Mae haneswyr yn parhau i ddadlau ynghylch y cwestiwn: pwy oedd yn gyfrifol am ddyfeisio traphont ddwr Pontcysyllte? Roedd nifer o bobl yn gysylltiedig â’r gwaith o’i dylunio a’i hadeiladu.
Thomas Telford
Thomas Telford ©Oriel Bortreadau Genedlaethol |
- Saer maen, pensaer a pheiriannydd. Dylunydd nifer o bontydd, ffyrdd a gweithiau peirianyddol gan gynnwys camlas Celyddon a phont Menai
- Fe’i penodwyd yn "Swyddog Cyffredinol, Syrfëwr, Peiriannydd, Pensaer a Goruchwyliwr y Gamlas" ac roedd yn gyfrifol am yr hyn oedd yn digwydd ar y llawr.
- Brasluniodd draphont ddwr wedi’i gwneud o haearn i gyd mor gynnar â 1794 ac adeiladodd un yn Swydd Amwythig yn 1796. Mae cofnodion yn dangos ei fod wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio’r draphont ddwr.
- Hawliodd y clod am draphont ddwr Pontcysyllte yn ei hunangofiant.
William Jessop
William Jessop ©Oriel Bortreadau Genedlaethol |
- Mae’n debyg mai dyma’r peiriannydd camlesi mwyaf profiadol o’i oed, ac yn ddiweddarach daeth yn uwch beiriannydd ar Gamlas Celyddon.
- Fe’i penodwyd yn brif beiriannydd yn 1791 i gwmni camlesi Ellesmere ac roedd yn rheolwr ar Telford.
- Roedd yn brofiadol yn y technegau diweddaraf mewn adeiladu traphontydd dwr ac roedd yn feistr haearn yn ei fraint ei hun.
- Cymerodd gyfrifoldeb dros y draphont ddwr pan gyflwynwyd cynlluniau i gyfarwyddwyr y cwmni ym mis Gorffennaf 1795. Mae cofnodion yn dangos ei fod wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddylunio’r draphont ddwr.
- Roedd yn rhy wylaidd i ysgrifennu hunangofiant.
William Hazeldine
William Hazeldine ©Oriel Bortreadau Genedlaethol |
- Roedd yn feistr haearn a pheiriannydd profiadol
- Mae cofnodion yn dangos ei gyfraniad i ddyluniad y draphont ddwr cyn i’w ffowndri gael y contract.
- Ysgrifennodd y manylion terfynol ar gyfer dyluniad y cafn haearn ar gyfer traphont ddwr Pontcysyllte.
- Cynhyrchodd adrannau’r cafn a’r bwâu yn ei ffowndrïau ym Mhlas Kynaston, ger y draphont ddwr, ac yn Swydd Amwythig.
William Turner
- Pensaer a anwyd yn Yr Eglwys Wen.
- Roedd ef, ynghyd â John Duncombe, yn gyfrifol am arolygu llwybrau camlas Ellesmere. Ffafriodd lwybr dwyreiniol y gamlas.
- Cyflwynodd gynlluniau dechreuol ar gyfer traphontydd dwr dros y Dyfrdwy a’r Ceiriog yn 1792.
- Collodd y cyfle i fod yn Swyddog Cyffredinol i Thomas Telford.
"His engagement to extend to all architecture and engineering business to the drawing, forming and directing the making of bridges, aqueducts, tunnels, locks, buildings, reservoirs, wharfs and other works"
Disgrifiad o swydd Thomas Telford.
Cofnodion o Gwmni Camlas Ellesmere, 23ain Medi 1793

"Hoffwn i, Thomas Telford, ddiolch i William Jessop, y peiriannydd; William Hazeldine, y meistr haearn; a William Turner, syrfëwr, am eu gwaith caled wrth adeiladu fy nhraphont ddwr."
Pwy Adeiladodd y Draphont Ddwr?
Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Pwy Adeiladodd y Draphont Ddwr? - fformat PDF 193Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig