ac fe gawsant gyfle i wneud thawmatrop, ac fe gafodd pawb hwyl fawr wrth wneud hynny.
Fe wnes i fynd â’r brif sioe deithiol i Scientriffic ym Mhrifysgol Glyndŵr er mwyn dangos ein söetrop a gwneud rhagor o thawmatropau. Roedd pobl wedi syfrdanu faint yr oedd y faelwisg yn ei bwyso a pha mor heini ac iach yr oeddech yn gorfod bod er mwyn bod yn ‘farchog ar geffyl gwyn’.
Fe gymerais y brif sioe deithiol i’r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Fe wnaeth y plant roi’r gwisgoedd amdanynt a dylunio’r hyn yr hoffent ei weld yn eu hoff amgueddfa. Buont yn gwneud thawmatropau hefyd.
Bûm yn Ysgol Gynradd Victoria er mwyn gweithio gyda rhai o’r rhieni a’r plant. Fe wnaethom fwrw golwg ar Deganau yn yr Oes a Fu a chawsom hwyl fawr yn chwarae gyda’r gemau replica.
Gyda’r nos fe euthum i Glwb Ieuenctid Acorns ym Mhenycae i gyfarfod â rhai o’r plant y bûm yn gweithio â hwy pan euthum i ysgol Penycae. Y tro hwn fe wnaethom fwrw golwg ar Deganau a Gemau. Fe wnaeth y plant fwynhau sgipio a chwarae dominos.
Bûm yng Nghartref Gofal Llwyn Onn er mwyn gweithio â’r preswylwyr. Fe gymerais gyda mi un neu ddau o’r creiriau sy’n ymwneud â Bywyd yr Aelwyd yn ystod y Rhyfel. Cafwyd trafodaethau diddorol am ddogni bwyd a chael faciwîs i aros.
Fe wnes i fynd â’r brif sioe deithiol i’r Ŵyl Hwyl Gymunedol yn Nhŷ Mawr. Roedd hi’n ddiwrnod gwlyb ond serch hynny fe wnaeth yr ymwelwyr fynd ati i wneud thawmatropau a mwynhau eu hunain.
Fe gymerais y brif sioe deithiol i Barc Bellevue er mwyn cymryd rhan mewn dathlu ei ganmlwyddiant. Pen-blwydd Hapus!
Euthum i glwb ar ôl ysgol ‘Buddies’ yn New Broughton er mwyn bwrw golwg ar Deganau a Gemau yn yr Oes a Fu. Fe wnaeth y plant lunio eu harddangosfa amgueddfa eu hunain ac fe gawsant hwyl aruthrol wrth chwarae â’r teganau replica.
Yn y bore bûm yng nghlwb gwyliau Ysgol Victoria er mwyn bwrw golwg ar Deganau a Gemau yn yr oes a fu. Unwaith eto fe aeth y plant ati i lunio eu harddangosfa amgueddfa eu hunain ac fe wnaethant fwynhau’n fawr iawn chwarae gyda’r marblis a gwneud thawmatropau.
Yn y prynhawn euthum i Gartref Gofal Gwern Alyn gyda’r Teganau a’r Gemau. Ni chwaraewyd fawr ddim ond cafwyd llawer o drin a thrafod!
Euthum i Ysgol Garth i fwrw golwg ar blentyndod yn yr oes a fu. Fe wnaeth y plant roi amdanynt wisgoedd o wahanol gyfnodau ac yna buont yn chwarae gyda theganau replica o’r cyfnodau hynny.
Bu Canolfan Dreftadaeth y Bers yn cynnal sioe deithiol ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf a oedd yn ddiddorol dros ben.
Euthum i ‘Hanes Byw!’ yng Ngwaith Haearn y Bers gyda’r brif sioe deithiol. Hoffwn ddiolch o galon i bob un o’n cynorthwywyr a roddodd help llaw gyda hyn.
Bûm yn Ysgol Garth er mwyn trafod gwaith J.C. Edwards ac yna aeth y plant ati i ddylunio eu teiliau eu hunain.
Euthum i Ysgol Garth i fwrw golwg ar fywyd yn ystod y rhyfel. Roedd cardiau adnabod gan y plant ac fe wnaethom lunio llochesau Anderson ar ffurf modelau.
Bûm yn gweld grŵp ar ôl ysgol ‘Cyfeillion’ yn Ysgol Parc Acton er mwyn bwrw golwg ar fywyd yn ystod y rhyfel. Fe wnaethom lunio llochesau Anderson ar ffurf modelau, a chawsom gyfle i sgwrsio am sut brofiad oedd bod yn faciwî.
Bûm yn gweld grŵp o Addysgwyr Cartref. Roeddent hwy hefyd yn gweithio â blychau benthyg ac yn cael hwyl fawr wrth olchi’r dillad ac yn ymarfer eu llawysgrifen orau.
Wedi bod â’r sioe deithiol fawr i gae ras Bangor Is-coed lle cawson ni wers ymarferol sut i godi gasibo (a’i dynnu i lawr eto) mewn corwynt. Diolch byth am faelwisg i ddal popeth i lawr ar y byrddau.
Wedi bod â’r sioe deithiol i Glwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo i helpu Rowlands y Fferyllydd i ddathlu eu pen-blwydd yn 200 oed. Roedd ‘na fynd mawr ar y thawmatropau, yr atyniad mwyaf yma oedd y ffotograffau.
Ymweliad â chlwb gwyliau Ysgol y Garth efo’r Amgueddfa Fach ar Olwynion a chawsom olwg ar y Rhufeiniaid. Cafodd y plant hwyl yn gwisgo’r helmed ac wedyn wnaethon ni weithio ar batrymau brithlun o dylluanod.
Wedi mwynhau diwrnod bendigedig yn Ffair Gresffordd efo’r sioe deithiol fawr. Roedd yr haul yn ddisglair braf a chafwyd hwyl yn edrych ar y ffotograffau a cheisio eu paru efo’r cymeriadau a’r pethau enwog o Wrecsam a oedd yn gysylltiedig â nhw.
Yn ôl yn y swyddfa wedi wythnos o ddysgu am y Tuduriaid a phendroni ynglŷn â faint o gyfarfodydd y gallaf eu cynnal mewn diwrnod!
Cyfarfodydd buddiol efo nifer o grwpiau i fwrw ymlaen â’r cistiau yn y coridor a’r agweddau clyweled ar yr oriel newydd.
Presennol yn lansiad y prosiect Gwreiddiau Ifanc/Young Roots yng Nghaer Alyn.
Wedi bod ar ddiwrnod hyfforddi da iawn am y Cyfnod Sylfaen a fydd yn parhau'r mis nesaf.
Wedi bod i Ysgol Alecsandra i weithio efo Blynyddoedd 5 a 6. Wnaethon ni edrych ar Drychineb Pwll Glo Gresffordd.
Mae aelodau Tîm Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y dref yn cyflwyno gweithdai yn Ysgol Morgan Llwyd. Byddai wedi bod yn braf cynnal y gweithdai yn yr Amgueddfa ond yn swyddogol rydym yn dal yn safle adeiladu.
Ymwelais ag Ysgol Alexandra i weithio gyda dau grŵp o blant a fu’n edrych ar hen deganau. Buont yn gweithio fel curaduron, yn creu eu harddangosfeydd eu hunain, gan eu ‘hagor’ wedyn i’r cyhoedd (gweddill y grŵp). Buont yn chwarae hefyd gyda theganau wedi’u hatgynhyrchu.
Aethom â’r ‘Amgueddfa ar Olwynion’ i Glwb Ar Ôl Ysgol Ysgol Cynddelw. Buom yn edrych ar blentyndod drwy’r oesoedd a chafodd y plant gyfle i wisgo gwisgoedd wedi’u hatgynhyrchu a chwarae gyda theganau priodol. Roedd ‘Marblis’ yn boblogaidd ond teimlent fod ‘Merrills’ yn anodd!
Dychwelodd aelodau o Dîm Addysg y Llyfrgell Genedlaethol i gyflwyno’u hail wythnos o weithdai. Mae’r plant sy’n cymryd rhan yn mwynhau’r cyfle hwn yn fawr.
Cyfarfûm â’r grŵp disgyblion o Ysgol St Joseph sy’n mynd i helpu gyda’r prosiect Casys Coridor ar gyfer yr amgueddfa ar ei newydd wedd. Fe ddechreuon nhw feddwl am y pethau sy’n cael eu harddangos mewn amgueddfa a beth mae angen i ymwelwyr ei wybod. Y tro nesaf y byddaf yn ymweld, byddant yn pleidleisio dros thema.
Rhagor o hyfforddiant am y Cyfnod Sylfaen a sut y gall yr amgueddfa gyfoethogi’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion.
Cyfarfodydd ynglŷn â stoc y siop!!! Pam wnaeth hynny imi feddwl am restrau Nadolig?
