Agor Drysau

Agor Drysau yw'r dathliad mwyaf o bensaernïaeth a threftadaeth ledled Cymru.

Mae diwrnodau Agor Drysau'n digwydd drwy fis Medi i gyd ac maent yn cynnig mynediad am ddim i'r cyhoedd i fannau ac adeiladau o ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol. Mae adeiladau sydd fel arfer yn rhad ac am ddim i ymwelwyr yn cynnig rhywbeth bach arbennig.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, bydd Wrecsam hanesyddol yn cymryd rhan. Mae Amgueddfa Wrecsam, Gwaith Plwm Minera yn ogystal â nifer o atyniadau treftadaeth Cymru, grwpiau cymunedol ac unigolion yn cynllunio digwyddiadau arbennig.

Dydd Sadwrn 24ain Medi 2011

Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yng nghyn-orsaf heddlu, llys a barics milwrol y dref.

11am – Tyrrau a Phastynau

Cewch wybod rhagor drwy fynd ar daith egnïol o amgylch pob twll a chornel o'r adeilad. Pwy a ŵyr beth sy'n cuddio yno?

Yn addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant.

12 hanner dydd - Cleddyfau a Chwnstabliaid- Taith o Amgylch Adeiladau'r Sir

Cewch wybod rhagor am gyn-ddeiliaid ar ein taith tywys unigryw.

Yn addas i oedolion.


Dydd Sadwrn Medi 17eg a dydd Sul 18fed Medi 2011

Gwaith Plwm Minera – Penwythnos Agored

Ar Agor: 10am – 3pm

Dyma gyfle i ganfod hanes cloddwyr plwm Minera, y pentref a enwyd ar ôl y mwyn gwerthfawr a ganfuwyd o dan y tir. Rhowch gynnig ar badellu am 'blwm' a mwynhau'r golygfeydd gwych o'r Tŷ Injan.

Taith tywys o amgylch yr olion archeolegol: 11am bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth:

Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref
Sirol Wrecsam
Stryt y Rhaglaw, Wrecsam LL11 1RB
Ffôn: 01978 297 460
E-bost: museum@wrexham.gov.uk
Gwe: www.wrexham.gov.uk/heritage

Ein Horiau Agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am – 5pm
Dydd Sadwrn: 10.30am – 3pm
Amser mynediad olaf: 30 munud cyn cau
Ar gau ar y Gwyliau Banc ac ar ddydd Sul

Drysau Agored - Wrecsam Gyfan

  • Eglwys Santes Fair, Rhiwabon: 3, 10, 17, 24 Medi 1.00pm - 5.00pm
  • Castell Y Waun (Ymddiriedolaeth Genedlaethol): 10 Medi 12.00 canol dydd - 4.30pm (Ystafelloedd Swyddogol)
  • Erddig (Ymddiriedolaeth Genedlaethol): 10 Medi 11.00am - 5.30pm
  • Glofa'r Bers: 25 Medi 10.00am - 4.00pm

Gwelwch y rhestrau digwyddiadau yn y llyfryn hwn i ganfod digwyddiadau Agor Drysau Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam I gael rhagor o wybodaeth ewch I civictrustwales.org

yn ôl i'r brig