O’r Robiniaid I’r Dreigiau
Arddangosfa newydd yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae 'O’r Robiniaid i’r Dreigiau' yn arddangosfa ffotograffiaeth sy’n canolbwyntio ar Glwb Pêl-droed Wrecsam a’r Cae Ras, sef dau beth sydd wedi bod wrth graidd llawer o ddrama yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae Les Evans, cefnogwr Clwb Wrecsam a chyn ffotograffydd gyda’r Wrexham Evening Leader, wedi dilyn y clwb ers sawl blwyddyn. Yn ei drydedd arddangosfa a’r un fwyaf uchelgeisiol, mae Les wedi dewis cyfres o’i luniau trawiadol ei hun sy’n dal brwdfrydedd y cefnogwyr, yr hyn sy’n digwydd ar y cae a’r cymeriadau sydd wrth graidd y digwyddiadau sydd wedi bygwth dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r Cae Ras.
Pan gynlluniwyd yr arddangosfa, nid oedd Les Evans na staff yr amgueddfa’n gwybod a fyddai’n ddathliad wrth i’r clwb gael ei achub neu’n angladd i glwb a oedd wedi colli ei gartref. Ar sawl achlysur yn ystod paratoi’r agoriad, gallai Wrecsam fod wedi colli ei chlwb a’i maes hanesyddol. Fodd bynnag, gyda pherchnogion newydd yn y Cae Ras, mae’r ffotograffau’n adrodd stori bositif a fydd yn calonogi cefnogwyr a pheri i eraill holi pam fu cymaint o amheuaeth ynghylch dyfodol y clwb.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys pethau cofiadwy o Gasgliad Pêl-droed Cymru a chwaraewyr enwog Wrecsam. Mae’r arddangosfa’n adrodd stori’r clwb o’i gychwyn yn 1872 ac mae’n caniatáu i chi gyfrannu eich atgofion eich hun i’r stori.
Agorwyd yr arddangosfa’n swyddogol gan Anthony Fairclough, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, ddydd Llun, 27 Tachwedd am 6.15pm. Mae’r arddangosfa yn yr amgueddfa tan 14 Ebrill 2007 a bydd yn cynnwys cyfres o weithgareddau i gefnogwyr iau. Cadwch lygad allan am feriswn ar-lein yr arddangosfa hefyd!

Concwest a Daliadaeth – y dystiolaeth a adawodd y llengfilwyr Rhufeinig ar ôl
Ysgol Ddydd Archeoleg Wrecsam, NEWI, dydd Sadwrn 11eg Tachwedd 2006.
Parodd daliadaeth y Rhufeiniaid dros dair canrif a hanner. Pa dystiolaeth a adawont ar ôl? Ceir yr atebion yn yr ysgol ddydd archeoleg ar gyfer eleni.
Unwaith eto, mae Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam yn cynnal eu hysgol ddydd archeoleg boblogaidd. Y thema eleni yw ‘Concwest a Daliadaeth - y dystiolaeth a adawodd y llengfilwyr Rhufeinig ar ôl.’

Cewch gyfle i glywed gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes archeoleg Rufeinig a darganfod yr ymchwil diweddaraf gan archeolegwyr go iawn am effaith y fyddin Rufeinig ar Gymru a Phrydain. Mae ein hysgol ddydd archeoleg yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archeoleg, p’un a ydych yn fyfyriwr yn y coleg, rhywun sy’n ymddiddori mewn canfod metel, rhywun sy’n gwylio rhaglenni teledu megis ‘Time Team’ a ‘Meet Your Ancestors’ neu rywun sy’n hoffi ymweld â gweddillion hynafol yn eich amser hamdden.
Cynhelir yr ysgol ddydd hon ddydd Sadwrn 11eg Tachwedd o 10.00am tan 4.00pm. Mae tocynnau ar gael i’w prynu o Amgueddfa Wrecsam. Galwch heibio i’r amgueddfa: o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am – 5.00pm a dydd Sadwrn 10.30am –3.00pm. Cost y tocynnau yw £10 i oedolion, £8 gostyngiadau, £5 i fyfyrwyr mewn addysg lawn amser.
Fel arall, ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 317 970 neu e-bostiwch museum@wrexham.gov.uk a gallwn anfon ffurflen neilltuo atoch trwy’r post.
Gwrthrychau Dirgel yr Amgueddfa
Mae Amgueddfa Wrecsam yn dathlu'r mis amgueddfeydd ac orielau gyda chystadleuaeth a fydd yn rhoi her i bob plentyn chwilfrydig. Mae staff wedi pori drwy'r casgliadau ac wedi darganfod pethau rhyfeddol, pethau hynafol a phethau od. Mae pob un ohonynt yn cael eu harddangos, felly'r her yw ceisio darganfod beth ydynt a beth oeddent yn ei wneud.

