Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Pam Adeiladwyd Y Draphont Ddwr?

 

"The Ellesmere Canal will open a Communication for the cheap and easy Conveyance of Goods, Wares, Provisions and Merchandize, all heavy Commodities, between the Rivers Severn, Dee and Mersey, will greatly promote and facilitate the Intercourse of Trade and Commerce, will encourage the increase of manufactures, and will materially assist the Agriculture of the Country throughout the line and neighbourhood of the said canal."

Dyfyniad o’r Ddeddf Seneddol breifat,
hyrwyddwyd gan Gwmni Camlas Ellesmere, 1793.

gweler fersiwn mawr - cliciwch y map
Cynllun Gamlas Ellesmere, 18eg ganrif (gweler fersiwn mawr). ©Ymddiriedolaeth y Dyfrffyrdd

Camlesi oedd y ffyrdd cyflymaf o symud nwyddau a deunyddiau crai ar ddiwedd y 18fed ganrif: roedd y ffyrdd yn erchyll ac nid oedd rheilffyrdd a threnau stêm wedi’u dyfeisio eto.

Cyn bo hir, roedd camlesi’n fuddiol iawn.  Yn 1791 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ellesmere i gynllunio camlas sy’n cysylltu’r tair afon: y Ferswy, y Ddyfrdwy a’r Hafren.  Y nod oedd cyflwyno cyfleoedd newydd ar gyfer diwydiant a gwneud arian.  Pan oedd camlesi yn eu hanterth, roedd buddsoddwyr yn cystadlu’n frwd i fuddsoddi yng nghwmni camlas Ellesmere.

Cyn hir, roedd dadlau ynghylch llwybr arfaethedig y gamlas.  Roedd dau opsiwn ar gael, un ar bob ochr i’r afon Dyfrdwy.  Byddai’r llwybr dwyreiniol yn cysylltu’r tair afon gyda chamlas sy’n ddigon llydan ar gyfer cychod camlas mawr.  Byddai’r opsiwn gorllewinol yn creu system gamlas, a oedd yn addas ar gyfer cychod cul yn unig, i gysylltu cloddfeydd a chwareli Cymru â’u marchnadoedd yn Lloegr.  Bu diwydianwyr o Sir Ddinbych yn pwyso am y llwybr gorllewinol, tra bo buddsoddwyr amaethyddol yn cefnogi’r opsiwn dwyreiniol.

Byddai’r opsiwn gorllewinol yn mynd heibio cefn gwlad mynyddig, croesi dau ddyffryn afon mawr ac yn costio mwy.  Er hynny, ym mis Ionawr 1792, penderfynodd William Jessop, peiriannydd y cwmni, gefnogi’r opsiwn gorllewinol.


"Gallai'r gamlas hon fod yn werth arian mawr i mi. Os bydd y gamlas yn mynd heibio fy mhwll glo ger Rhiwabon, o'r diwedd, bydd modd i mi gludo fy nglo yn rhad ac yn gyflym."

Pam Adeiladwyd y Draphont Ddwr?

Mae'r ddogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:

Pam Adeiladwyd y Draphont Ddwr? - fformat PDF 295Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Croesi'r Dyfrdwy
Pam adeiladwyd y draphont ddwr?
Pwy adeiladodd y draphont ddwr?
Adeiladu'r draphont ddwr
Gwith Go Galed
Pwy oedd yn defnyddio'r gamlas?
Dwr ar Dap
Arwydd o Chwyldro
Cydnabyddiaeth
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint