|
Traphont ddŵr Pontcysyllte, Wrecsam yn cael ei henwebu gan y DU i ymuno â'r rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd
Ar 10fed Hydref 2006, cyhoeddwyd cam mawr ymlaen i draphont ddŵr Pontcysyllte a fydd yn cael ei hystyried ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd UNESCO. Rhoddodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, David Lammy ac Alun Pugh, Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, ddatganiad cyhoeddus swyddogol yn enwi'r tri safle nesaf o'r DU a fydd yn mynd ymlaen i gael eu hystyried gan UNESCO fel Safleoedd Treftadaeth y Byd. Cadarnhaodd mai Mur Antonine yn Yr Alban, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Wrecsam, Cymru a Mynachlog Ddeuol Wearmouth and Jarrow, Lloegr yw enwebiadau'r DU ar gyfer 2007, 2008 a 2009.
Dewch i ddweud eich dweud! Ymgynghoriad Cyhoeddus ar yr Enwebiad am Statws Treftadaeth y Byd a Rheoli'r Safle yn y Dyfodol
Mae hwn yn gyhoeddiad allweddol yn y broses hir o osod y draphont ddwr ar y rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd a adnabyddir yn rhyngwladol. Mae'r rhestr yn cynnwys tirnodau byd-enwog fel y Taj Mahal, Tŵr Llundain a Mur Mawr Tsieina.
Profwyd rhinweddau'r draphont ddŵr yn 2005, blwyddyn ei deucanmlwyddiant, pan benodwyd ymgynghorwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dyfrffyrdd Prydain i gynhyrchu cyfres o bapurau academaidd i arfarnu arwyddocâd hanesyddol rhyngwladol yr adeiladwaith. Daethant i'r casgliad bod traphont ddwr Pontcysyllte yn cyflawni tri o feini prawf UNESCO ar gyfer Safleoedd Treftadaeth y Byd; dim ond un maen prawf sy'n rhaid i safle ei gyflawni i gyfiawnhau eu bod yn gymwys.
Arweinir y cais ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dyfrffyrdd Prydain, gyda chefnogaeth fawr y Comisiwn Brenhinol dros Gofadeiliau Hanesyddol Hynafol Cymru a gorchwyl gwylio gan Cadw a fydd yn derbyn y cynnig cyn iddo fynd ymlaen i Lywodraeth y DU. Mae cyfraniadau ariannol i'r ymgyrch wedi'u derbyn gan Bartneriaeth Dwristiaeth Gogledd Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil (Thomas Telford oedd llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil).
Yn unol â chynigion i ymestyn ffin y safle treftadaeth y byd, mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Croesoswallt (Lloegr) wedi cytuno i gefnogi'r enwebiad. Mae'r safle dan sylw yn cynnwys rhan fach o gamlas o fewn Bwrdeistref Croesoswallt, cyn croesi traphont ddŵr Y Waun ac ar hyd y gamlas i draphont ddŵr Pontcysyllte, yna mae'n dilyn y gamlas fwydo trwy Raeadr Bwlch yr Oernant yn Llangollen.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton, Aelod Arweiniol dros Ffyniant Economaidd a Rheoli Asedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau enwebiad yn 2008. Mae'n ffrwyth llawer o lafur y tu ôl i'r llenni. Bellach rydym yn gweithio ar y dogfennau enwebu a chynllun rheoli a gobeithiwn gwblhau'r gwaith hwn yn ystod 2007".
Dywedodd Isobel Garner, Y Prif Weithredwr "Mae'n addas mai 2007 yw blwyddyn pen-blwydd Thomas Telford yn 250 oed ac mae digwyddiadau wedi'u cynllunio i ddathlu ei ragoriaeth beirianyddol. Ni allaf feddwl am deyrnged well iddo na rhoi ei gampwaith gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ymlaen i Lywodraeth y DU i'w chymeradwyo yn ystod 2007 ac yna ymlaen i UNESCO erbyn y dyddiad cau sef 1af Chwefror 2008.
Mae'r draphont ddŵr yn cynrychioli adnodd hanesyddol pwysig i Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru ac ardal Croesoswallt. Byddai ennill statws Treftadaeth y Byd yn werthfawr iawn i’r gymuned leol a byddai’n rhoi hwb mawr i broffil twristiaeth yr ardal.”
|