Brymbo Bryn, mascot newydd yr Amgueddfa
Braf Eich Cyfarfod
Croeso i Amgueddfa ac Archifdy newydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam!
Pa un ai ydych yn ymwelydd rheolaidd neu dyma’ch tro cyntaf, byddwn yn falch o’ch gweld ac am i chi fwynhau eich ymweliad.
Mae digonedd i’w weld yn eich amgueddfa newydd:
- Oriel newydd yn cynnig cyfle i’r teulu edrych ar gasgliadau’r amgueddfa, mwynhau’r hanesion sydd ganddynt i’w dweud a gweld treftadaeth yr ardal yn fyw ar ffilm
- Oriel newydd i arddangos casgliadau cenedlaethol o bob cwr o Gymru
- Estyniad gwydr lle mae derbynfa groesawus, siop yr amgueddfa a’r Bwtri – caffi newydd cain yr amgueddfa
Picio Heibio
Prin o amser? Neu efallai mai dyma’r tro cyntaf i chi ymweld â’r amgueddfa?
Dyma hufen ein syniadau i deuluoedd:
- Cyfarfod Dyn Brymbo wyneb yn wyneb
- Dilyn eich trwyn trwy strydoedd Wrecsam Fictoraidd
- Ailadeiladu castell canoloesol o’i adfeilion
- Chwilio am yr arteffact rhyfedd a rhyfeddol diweddaraf yn y Cas Hynodion
- Cael seibiant yn y Bwtri gyda bwyd a diod Cymreig rhagorol
Dyma ein chwe awgrym ar gyfer oedolion:
- Gwrando ar y newyddion am gael hyd i Ddyn Brymbo cyn ei gyfarfod wyneb yn wyneb
- Cymryd rhan yn y Gêm Ddyddio. Peidiwch â phoeni os na wyddoch yr holl atebion!
- Edmygu medr gofaint yr Oes Efydd a luniodd wrthrychau Celc yr Orsedd
- Gwylio ffilm yn yr Hippodrome. Dim angen tocyn!
- Cip ar fywyd yn Wrecsam Fictoraidd trwy ddarllen y Borough Reporter. Mae’n dawel yn yr 21ain ganrif mewn cymhariaeth!
- Ymlacio yn y Bwtri, siop goffi’r amgueddfa, a gwylio’r byd yn mynd heibio o’r lle mwyaf hanesyddol yn y dref!
Cynllun yr Amgueddfa i Ymwelwyr
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Cynllun yr Amgueddfa i Ymwelwyr - fformat PDF 4.2Mb 
Archifau Newyddion Amgueddfa
yn ôl i'r brig