Arwydd o Chwyldro

"Antiquity has produced no structure, as an aqueduct, which can compare with Pontcysyllte."


Traphont Ddwr Pontcysyllte ©Science & Society Picture Library

Roedd traphont ddwr Pontcysyllte yn brosiect arloesol.  Dyma’r draphont ddwr uchaf a adeiladwyd ar gyfer camlas fordwyol hyd heddiw.  Adeiladwyd y draphont ddwr o ganlyniad i’r angen i ddarganfod ffordd o groesi dyffryn y Dyfrdwy, heb gyfres o lociau a fyddai’n oedi traffig ar y gamlas.  Roedd y draphont ddwr yn gyfuniad galluog o dechnoleg camlesi, dyfeisgarwch diwydiannol a gwaith caled.

Roedd y draphont ddwr hefyd yn gelfyddydwaith.  Roedd twristiaid yn heidio yno i’w gweld yn cael ei hadeiladu.  Roedd 8,000 o bobl yn dyst i’r agoriad.  Roedd peintwyr tirluniau yn cynnwys y draphont ddwr yn eu gweithiau.

Heddiw mae’r draphont ddwr yn arwydd o ddyheadau diwydianwyr lleol, y gwaith caled a pheryglus a gyflawnwyd gan y dynion â’i hadeiladodd ac a weithiai yn y ffowndri, a dymuniad peirianwyr a phenseiri i wella gwyddoniaeth a thechnoleg.


Traphont Ddwr Pontcysyllte ©Archifau Wrecsam

" 'This is the Pont y Cysswllt, sir,' said my guide; 'It is the finest  bridge in the world.' "

George Borrow, Wild Wales, 1862


"Y draphont ddwr oedd y dechnoleg ddiweddaraf pan gafodd ei hadeiladu. Maent yn dweud mai hon yw'r draphont ddwr uchaf yn y byd ar gyfer cychod."

Arwydd o Chwyldro

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Arwydd o Chwyldro - fformat PDF 242Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

yn ôl i'r brig