Bydd y gwrthrychau'n cael eu harddangos drwy'r hanner tymor a gwyliau'r haf. Nid oes raid i chi dalu i gystadlu a phenodir beirniaid proffesiynol i ddewis yr enillwyr.
Olion traed: Taith trwy'n gorffennol
Agorodd arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam ddydd Sadwrn 7 fed Mai. Mae'r arddangosfa'n rhoi trosolwg o hanes bwrdeistref sirol Wrecsam o Oes y Cerrig hyd amseroedd cyfoes. Dyma'r tro cyntaf i hanes y fwrdeistref sirol gael ei gyflwyno mewn un arddangosfa.

Yn ystod yr arddangosfa, ceir cyfle prin i weld Siarter Holt o 1563 a dwy fyrllysg ddefodol Bwrdeistref Holt. Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Tref Holt am gytuno i fenthyca'r arteffactau pwysig hyn i'w harddangos yn yr amgueddfa.

Bydd yr arddangosfa'n cau ar 25 ain Mehefin, fodd bynnag bydd Olion Traed ar gael ar lein yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn croesawu ysgolion
Mae cyfres o weithdai newydd i ysgolion wedi'u creu ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd. Bydd y gweithdai'n addas i blant yng Nghyfnod Allweddol 2 (7 - 11 oed). Bydd y plant yn dysgu am hanes Pyllau Plwm y Mwynglawdd ac yn archwilio priodweddau a defnydd deunyddiau megis creigiau a metelau. Bydd ymweliad â'r pyllau plwm yn brofiad dysgu pleserus, ac yn cysylltu â'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar yr un pryd.

Mae'r gweithdai ar gael bob dydd Mawrth a dydd Iau yn ystod mis Mai a mis Mehefin. Am fanylion, ffoniwch y Swyddog Addysg yn yr amgueddfa.
Y dyfodol - rhowch eich barn
Mae'r cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn symud yn ei flaen i adnewyddu Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os ydych am weld amgueddfa o'r 21 ain ganrif sy'n addas i Fwrdeistref Sirol Wrecsam, rhowch eich barn. Gellwch gwblhau arolwg ar lein (sydd ar gael ar y wefan hon), cwblhau arolwg yn yr amgueddfa neu ysgrifennu at eich cynghorydd lleol.
Chwe deg o flynyddoedd yn ddiweddarach
Mae chwe deg o flynyddoedd wedi mynd heibio ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Os hoffech atgofio sut oedd bywyd bryd hynny, a sut mae'r byd wedi newid, rhowch gynnig ar ein blychau atgofion. Mae'r blychau'n cynnwys arteffactau gwreiddiol, deunyddiau printiedig ac atgynhyrchiadau i'ch helpu i hel atgofion a siarad am y dyddiau a fu.

Mae wyth o flychau ar gael i'w hurio:
- Hen Wrecsam
- Diwrnod i'r Brenin
- Byw drwy'r Rhyfel
- Yn y cartref
- Dyna adloniant
- Sut oeddem yn bwyta - Bwyd ar ddogn
- Sut oeddem yn bwyta - Cloddio i fuddugoliaeth
- Sut oeddem yn bwyta - 1945-54
Cysylltwch â'r amgueddfa ar 01978 317 970 am fwy o wybodaeth.
Storïau Digidol
Mae Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam a Chanolfan Addysg Amgylcheddol Legacy yn gweithio ar brosiect newydd gydag ysgolion lleol. Bydd yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn ymchwilio i dreftadaeth lofaol Wrecsam mewn gweithdai arbennig yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers. Bydd pob ysgol hefyd yn ymweld â'r safle pen pwll yn y Bers a rhoddir cyfle i'r disgyblion ganfod mwy am fwyngloddio gan gyn gloddiwr go iawn.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Darganfyddiad newydd o dan y Mwynglawdd
Mae ogofwyr lleol wedi dod o hyd i dystiolaeth o fwyngloddio cynhanesyddol ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd. 150 troedfedd o dan y ddaear a chwarter milltir y tu mewn i'r mwyngloddiau, bu i'r ogofwyr ddarganfod maen llifo cynhanesyddol. Bu i'r profion cyntaf ganfod cwarts a galena ar du mewn y garreg, gan brofi ei bod wedi'i defnyddio i brosesu mwynau yn y Mwynglawdd.
Dywed Karina Kucharski, Archaeolegydd y Sir, fod y garreg yn ddarganfyddiad cyffrous. "Er i waith ymchwil barhau i ddyddio'r garreg, mae'n debygol mai dyma'r dystiolaeth gyntaf o fwyngloddio cynnar yn y Mwynglawdd. Trwy drugaredd, mae'r sawl a ddaeth o hyd iddi wedi cytuno i ni arddangos y garreg yn yr amgueddfa."
Gweithfeydd Haearn y Bers
Mae Brian Gresty, Cynorthwy-ydd y Gweithfeydd Haearn a David Bowers, Swyddog Gwasanaethau Ymwelwyr, yn paratoi'r gweithfeydd haearn ar gyfer haf arall. Mae gwaith ar y gweill i drwsio'r llwybrau ac mae byrddau dehongli newydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr haf i roi gwybod i ymwelwyr am y safle hanesyddol hwn.

Mae Brian Gresty wedi bod yn hyrwyddo'r gweithfeydd haearn yn yr UDA. Rhoddodd sgwrs wrth deithio'r Unol Daleithiau gan roi gwybod i'r Americanwyr sut fu i John Wilkinson chwarae rhan yn Rhyfeloedd Annibyniaeth America.
Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Mae Pyllau Plwm y Mwynglawdd ar agor unwaith eto. Mae byrddau dehongli newydd wedi'u gosod sy'n adrodd hanes y pyllau plwm. Bydd adluniad newydd yn helpu cynorthwywyr y safle i arwain ymwelwyr. Mae'r adluniad yn dangos sut fyddai Pyllau Plwm y Mwynglawdd wedi edrych yn 1870. Bydd fersiwn ar gael ar lein yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Canolfan Treftadaeth y Bers
Mae'r Bers yn lle perffaith i fynd â'r plant am brynhawn yn yr awyr agored. Gellwch archwilio dyffryn Clywedog a'i llwybr, mae man parcio cyfleus a bwyd a diod ar gael yn y Ganolfan Treftadaeth, a'r haf hwn bydd digon o weithgareddau i ymwelwyr iau. Bydd Glowyr Bychain ar gael tan ddiwedd mis Mehefin, ac yn ystod arddangosfa'r haf, bydd gweithgareddau gwneud pypedau ar gael yn yr oriel bob dydd.

Am fwy o hwyl a sbri i'r teulu, mae gan y Rali Ceir Tras a Cheir Hen Ffasiwn weithgareddau i blant yn ogystal â'r cyfle i weld hen geir a beiciau modur ardderchog.


