|
Mae gwaith wedi dechrau i ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Traphont Ddŵr hynod Poncysyllte. Yn ystod 2005, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn partneriaeth â Dyfrffyrdd Prydain a gyda chyfraniad ariannol gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, ymgynghorwyr i arfarnu arwyddocâd rhyngwladol y draphont ddŵr ac i baratoi ‘Datganiad o Arwyddocâd’. Roedd hyn yn dilyn cyngor gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Roedd y tîm arbenigol o ymgynghorwyr a benodwyd yn gydgysylltiad o ddwy bartneriaeth ar wahân. Christopher Pound a Jane McDermott sydd ill dau yn benseiri cymwys sydd â gwybodaeth arbenigol am broses Treftadaeth y Byd UNESCO, ac sydd wedi gweithio ar safleoedd o Gaerfaddon i Montenegro. Roedd y grŵp arbenigol arall yn cynnwys Dr David Gwyn, archeolegwr sydd wedi cyhoeddi llyfrau ac sy’n arbenigo mewn systemau cludiant, Dr Barrie Trinder a Dr Ron Fitzgerald.
Mae darganfyddiadau’r ymgynghorwyr wedi profi bod traphont ddŵr Poncysyllte yn gymwys i fod yn safle Treftadaeth y Byd trwy gyfres o bapurau arbenigol. Maent wedi nodi bod traphont ddŵr Pontcysyllte yn cyflawni dim llai na tri o feini prawf Treftadaeth y Byd UNESCO:
- Maen prawf C (i) - mae’n cynrychioli campwaith athrylith greadigol ddynol;
- Maen prawf C (ii) - mae’n dangos rhyngnewid pwysig gwerthoedd dynol dros gyfnod o amser neu o fewn ardal ddiwylliannol yn y byd, ar ddatblygiadau mewn pensaernïaeth neu dechnoleg, celfyddydau coffaol, cynllunio trefol neu ddylunio tirluniau; a
- Maen prawf C (iv) - mae’n enghraifft amlwg o fath o adeilad neu ensemble neu dirwedd bensaernïol neu dechnolegol, sy’n darlunio cyfnod arwyddocaol mewn hanes dynol.
O wybod bod y dystiolaeth arbenigol hon gennym, mae Dyfrffyrdd Prydain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cytuno i addasu’r cais am enwebiad a gofyn i bartneriaid eraill am gefnogaeth.
|