Pont Ddÿr Pontcysyllte a’r Gamlas – ffeithiau a ffigurau

Yn ddiamau, Pont Ddÿr Pontcysyllte yw nodwedd arbennig Safle Treftadaeth y Byd ond mae’r safle yn 11 milltir (18 cilometr) o hyd, o Bont Galedryd ger Rhoswiel i Raeadr y Bedol.

Mae 10.5 milltir (17 cilometr) yng Nghymru gyda’r 0.5 milltir (1 cilometr) arall yn Lloegr. Ac eithrio’r tir o amgylch y tair nodwedd allweddol (Pont Ddÿr Pontcysyllte, Pont Ddÿr y Waun a Rhaeadr y Bedol), mae rhyw 95% o’r safle yn perthyn i Ddyfrffyrdd Prydain.

Mae UNESCO’n gofyn bod y safle a’i amgylchedd yn cael eu diogelu rhag unrhyw ddatblygiad sy’n cael ei dybio’n niweidiol i’r ‘Gwerth Cyffredinol Eithriadol’. I wneud hyn, mae llawer o Safleoedd Treftadaeth y Byd wedi cytuno ar glustogfa o’u cwmpas ac mae hyn yn wir am Bont Ddÿr Pontcysyllte a’r Gamlas.

Mae’r glustogfa’n cynnwys tir o gwmpas Rhaeadr y Bedol a’r rhan fwyaf o Ddyffryn Dyfrdwy i lawr yr afon, gan ymestyn mor uchel â’r trumiau o boptu’r dyffryn. Dynodwyd mwyafrif yr ardal hon eisoes fel Ardal o Dirwedd Hanesyddol Arbennig.

Map

Lle nad oes trum mwyach wrth i ffurf y tir newid tu hwnt i Froncysyllte, dynodwyd darn o dir o boptu’r gamlas gan gynllunwyr tirwedd y cynghorau priodol. Mae rhan fwyaf cymhleth y glustogfa yng Nghefn Mawr, lle defnyddiwyd cyfuniad o gynllunio tirwedd ac archeoleg ddiwydiannol i lunio’r llinell derfyn.

  • Creodd Pontcysyllte, fel ‘y bont sy’n cysylltu’ undeb mordwyol rhwng Cymru a Lloegr, gan gysylltu afonydd Hafren, Dyfrdwy a Mersi.
  • Mae 18 pier 126 troedfedd o uchder a 19 bwa, pob un gyda rhychwant o 45 troedfedd.
  • Er mwyn cadw’r bont ddÿr mor ysgafn ag y gellid, mae rhan o’r pierau cerrig main yn wag ac maent yn culhau wrth esgyn.
  • Gwnaed y morter o waed ychen, calch a dÿr.
  • Mae’r bont ddÿr yn dal 1.5 miliwn litr o ddÿr ac mae’n cymryd dwyawr i’w gwagio.
  • Mae Pont Ddÿr Pontcysyllte yn 1,007 troedfedd o hyd ac yn rhychwantau’r dyffryn o Drefor i Froncysyllte, gyda’r Dyfrdwy’n rhedeg islaw.
  • Ymgymerwyd â’r gwaith gan Thomas Telford ac roedd dan oruchwyliaeth William Jessop y peiriannydd camlesi mwy profiadol.
  • Gosodwyd y garreg gyntaf ym mis Gorffennaf 1795 ac fe’i gorffennwyd yn 1805 gan ddefnyddio carreg leol.
  • Yn y canol, mae’n cyrraedd uchder o 126 troedfedd o wely’r afon i’r gwaith haearn.
    Dyma’r bont ddÿr fwyaf ym Mhrydain. Daw’r dÿr iddi o Raeadr y Bedol ger Llangollen.
  • Mae’r dÿr sy’n porthi’r gamlas yn llifo trwy gafn haearn sy’n 11 troedfedd 10 modfedd o led, a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder.

yn ôl i'r brig