Amgueddfa Wrecsam – Cynllun Ailwampio

Mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol gynlluniau cyffrous i ailwampio ac estyn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dynion Wrth Eu Gwaith: Newyddion o’r Safle

Ers i’r gwaith ddechrau ar 8fed Mawrth, mae’r prif gontractwyr ISG wedi bod yn brysur yn tynnu rhai o’r ychwanegiadau diweddarach at yr adeilad, yn benodol y rhai a ychwanegwyd gan y Coleg Celf pan oedd yn yr adeilad yn y 1980au. Wrth wneud hynny maent wedi dadlennu rhai cipolygon ar fywyd cynharach yr adeilad, fel barics Milisia Sir Ddinbych (1857-1877) ac fel gorsaf heddlu a llys (1879-1976).

Ym mlaen yr adeilad ar y llawr isaf tu ôl i’r bwâu, wrth dynnu nenfydau cymharol ddiweddar y Coleg Celf dadlennwyd tameidiau o nenfydau brics bwaog cynharach rhes o bum cell yr heddlu. Dyndod arall oedd darganfod nenfydau’r barics bron yn gyfan gyda thrawstiau siamffr anferth a’r plaster gwreiddiol. Ein bwriad yw cadw ac arddangos y nodweddion gwreiddiol hyn ble bynnag y bo modd. I fyny’r grisiau, datgelwyd olion o bapur wal mewn ystafelloedd oedd unwaith yn gartrefi i’r milisia neu swyddogion heddlu a’u teuluoedd.

Bydd y prif gontractwr yn gorffen ei waith tua diwedd mis Awst, pan fydd y gwaith i osod yr orielau arddangos newydd yn dechrau.

Paratoi sylfeini’r estyniad gwydrog newydd Bwa brics o nenfwd bwaog un o hen gelloedd yr heddlu

Merched yn y Rhyfel – Rhodd Ddiweddar

Fel holl amgueddfeydd rydym yn dibynnu ar roddion o bethau gan y cyhoedd i greu casgliad sy’n hanesyddol ddiddorol a pherthnasol i fywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Felly, roeddem yn falch iawn yn ddiweddar o gael eitemau cysylltiedig â bywyd anhygoel Mrs Margaret (Peggy) Ellis. Ymhlith yr eitemau hyn mae dwy fantell nyrsio, oedd yn ffurfio rhan o wisg Margaret fel nyrs yn yr Ail Ryfel Byd.

Mantell nyrs, rhodd garedig Mrs Margaret Ellis

Ar ôl cael ei magu yng nghartref plant amddifad Berse Drelincourt, ychydig y tu allan i Wrecsam, cyflawnodd Margaret ei breuddwyd o ddod yn nyrs trwy hyfforddi yn Bury Infirmary, Swydd Gaerhirfryn. Fodd bynnag, yn 1939 cyhoeddwyd rhyfel, a chofrestrodd Margaret yn 23 oed yng Ngwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra. O fewn diwrnod neu ddau roedd Margaret yng ngogledd Ffrainc, lle cafodd brofiad o arswyd rhyfel yn uniongyrchol wrth ymgeleddu’r milwyr. Bydd y rhoddion hyn yn galluogi inni rannu stori Margaret gyda chenedlaethau a ddaw.

Newyddion Treftadaeth

Newyddion Treftadaeth Rhifyn 4

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Newyddion Treftadaeth Rhifyn 4 – Fersiwn PDF 2.91Mb

Newyddion Treftadaeth Rhifyn 3

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Newyddion Treftadaeth Rhifyn 3 (Mehefin 2010) – Fersiwn PDF 247Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

yn ôl i'r brig