Time Flies - Hed Amser: Arddangosfa am glociau, clocwyr a dweud yr amser
Arddangosfa newydd yn agor yn Amgueddfa Wrecsam - Ionawr 29ain 2005.
Mae'r clociau'n tician ac yn arbennig felly yn Amgueddfa Wrecsam am y tri mis nesaf wrth i'r arddangosfa dros dro newydd am glociau agor.
Mae gan Wrecsam draddodiad o wneud clociau ac arddangosir rhai o'r clociau rhyfeddol hyn gan gynnwys clociau mawr arbennig a wnaed gan grefftwyr Wrecsam yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Tra fo'r hen glociau hyn oll yn canu ar wahanol amseroedd, byddwch yn gallu archwilio'r agweddau eraill o'n bywydau a lywodraethir gan amser: clocio i mewn i weithio, y peiriant gwneud te, dyddiaduron a chalendrau a'r dathliadau arbennig yng ngorffennol Wrecsam.
Dywed Jonathan Gammond, swyddog yr arddangosfa "Mae'n dda gweld casgliad yr amgueddfa o glociau mawr yn cael ei arddangos. Maent yn weithiau peirianyddol a chrefftus arbennig hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno beth yw'r gloch yn berffaith."
Gall plant lunio eu modelau o glociau mawr eu hunain a gall teuluoedd brofi eu gwybodaeth o hanes ac amser yn ein gweithgaredd llinell amser.
Dymuna Amgueddfa Wrecsam ddiolch i Mr W. Hyde, Mrs Beryl Morgan Jones a Mr Bob Gray am eu help wrth baratoi'r arddangosfa hon.
Cynhelir yr arddangosfa hyd 6ed Ebrill ac mae'r amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Amgueddfa ar 01978 317 970.
Arddangosfa Newydd yn Amgueddfa Wrecsam
"Oes y Tywysogion"
A ydych chi erioed wedi eisiau canfod mwy am hanes Cymru cyn i Edward I orchfygu ein gwlad? Os ydych, dylech ymweld â'r arddangosfa ddiweddaraf yn Amgueddfa Wrecsam.
Mae'r arddangosfa yn ddarn o waith ar y cyd rhwng Gwasanaethau Treftadaeth Wrecsam a Nikolaj Thon, casglwr ac ail-grëwr canoloesol. Mae'r arddangosfa'n dangos sut fywyd oedd yng Nghymru yn y canol oesoedd, ac yn cynnwys casgliad rhyfeddol Nikolaj Thon o wrthrychau canoloesol a dyblygiadau manwl-gywir. Mae yna hefyd lu o weithgareddau i blant yn yr oriel sy'n eu helpu i ddysgu am ein hynafiaid canoloesol.
Ceir mynediad am ddim i'r arddangosfa, ac mae'n rhedeg tan ddiwedd gwyliau'r hanner tymor ym mis Hydref.
Y Canol Oesoedd yn dod yn fyw yn Amgueddfa Wrecsam!!
Os oeddech chi yng nghanol tref Wrecsam ar ddydd Sadwrn Awst 14 eg , efallai y gwelsoch rai gymeriadau canoloesol y tu allan i'r Amgueddfa. Daeth Samhain - Cymdeithas Ganoloesol Cymru- i'r Amgueddfa fel rhan o'n Diwrnod Canoloesol cyntaf i gyd-fynd ag arddangosfa "Oes y Tywysogion". Grwp o ogledd Cymru yw Samhain sy'n arbenigo mewn arddangosiadau sy'n ail-greu diwedd y Canol Oesoedd yng Nghymru.

Perfformwyr Samhain y tu allan i Amgueddfa Wrecsam
Ond, peidiwch â digalonni, oherwydd bydd Cwmwd Iâl, grwp ail-greu lleol sy'n arbenigo yn y Canol Oesoedd cynnar yn ymweld ag Amgueddfa Wrecsam ar ddydd Sadwrn Medi 25 ain. Bydd y rhyfelwyr hyn o Wrecsam wrth law i ddangos sgiliau milwr Cymreig o'r Canol Oesoedd cynnar ac i esbonio offer, dillad a ffordd o fyw y bobl a oedd yn byw yng Nghymru yn yr 11eg - 12fed ganrif.

