| |
|
|
|
|
 |
Ffeithiau, ffigurau a lleoliad y draphont ddwr |
|
|
|
|
| |
- Ystyr Poncysyllte yw’r “bont sy’n cysylltu”. Creodd y bont uniad mordwyol rhwng Cymru a Lloegr, gan gysylltu afonydd Hafren, Dyfrdwy a Merswy.
- Ceir 18 o bileri 116 troedfedd o uchder a 19 o fwâu sy’n pontio 45 troedfedd yr un.
- I gadw’r draphont ddŵr mor ysgafn â phosibl, mae’r pileri cerrig main yn rhannol wag ac maent yn meinhau tuag i fyny.
- Gwnaethpwyd y mortar o waed ych, calch a dŵr.
- Mae’r draphont ddŵr yn dal 1.5 miliwn litr o ddŵr ac yn cymryd dwy awr i ddraenio.
- Mae traphont ddŵr Pontcysyllte yn pontio’r dyffryn o Drefor i Froncysyllte, lle mae afon Dyfrdwy yn rhedeg islaw.
- Gwnaethpwyd y gwaith gan Thomas Telford ac fe’i goruchwyliwyd gan y peiriannydd camlesi mwy profiadol William Jessop.
- Gosodwyd y garreg gyntaf ym mis Gorffennaf 1795. Fe’i cwblhawyd yn 1805 yn defnyddio cerrig lleol.
- Yn y canol, mae’n cyrraedd uchder o 126 troedfedd o wely’r afon i’r gwaith haearn.
- Mae’r dŵr sy’n bwydo’r gamlas hon yn rhedeg trwy gafn haearn sy’n mesur 1007 troedfedd o hyd, 11 troedfedd 10 modfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfnder.
- Hon yw’r draphont ddŵr fwyaf ym Mhrydain. Caiff ei bwydo gan ddŵr o Raeadr Bwlch yr Oernant ger Llangollen.
|
|
|
|
|
|
|