Syniad Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd wrth galon Confensiwn Treftadaeth y Byd.
Mabwysiadwyd hyn yn 1972 gan UNESCO (Mudiad Addysg, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig), y mae 193 o genhedloedd yn perthyn iddo. Trwy’r confensiwn, mae UNESCO’n ceisio hybu dynodi, amddiffyn a chadw safleoedd treftadaeth ddiwylliannol a naturiol o gwmpas y byd sy’n cael ei ystyried o werth eithriadol i ddynoliaeth.
Roedd y confensiwn yn gofyn sefydlu Rhestr Treftadaeth y Byd dan reolaeth Pwyllgor Treftadaeth y Byd sy’n rhynglywodraethol. Caiff safleoedd sy’n derbyn Statws Treftadaeth y Byd eu hychwanegu at y rhestr hon, ac mae’n ffordd o ddangos bod rhai mannau – naturiol a diwylliannol – yn ddigon pwysig i fod yn gyfrifoldeb y gymuned ryngwladol gyfan.
Fel aelod o’r confensiwn, mae ‘partïon gwladol’ (llywodraethau cenedlaethol e.e. llywodraeth y DU) wedi addo gofalu am eu Safleoedd Treftadaeth y Byd fel rhan o warchod eu treftadaeth genedlaethol.
Y gwladwriaethau priodol sy’n gwneud enwebiadau i gofrestru ar Restr Treftadaeth y Byd ac mae’n agored i gloriannu trwyadl gan gynghorwyr arbenigol i Bwyllgor Treftadaeth y Byd – er enghraifft y Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Henebion a Safleoedd Hanesyddol (ICOMOS) o ran safleoedd diwylliannol, neu Undeb Cadwraeth y Byd (IUCN) o ran safleoedd naturiol.
Pwyllgor Treftadaeth y Byd sy’n gwneud penderfyniadau ar ddewis Safleoedd newydd Treftadaeth y Byd yn ei gyfarfodydd haf blynyddol. Fel yr oedd pethau ym mis Gorffennaf 2009 roedd 890 o Safleoedd Treftadaeth y Byd mewn 148 o wladwriaethau.
Nid yw cynnwys ar Restr Treftadaeth y Byd yn dod â gwobr neu arian gydag ef. Anrhydedd yw yn y bôn. Mae’n gadael hawliau ac ymrwymiadau presennol perchenogion, deiliaid ac awdurdodau cynllunio fel yr oeddent. Cyn cael Statws Treftadaeth y Byd, rhaid dangos bod gan safle gwarchodaeth statudol effeithiol a chynllun rheoli cynhwysfawr wedi’i gytuno gyda’r perchenogion i sicrhau ei gadw a’i gyflwyno.
Mae’r Deyrnas Unedig, ei dibyniaethau a’i thiriogaethau tramor yn ffurfio gwladwriaeth swyddogol. Mae ei Safleoedd Treftadaeth y Byd yn rhedeg o safleoedd diwylliannol fel Ceunant Ironbridge a Chôr y Cewri, i safleoedd naturiol fel Sarn y Cawr. Mae safleoedd cymysg hefyd fel St. Kilda (safle deuol naturiol a diwylliannol).
Daeth Pont Ddÿr Pontcysyllte a’r Gamlas yn 28ain Safle Treftadaeth y Byd y DU, a dim ond trydydd cofrestriad Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru - y ddau arall bod Cestyll a Muriau Tref y Brenin Iorwerth yng Ngwynedd a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
Mae UNESCO yn cyfyngu ar y DU i gynnig un enwebiad bob blwyddyn ac mae enwebiadau diweddar yn cynnwys:
| Blwyddyn cyflwyno’r cynnig | Safle a enwebwyd | Blwyddyn gofrestru |
|---|---|---|
| 2001 | Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint, Lloegr | 2002 |
| 2002 | Gerddi Kew, Lloegr | 2003 |
| 2003 | DIM CAIS | 2004 |
| 2004 | Dinas Forol Lerpwl, Lloegr | 2005 |
| 2005 | Mwyngloddio Cernyw, Lloegr | 2006 |
| 2006 | Tÿ Downe Darwin, Lloegr | Tynnwyd yn ôl |
| 2007 | Mur Antwn, Yr Alban | 2008 |
| 2008 | Pont Ddÿr Pontcysyllte a’r Gamlas, Cymru a Lloegr | 2009 |