Cwmwd Iâl wrth eu gwaith

Ferch Saxon yn coginio
Mae nifer o berfformwyr Cwmwd Iâl yn bobl leol, felly dewch i weld sut mae pobl leol yn helpu i ddosbarthu gwybodaeth am hanes Cymru. Mae'r digwyddiad yn un di-dâl, felly mi welwn ni chi yno. Bydd gweithgareddau eraill i blant ar y diwrnod.
Diwrnod Agored Glofa'r Bers - Medi 19eg
Bydd Glofa'r Bers ar agor i ymwelwyr ar ddydd Sul Medi 19eg fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd. Ben pwll y lofa yw un o'r unig atgofion o dreftadaeth mwyngloddio Wrecsam sy'n bodoli hyd heddiw. Bydd safle'r ben pwll ar agor o 1pm - 5pm. Bydd croeso cynnes iawn i unrhyw gyn-lowyr a'u teuluoedd gan ein bod bob amser yn awyddus i gwrdd â phobl sy'n gysylltiedig â'r lofa neu'r pyllau cyfagos ar faes glo gogledd Cymru.
Cyfarwyddiadau i'r safle ar gael

o dan y ddaear yng Nglofa'r Bers
trwy garedigrwydd Michael Owens a NCB
Trychineb Glofa Gresffordd - Gwir Werth Glo
Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Wrecsam yn paratoi arddangosfa i goffáu 70 mlynedd ers Trychineb Glofa Gresffordd. Mae'r arddangosfa'n rhan o gyfres o ddigwyddiadau cymunedol sy'n cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol i gofio un o'r dyddiau duaf yn hanes diweddar Wrecsam. Cynhelir gweithdai addysg hefyd fel y gall plant ysgol lleol ymchwilio i'r digwyddiad pwysig hwn o ran hanes lleol.
Os oes gennych unrhyw ffotograffau neu bethau cofiadwy sy'n ymwneud nid yn unig â'r Drychineb, ond yn gyffredinol â hanes mwyngloddio Wrecsam, cysylltwch â'r Swyddog Arddangosfeydd yn Amgueddfa Wrecsam . Gellwch naill ai ei ffonio ar 01978 317970, anfon ebost at: museum@wrexham.gov.uk neu alw heibio i'r Amgueddfa yn ystod oriau agor. Bydd pob benthyciad yn cael ei gydnabod a'i ddychwelyd pan ddaw'r arddangosfa i ben.

Y timau achub, Trychineb Glofa Gresffordd, 1934.
Drwy garedigrwydd y Wrexham Leader
Tîm Hanes ac Archaeoleg Wrecsam
Mae Tîm Hanes ac Archaeoleg Wrecsam wedi bod ar daith yr haf hwn yn dod â hanes ac archaeoleg i bob rhan o'r fwrdeistref. Bydd y tîm yn ymddangos am y tro olaf yr haf hwn ym Mharc Ponciau ar ddydd Sadwrn Medi 4ydd . Mae'r sioe deithiol yn gyflwyniad arbennig i'r hyn y mae Amgueddfeydd Wrecsam yn ei gynnig. Lluniwyd y gweithgareddau yn arbennig ar gyfer plant 5 oed neu'n hyn.
Os byddwch yn trefnu gwyl bentref neu garnifal neu ddigwyddiad cymunedol mawr, yna cysylltwch â'r Amgueddfa gan fod y Tîm yn chwilio am leoliadau addas ar gyfer 2005.
Il Gigante Buono - Y Cawr Caredig
Bu sawl seren yn ffurfafen bêl-droed Cymru, ond yr un mwyaf disglair o bell ffordd oedd John Charles. Roedd gan John Charles y sgiliau, y ddawn, y carisma a'r bersonoliaeth. Gwnaeth ei farc ym mhob man, heblaw am lyfr bach du y dyfarnwr.
Mae Amgueddfa Wrecsam yn cynnal dangosiad cyntaf arddangosfa deithiol fawr gan The Gentle Giant Trust sy'n dathlu bywyd John Charles a'r esiampl a osododd ar gyfer dilynwyr pêl-droed ym mhedwar ban y byd.
Cynhelir yr arddangosfa i fyny'r grisiau yn Amgueddfa Wrecsam mewn ystafelloedd a baratowyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon. Mae'r arddangosfa'n agor ar Hydref 4ydd ac yn dod i ben ar Ragfyr 18fed. Ceir mynediad am ddim.

