Ynglyn â Safleoedd Treftadaeth y Byd

Mae Sefydliad Addysg, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn cyflwyno hyd at 45 safle o bob cwr o'r byd bob blwyddyn.

Caiff safleoedd eu henwebu gan Bartïon Gwladol, (e.e. Llywodraeth y DU), maent yn wynebu archwiliad arbenigol trwyadl a rhaid iddynt gyflawni un neu fwy o’r 10 maen prawf a osodir gan UNESCO. Ar hyn o bryd mae tua 830 o safleoedd Treftadaeth y Byd mewn 138 o wledydd.

Mae 26 o safleoedd o’r DU eisoes ar y rhestr ond dim ond dau yng Nghymru: Cestyll a Muriau Tref Brenin Edward I yng Ngwynedd a Thirwedd Diwydiannol Blaenafon yn ne Cymru.

Ers 2002 mae’r DU wedi’i chyfyngu i gyflwyno dim mwy nag un enwebiad bob blwyddyn. Gwelir isod enwebiadau diweddar o’r DU sydd wedi bod yn llwyddiannus:

Y flwyddyn y cyflwynwyd y cais Safle a enwebwyd Y flwyddyn y'i cyflwynwyd
2001 Dorset ac arfordir dwyrain Dyfnaint, Lloegr 2002
2002 Gerddi Kew, Lloegr 2003
2003 DIM CAIS 2004
2004 Dinas Forwrol Lerpwl, Lloegr 2005
2005 Mwyngloddio Cernyw, Lloegr 2006
2006 Tŷ Downe Darwin, Lloegr Heb ei gadarnhau

yn ôl i'r brig