Ymwelais â Chlwb Ar Ôl Ysgol Bwlchgwyn i edrych ar Draddodiadau Tymhorol coelcerthi a ‘chadis’.
Ymwelais ag Ysgol Gynradd Cefn Mawr i gyflwyno 2 weithdy ar yr Ail Ryfel Byd i Flynyddoedd 5 a 6. Dyluniodd y plant fygydau nwy arbennig ymysg pethau eraill.
Ymwelais â Chlwb y Tu Allan i’r Ysgol y Tylluanod yn Ysgol Garth i edrych ar Draddodiadau Tymhorol – y ‘cadis’ a enillodd.
Llawer o gyfarfodydd ynglŷn â’r casys coridor y mae amryw o grwpiau yn helpu i’w curadu.
Ymwelais â Chlwb Ar Ôl Ysgol Barker’s Lane i edrych ar sut fath o fywyd yr oedd pobl Wrecsam yn ei gael yn ystod y rhyfel, yn enwedig os oeddech yn blentyn. Gwnaed Llochesi Anderson lliwgar iawn hefyd.
Cymerais ran mewn gweithdy sy’n dod i’r amgueddfa yn y flwyddyn newydd. Llawer iawn o hwyl!
Ymwelais ag Ysgol St Joseph i ganfod y thema ar gyfer eu cas coridor, sef Plentyndod. Mae’r grŵp yn edrych ymlaen yn fawr erbyn hyn at ddewis yr arteffactau.
Paratoadau terfynol ar gyfer gweithdy peilot sydd i gael ei gyflwyno mewn ysgol yr wythnos nesaf.
Cyflwyno’r gweithdy peilot ar thema’r Tuduriaid yn Ysgol Babyddol St. Mary’s. Roedd yn ddiddorol iawn gweld y plant yn dylunio gwisg i Frenin a Brenhines.
Ymwelais ag Ysgol Darland sy’n helpu gyda’r prosiect Casys Coridor i ganfod beth yw eu thema nhw. Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y diwydiant glo ac ar Drychineb Gresffordd yn arbennig.
Ymunais mewn dwy funud o dawelwch teimladwy iawn.
Euthum i Noson Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac agoriad eu harddangosfa yn y Llyfrgell.
Mynd â’r Sioe Ffordd fawr i Ddiwrnod Hanes Teuluol a Lleol yng Ngholeg Iâl. Dim plant ond rhai oedolion hynod ddiddorol a gwybodus.
Roeddwn yn ddigon lwcus i gael fy ngwahodd i wylio un o’r ffilmiau a fydd yn cael ei dangos yn y brif oriel newydd yn cael ei ffllmio. Diddorol dros ben!
Dau ddiwrnod da iawn gyda Blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Victoria yn edrych ar Brydain ers y 1930’au ond yn canolbwyntio’n arbennig ar Wrecsam yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cyfarfod diddorol iawn â rhai o’r bobl sy’n cymryd rhan mewn ffilm arall ar gyfer yr oriel newydd. Mae yna hanesion gwych yn disgwyl i gael eu hadrodd.
Euthum â’r Amgueddfa fach ar Olwynion i Gefn Mawr. Roedd y ffotograffau yn llwyddiant mawr.
Ymwelais ag Ysgol Victoria i feirniadu eu prosiect Wrecsam Hanesyddol. Roedd gwaith rhagorol wedi cael ei gynhyrchu ac roedd yn benderfyniad anodd. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n ymwneud â’r prosiect.
Prynhawn diddorol yn edrych ar ‘doriad y cyfarwyddwr’ o’r ffilm a ffilmiwyd yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â chreu Celc yr Orsedd! Byd Hollywood! Diolch i Ancient Arts am eu holl help i wneud y prosiect yn llwyddiant.
Mae masgot yr amgueddfa wedi cael ei enwi … croeso i BRYN. Llawer o ddiolch i ddisgyblion Ysgol St Mary’s, Brymbo, am eu holl help.
Ymweld ag Ysgol Sant Joseff i ddechrau edrych ar wrthrychau i’w blwch arddangos yn y cyntedd, a meddwl am sut i osod y gwrthrychau i’w dangos ar eu gorau.
Es â’r ‘Amgueddfa ar Olwynion’ i’r clwb ar ôl ysgol yn Ysgol Cynddelw i gynnal sesiwn ar grefftau Nadolig traddodiadol. Cynhyrchodd y plant gardiau ac addurniadau coeden Nadolig hardd iawn.
Davies Community Films yn yr amgueddfa i ffilmio cyfraniadau i adran ‘Hippodrome’ yr oriel newydd.
Es â’r ‘Amgueddfa ar Olwynion’ i glwb ar ôl ysgol Bwlchgwyn i gynnal sesiwn ar Grefftau Nadolig Fictoraidd. Rhoddodd y plant gynnig ar wnïo addurniadau coeden Nadolig yn defnyddio lafant a gwneud cardiau. Creadigol iawn ac roedd yr holl lafant yn arogli’n hyfryd.
Wedi mynd â masgot yr amgueddfa, Bryn, i gwrdd â’r plant yn Ysgol y Santes Fair, Brymbo, wnaeth ei enwi ac sy’n mynd i’r ysgol ychydig o strydoedd draw o’r fan lle cafodd ei ddarganfod yn 1958.
Dechrau llenwi bocsys gan fod y swyddfa’n symud yn ôl i adeilad yr amgueddfa.
Mwy o bacio a’r symud yn ôl ar raddfa fechan yn digwydd! Bydd y symud mawr yn digwydd ddiwedd y flwyddyn!
Cyfarfodydd a mwy o gyfarfodydd! Cynnal clyweliadau ag artistiaid lleisiol sy’n medru siarad Cymraeg a Saesneg ar gyfer un o’r cyflwyniadau clyweledol newydd.
Daeth Ysgol Rhosnesni i’r amgueddfa i wneud eu dewis terfynol o ran gwrthrychau ar gyfer y Blwch Arddangos yn y cyntedd, a chawsom drafodaeth dda iawn am ddogni. Ni chafodd y nwyddau wedi’u dogni eu cynnwys yn yr arddangosfa derfynol!
Daeth Cyfeillion yr Amgueddfa draw i wneud eu dewis terfynol o ran gwrthrychau i’r Blwch Arddangos yn y cyntedd. Pwy sy’n medru cofio prisiau diodydd yn yr 1950au?
O rargol, mae hi’n Chwefror yn barod! 13 diwrnod i fynd! O leiaf mae gwrthrychau yn y Blychau Arddangos yn y cyntedd yn awr.
Syniadau ynghylch y panelau yn Oriel 2 wedi’u hanfon at Martin er mwyn iddo eu trawsnewid â’i hud a lledrith dylunio.
Ymweld â chlwb ar ôl ysgol Bwlchgwyn i ystyried y Tuduriaid. Mwynhaodd y plant wisgo’r dillad a’r esgidiau allanol pren i gadw eu traed o’r mwd. Fe wnaeth pob un gyfrannu at wneud pomander oren a chlofau. Llawer o hwyl!
Drafftiau cyntaf y panelau ar gyfer Oriel 2 wedi cyrraedd. Angen mân fireinio ond maen nhw’n edrych yn dda.
Es â rhai o weithgareddau’r wibdaith i Ŵyl Hanes Wrecsam ym Mhrifysgol Glyndwr.
Es i Ysgol Rhiwabon i arwain sesiwn trin gwrthrychau ynghylch Dyn Brymbo a’i gyfnod. Na, wnaethon ni ddim mynd â’i sgerbwd, dim ond rhai arteffactau wedi’u hatgynhyrchu.
Cyflwyno sgwrs ar Deganau yn y Gorffennol i Glwb Merched Parciau. Gwnaeth rhai o’r merched roi cynnig ar y rhaffau sgipio a’r gwpan â phêl ac roedden nhw’n well na fi!
Dechrau glanhau’r daliwyr eitemau ar gyfer y blychau arddangos yn Oriel 2.
Gorffen y blychau arddangos yn Oriel 2. Mae’r arddangosfa gyntaf yn dangos rhai o’r eitemau o Gasgliad Pel-droed Cenedlaethol Cymru. Pwy fyddai yn eich Neuadd Arwyr chi?
Gwaith yn prysuro yn y Brif Oriel wrth i erwau o wydr gael ei lanhau, gwrthrychau gael eu gosod mewn blychau, labelau’n cael eu gosod ar y silffoedd cywir a’r sugnwr llwch yn glanhau’r carpedi.
Dyma’r diwrnod mawr! Pryd ymddangosodd yr olion bysedd ’na!?
Rydyn ni’n falch iawn â’r ymateb gan yr holl bobl ddaeth i’n gweld ni ar ein diwrnod cyntaf, ac fe wnaeth Bryn fwynhau cwrdd â phawb.
Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r amgueddfa yn ystod y misoedd nesaf.