John Charles yn ddyn ifanc gyda'i gyd-chwaraewyr yn nhîm cenedlaethol Cymru. John Charles yw'r trydydd o'r chwith yn yr ail res y tu ôl i Trefor Ford, ail o'r chwith, un o sêr pêl-droed eraill Cymru.
Dychwelyd i Newyddion Amgueddfa
Ail-Greadau: Dychmygu Ein Gorffennol

Adluniad o Fantell yr Wyddgrug fel y gwisgwyd gan ferch rymus. Tony Daly 2005, NMGW
|
Gan gynnwys Mantell yr Wyddgrug
Medi 26ain - Rhagfyr 17eg 2005.
Ail-greadau: Dychmygu ein Gorffennol yw'r arddangosfa ddiweddaraf yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'r arddangosfa yn ail-lunio ein gorffennol, er mwyn i ni fynd yn agosach at ddeall sut yr oedd ein hynafiaid yn byw o'r dystiolaeth sydd wedi ei adael.

Mantell yr Wyddgrug cyn ei adlunio yn 2002 gan yr Amgueddfa Brydeinig.
© Yr Amgueddfa Brydeinig
Canolbwynt yr arddangosfa yw Mantell yr Wyddgrug sydd ar fenthyg gan yr Amgueddfa Brydeinig. Mae'r fantell o'r Oes Efydd sy'n dyddio'n ôl 3,500 mlynedd, yn waith arbennig o grefftus a hardd. Mae'r fantell yn un o'r canfyddiadau mwyaf cyffrous yng nghynhanes Cymru. Mae wedi ei hail-ddehongli sawl gwaith gan i guraduriaid ac archeolegwyr ymdrechu i ddeall ei swyddogaeth a'i hystyr yn Oes Efydd Cymru.
Mae Mantell yr Wyddgrug yn o ddeg trysor mwyaf gwerthfawr yr Amgueddfa Brydeinig. Arddangosir y fantell am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru ers dod o hyd iddi yn yr Wyddgrug yn 1833. Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i'w weld yma yn Wrecsam.
Yn Ail-greadau: Dychmygu ein Gorffennol, gellwch ddarganfod y technegau amrywiol a ddefnyddiwn i ddeall ein gorffennol: adluniadau dau-ddimensiwn a tri-dimensiwn o safleoedd, gwrthrychau a phobl hanesyddol bwysig ac archeoleg arbrofol. Byddwch yn dysgu sut y mae ein dehongliadau o'n treftadaeth wedi newid dros amser a sut mae'r canfyddiadau diweddaraf yn ein helpu i roi darnau o hanes Cymru at ei gilydd.

Llun sy'n adlunio Castell a Bwrdeistref Conwy c1305.
©Cadw
Mae'r arddangosfa'n cynnwys cyfres o ddarluniadau o adluniadau o safleoedd mwyaf hanesyddol gogledd Cymru sydd ar fenthyg gan Cadw. Mae safleoedd pwysig megis y caer Rufeinig Segontiwm, Castell Rhuddlan a Chastell a Bwrdeistref Dinbych i gyd wedi eu hadlunio, gan ein tywys yn ôl cannoedd o flynyddoedd i weld y mannau hyn fel yr oeddynt yn ymddangos unwaith.

Saethwr llawn o faint mewn copïau o ddillad o gyfnod Owain Glyndwr, c1405, crëwyd gan NMGW
©NMGW
Mae'r arddangosiadau o Oriel ac Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd yn cynnwys copi cywir o frigwn Capel Garmon o'r Oes Haearn, sy'n un o'r darnau mwyaf pwysig o gelfyddyd cyn-hanesyddol ym Mhrydain, a chopi llawn faint o saethwr o gyfnod Owain Glyndwr. Yn ystod yr arddangosfa edrychwch allan am newyddion am ganfyddiad cyffrous a brynwyd yn ddiweddar gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, a fydd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf un yng Nghymru yma yn Wrecsam.
Crëwyd Ail-greadau: Dychmygu ein Gorffennol yn wreiddiol gan Dr Mark Redknap a'i gydweithwyr yn Adran Archeoleg a Niwmismateg yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru . Ar y cyd â staff Amgueddfa Wrecsam a'r Amgueddfa Brydeinig, mae tîm Dr Redknap wedi creu fersiwn arbennig o'r arddangosfa ar gyfer Wrecsam.
Digwyddiadau - Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cydnabyddiaethau
Trefnir Ail-greadau: Dychmygu ein Gorffennol mewn partneriaeth ag Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Cadw a'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r arddangosfa'n ymddangos yn Wrecsam diolch i gynllun Cyfoeth Cymru Gyfan - Sharing Treasures, a weinyddir gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru.
Mae Mantell yr Wyddgrug ar fenthyg drwy gynllun Partneriaeth y DU yr Amgueddfa Brydeinig, gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Dorset.
Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru
Arddangosfa newydd 'Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru' a arddangosir yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, o 14eg Awst tan 4ydd Tachwedd 2006.

Harlech Castle gan Paul Sandby, dyfrlliw, 1776
© Amgueddfeydd ac Orielau Leeds
Os ydych chi wrth eich bodd â chelf a golygfeydd godidog gogledd Cymru, dylech sicrhau eich bod yn ymweld ag Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam i weld 'Paul Sandby, Syr Watkin a Thirweddau Gogledd Cymru' a agorodd ddydd Llun, 14eg Awst.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys lluniau, lluniau dyfrlliw a pheintiadau olew Paul Sandby, yr arlunydd nodedig o'r 18fed ganrif. Ysbrydolwyd pob un o'r gweithiau celf yn yr arddangosfa gan daith Paul Sandby o amgylch gogledd Cymru yn 1771 yng nghwmni'r tirfeddiannwr lleol, Syr Watkin Williams Wynn.
Aeth Paul Sandby ymlaen i gyhoeddi XII Views in North Wales yn 1776, sef casgliad o brintiau arddull dyfrlliw a elwir yn acwatintau. Mae'r acwatintau hyn yn cynnwys rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol gogledd Cymru ac mae chwech o acwatintau gwreiddiol yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa. Trwy gyhoeddi XII Views in North Wales roedd tirweddau Cymru ar gael am y tro cyntaf a thrawsffurfiodd y casgliad agweddau tuag at gefn gwlad Cymru yn arbennig yn Lloegr.
O ganlyniad, yn sydyn daeth Cymru yn lle ffasiynol iawn i ymweld â hi a dechreuodd twristiaid heidio i weld Eryri, Dyffryn Llangollen a chestyll canoloesol megis Harlech, Conwy a Chaernarfon. Daeth arlunwyr megis William Turner i Gymru i beintio a thynnu lluniau hefyd, pob un wedi'i ysbrydoli gan waith Paul Sandby.
Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys gwaith celf ar fenthyg o rai o amgueddfeydd ac orielau gorau Cymru a Lloegr gan gynnwys yr Oriel Ddarluniau Genedlaethol, Tate Prydain, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Oriel Gelf Walker yn Lerpwl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llawer mwy.
Dyma'r tro cyntaf i nifer o'r gweithiau hyn gael eu harddangos yng Nghymru, y wlad a ysbrydolodd eu cread.
Mae'r arddangosfa yn gosod peintiadau a phrintiau Paul Sandby mewn cyd-destun ac yn adrodd hanes Paul Sandby a Syr Watkin ar eu taith. Mae'r hanesydd celf o Riwabon, Paul Hernon, wedi bod yn guradur ar yr arddangosfa, ac mae wedi creu ffilm sy'n para pum munud ar hugain yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa. Mae'r ffilm yn datgelu'r tirweddau a ysbrydolodd yr holl waith celf a arddangosir ac mae'n adrodd hanes Syr Watkin yn yfed a bwyta ei ffordd o amgylch gogledd Cymru yn 1771, tra bo Paul Sandby yn gwneud brasluniau dechreuol ar gyfer y casgliad o brintiau a drawsffurfiodd agweddau tuag at Gymru.
Mae rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer plant ac oedolion, gweithgareddau oriel, gweithdai creadigol a llythrennedd i ysgolion cynradd sy'n cyd-fynd â'r arddangosfa. Yng Nghanolfan Gelf Wrecsam, mae arddangosfa o brintiau cyfoes o dirweddau gan Luci Meligari yn ategu at yr arddangosfa yn yr amgueddfa.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae'r arddangosfa ymlaen tan 4ydd Tachwedd 2006.
|