|
Daeth Traphont Ddŵr Pontcysyllte, un o’r adeiladweithiau mwyaf ysblennydd yng Nghymru, i olwg y cyhoedd pan gafwyd diweddglo syfrdanol i flwyddyn y dathliadau i nodi pen-blwydd y draphont ddŵr fawreddog yn 200 oed i ar 26ain Tachwedd 2005.
Roedd y partneriaid, Dyfrffyrdd Prydain, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Gogledd Gororau Cymru wedi trefnu dathliad a barodd flwyddyn gan gynnwys digwyddiadau ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr, o deithiau cerdded noddedig i weithdai celf. Tynnodd y draphont ddŵr sylw'r cyfryngau o bob cwr o'r byd. Daeth y dathliadau i uchafbwynt ddydd Sadwrn 26 Tachwedd, 200 mlynedd i’r diwrnod ers pan agorwyd y draphont ddŵr yn 1805, gyda saliwt 16 gwn ac arddangosfa dân gwyllt i gyfeiliant cerddoriaeth.

Dathliadau deucanmlwyddiant traphont ddŵr Pontcysyllte, lle’r oedd dros 4000 o bobl yn bresennol.
|