Dwr Ar Dap


Camlas Llangollen Archifau Wrecsam

Bob tro y mae cwch yn mynd trwy loc ar y gamlas mae’r dwr yn symud o’r lefel uchaf i’r lefel isaf.  Po fwyaf y lociau sydd ar gamlas y mwyaf o ddwr sy’n cael ei symud.  Y lefel brig yw’r lefel uchaf mewn camlas.  Rhaid i gyflenwad cyson o ddwr gyrraedd y lefel brig neu bydd y gamlas yn sychu.


Horse drawn passenger boat on the Llangollen Canal. ©Archifau Wrecsam

Roedd cyflenwi dwr i Gamlas Ellesmere yn broblem i ddechrau.  Oherwydd na adeiladwyd y gamlas o Drefor i Gaer roedd rhaid i’r cwmni ddarganfod cyflenwad dwr arall.  Yr ateb oedd adeiladu camlas fwydo wedi’i chysylltu ag afon Dyfrdwy yn Llantysilio.  Roedd cored yn Llyn Tegid a rhaeadr yr Oernant ar yr afon Dyfrdwy yn sicrhau bod y cyflenwad dwr yn ddigonol.  Dechreuwyd y gwaith o adeiladu’r gamlas fwydo yn 1804, er na chafodd ei chwblhau tan 1808, ar ôl i’r draphont ddwr agor.  Dim ond trwy gael cyflenwad dwr gwarantedig y gallai camlas Ellesmere ymuno â’r prif rwydwaith camlesi.  Roedd y gamlas trwy ddyffryn Llangollen yn fordwyol ac fe’i defnyddiwyd i symud llechi a chalchfaen; hefyd daeth yn atyniad twristiaeth yn gyflym iawn.


Croesi Traphont Ddwr Pontcysyllte Archifau Wrecsam

"The importance of this navigable feeder in relation to the prosperity of the whole canal requires that nothing be spared to render it effective as speedily as possible."

Adroddiad i berchnogion
Cwmni Camlas Ellesmere, 27ain Tachwedd 1805


"Mae'r gamlas honno yn Llangollen yn cyflenwi'r holl ddwr. Hebddi, byddai'r draphont ddwr yn sychu a byddai ein cwch yn sownd yma."

 

Cynlluniau Gamlas Llangollen

Lluniau: ©Ymddiriedolaeth y Dyfrffyrdd/Dyfrffyrdd Prydeinig.

Cynllun Gamlas Llangollen

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynllun Gamlas Llangollen - fformat PDF 650Kb

Cynllun Gamlas Llangollen o Faesterfyn i’r Waun

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynllun Gamlas Llangollen o Faesterfyn i’r Waun - fformat PDF 241Kb

Cynllun Gamlas Llangollen o’r Waun i Trefor

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynllun Gamlas Llangollen o’r Waun i Trefor - fformat PDF 193Kb

Cynllun Gamlas Llangollen o Trefor i Langollen

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynllun Gamlas Llangollen o Trefor i Langollen - fformat PDF 247Kb

Cynllun Gamlas Llangollen o Langollen i Raeadr yr Oernant

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Cynllun Gamlas Llangollen o Langollen i Raeadr yr Oernant - fformat PDF 213Kb

Dwr ar Dap

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Dwr ar Dap - fformat PDF 325Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig