Hanes Cefndirol
Erbyn hyn yn Henebyn Rhestredig, adeiladodd John Wilkinson, y diwydiannwr chwyldroadol, Beiriandy Penrhos yn niwedd y 18 Ganrif, er mwyn rhoi peiriant yn yr adeilad i bwmpio dwr o'i bwll glo ar y safle. Credir mai'r peiriandy hwn yw'r peiriandy glofa hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru. Troswyd yr adeilad yn ddiweddarach yn fwthyn - gallwch weld olion yr hen leoedd tân, popty pobi a'r twlc mochyn hyd heddiw!
Gerllaw, adeiladodd Wilkinson 'Potel Brymbo' hefyd, simnai a ddefnyddwyd i gywasgu mygdarthau wrth fwyndoddi reit oddi tanodd. Dymchwelwyd y botel yn rhannol gan y fyddin yn 1962 yn ystod ymarfer hyfforddi.

|