Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Grwp Llywio’r Cais am Statws Treftadaeth y Byd

 

Mae Grŵp Llywio wedi’i sefydlu i ymgymryd â’r gwaith hwn:

Cadeirydd : Dr Dawn Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Peter Birch (Dyfrffyrdd Prydain), Stephen Hughes (Comisiwn Brenhinol Cofadeiliau Hynafol a Hanesyddol Cymru), Sian Rees (Cadw), Del Roberts-Jones, Karina Kucharski, Anna Irwin, Peter Smith, Paul Nelson, Dave Gittins a Paul Blackburn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Fiona Gayle (Cyngor Sir Ddinbych), Peter Booth (Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt) a’r Athro Richard Neale (ar ran UNESCO Cymru).

Mae cyllid ac adnoddau staff yn cael eu hymrwymo gan y sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r gwaith hwn. Hefyd, mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil wedi cytuno cynorthwyo â chyfraniadau ariannol i’r ymgyrch.

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte eisoes ar restr ymgeision sy'n cynnwys 25 o safleoedd treftadaeth y byd posibl a gyhoeddwyd yn 1999. Ers hynny, mae nifer o safleoedd wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus ac mae un arall gan UNESCO yn disgwyl penderfyniad. O’r safleoedd sydd yn weddill, Pontcysyllte yw’r unig un yng Nghymru.

Mae gwaith a wneir ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Cais Dyfrffyrdd Prydain am gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
  • Comisiynu Cynllun Rheoli Cadwraeth gan Ddyfrffyrdd Prydain.
  • Comisiynu’r ymgynghorwyr Chris Pound a Jane McDermott gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynnal ymchwil ac ysgrifennu adran o’r Ddogfen Enwebu:
  • Ymarfer i gymharu traphont ddŵr Pontcysyllte â safleoedd allweddol cymharol eraill ledled y byd.
  • Datganiad o arwyddocâd yn seiliedig ar yr adroddiad a wnaethpwyd eisoes yng nghyfnod 1.
  • Datganiad o werth cyffredinol amlwg i draphont ddŵr Pontcysyllte.
  • Adran am ddilysrwydd.
  • Arolwg ffotograffig o’r draphont ddŵr a’r gamlas o’r Waun i Raeadr Bwlch yr Oernant, Llangollen – gan Gomisiwn Brenhinol Cofadeiliau Hynafol a Hanesyddol Cymru (RCAHMW).
  • Gwaith arbenigol gan staff RCAHMW i gynhyrchu delweddau graffeg cyfrifiadurol o drawstoriadau o draphontydd dŵr Pontcysyllte a’r Waun.
  • Trafodaethau rhwng Dyfrffyrdd Prydain, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Croesoswallt ynglŷn ag union derfyn y safle a enwebir.
  • Swyddogion Cadwraeth Cynllunio ac Ymgynghorwyr Awdurdodau Lleol a Cadw i gydweithio i edrych ar adeiladweithiau rhestredig ar hyd y llwybr a nodi safleoedd eraill i’w rhestru.
  • Mapio gwaith i baratoi cynlluniau sylfaen ar gyfer y ddogfen enwebu.
  • Cael ymglymiad parhaus y gymuned trwy gynnal arddangosfa deithiol a rhoi cyfle i ‘gofrestru’ cefnogaeth i’r enwebiad.
  • Gweithgaredd i godi proffil Traphont Ddŵr Pontcysyllte a’r cais.
 
English
 

Cyswllt i

Safle Treftadaeth y Byd Arfaethedig Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte
Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad
Yr Ymgyrch dros Statws Safle Treftadaeth y Byd yn symud ymlaen
Ynglyn â Safleoedd Treftadaeth y Byd
Grwp Llywio'r Cais am Statws Treftadaeth y Byd
Ffeithiau, ffigurau a lleoliad y draphont ddwr
Lleoliad y safle
Digwyddiadau'r dyfodol
Dathlu 250 mlynedd ers geni Thomas Telford
Calendar traphont ddwr Pontcysyllte 2007
Dathlu 200 mlynedd
Eich Cefnogaeth i'r Ymgyrch dros Statws Treftadaeth y Byd
Archif datganiadau i'r wasg
Cysyllt
Gwefannau cysylltiedig
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint