Rheoli Safle Treftadaeth y Byd yn barhaol

Yn 2006 sefydlwyd Grÿp Llywio Pont Ddÿr Pontcysyllte a’r Gamlas gan Gyngor Wrecsam.

Sefydlwyd y grÿp, sy’n cyfarfod bob chwarter, i gynnwys partneriaid allweddol ar adeg enwebu’r safle a’i reoli’n barhaol. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Dyfrffyrdd Prydain
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cadw
  • Cyngor Sir Swydd Amwythig
  • English Heritage
  • Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol
  • UNESCO Cymru

Dr Dawn Roberts o Gyngor Wrecsam yw cadeirydd y grÿp. Wrecsam hefyd sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth ar hyn o bryd.

Sefydlwyd pump o is-grwpiau i hybu meysydd gwaith penodol:

  • Is-grÿp Rheoli Ymwelwyr ac Adfywio Economaidd
  • Is-grÿp Cynllunio a’r Dirwedd
  • Is-grÿp Treftadaeth a Chadwraeth
  • Is-grÿp Datblygu Cymunedol
  • Is-grÿp Addysg ac Uniaethu

Nawr y cyflawnwyd Statws Treftadaeth y Byd, mae’r grÿp llywio a’r is-grwpiau’n troi eu sylw at reoli’r safle’n barhaol, gan gynnwys parhau gwaith ar gynyddu parcio ymwelwyr, arwyddion a dehongliad, mynediad ar gludiant cyhoeddus, gwaith cadwraeth, polisi cynllunio cyfun, rheoli tirwedd ac addysg.

yn ôl i'r brig