Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Adeiladu'r Draphont Ddwr

 

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r draphont ddwr ar 25ain Gorffennaf 1795.  Cymerodd ddeng mlynedd arall i’w chwblhau.  Cafodd y gwaith adeiladu ei oedi oherwydd newidiadau i’r dyluniadau, diffyg arian, a’r angen i ganolbwyntio ar flaenoriaethau mewn mannau eraill, er enghraifft traphont ddwr Y Waun.

"The division of the canal between Chirk Bank and Pontcysyllte is composed of works more difficult of execution, than can perhaps anywhere be found within an equal distance of canal navigation."

Adroddiad i Gwmni Camlas Ellesmere, 27ain Tachwedd 1805

gweler fersiwn mawr - cliciwch
Darluniau Technegol, Traphont Ddwr Pontcysyllte (gweler fersiwn mawr) ©Ymddiriedolaeth y Dyfrffyrdd

Nid oedd Telford erioed wedi bod yn or-hoff o gynnig Turner i gael traphont ddwr garreg gyda lociau ar bob pen.  Darbwyllodd ef y cwmni i atal y gwaith maen tra’r oedd ef a Jessop yn gweithio ar ddyluniad uwch newydd heb lociau.  Roedd cynnydd yn araf hyd yn oed ar ôl iddynt benderfynu cael cafn haearn wedi’i ddal gan bileri carreg.  Yn 1800, aeth Jessop ati i ymchwilio p’un a fyddai traphont arferol yn ddull rhatach o gysylltu glofeydd Rhiwabon â’r gamlas yn Froncysyllte hyd yn oed.  Ond yn 1801, o’r diwedd penderfynwyd mynd ymlaen â’r draphont ddwr.  Enillodd Hazeldine y contract i wneud y gwaith haearn a goruchwyliwyd y gwaith adeiladu gan dîm Telford.

Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar 16eg Tachwedd 1805.  Roedd yn ddigwyddiad ysblennydd gyda pherchnogion cwmni’r gamlas, y peirianwyr, y gweithwyr, band gwirfoddolwyr Swydd Amwythig yn eu ffurfwisg lawn, a 8,000 o wylwyr.  Taniwyd canonau yn y seremoni wrth i chwech o gychod groesi’r draphont ddwr am y tro cyntaf.


"Nid oedd wedi cymryd deng mlynedd i adeiladu fy nhraphont ddwr. Rhoesant y gorau iddi am gyfnod oherwydd bod rhaid i ni adeiladu traphont ddwr Y Waun yn gyntaf. Mae'n dal yno ar bwys y draphont reilffordd druenus."

Adeiladu'r Draphont Ddwr

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Adeiladu'r Draphont Ddwr - fformat PDF 252Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

 
English
 

Cyswllt i

Croesi'r Dyfrdwy
Pam adeiladwyd y draphont ddwr?
Pwy adeiladodd y draphont ddwr?
Adeiladu'r draphont ddwr
Gwith Go Galed
Pwy oedd yn defnyddio'r gamlas?
Dwr ar Dap
Arwydd o Chwyldro
Cydnabyddiaeth
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint