Cwestiynau a ofynnir yn aml

Prosiect Adnewyddu Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

'Dyfodol i'ch Gorffennol' - Prosiect Adnewyddu Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cwestiynau a ofynnir yn aml.

 

Beth yw Nodau ac Amcanion yr Amgueddfa

Y weledigaeth gyflawn ar gyfer yr amgueddfa yw: -

‘Bydd Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn lle croesawus gydag ystyr i’r gymuned gyfan ac sy’n ysbrydoli ymwelwyr i archwilio etifeddiaeth ddiwylliannol y Fwrdeistref Sirol a’i swyddogaeth yn natblygiad Cymru a’r byd ehangach.’

Y Datganiad Cenhadaeth cyflenwol yw: -

‘Bydd Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ganolfan ragoriaeth (gwirioneddol a rhithwir) ar gyfer cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o dreftadaeth ein cymuned ac yn ysbrydoliaeth i bobl ymwneud yn weithredol â’u treftadaeth’.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd yr Amgueddfa yn gwneud y canlynol: -

  • Nodi, casglu a gwarchod tystiolaeth faterol sy’n gysylltiedig ag etifeddiaeth ddiwylliannol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a chynnal y casgliadau hynny’n unol â safonau cenedlaethol.
  • Sicrhau bod ein casgliadau ein hunain, a rhai pellach yn ddaearyddol, yn hygyrch i’r gymuned gyfan trwy amrywiaeth o ddulliau (er enghraifft, trwy arddangosfeydd ac e-dechnoleg).
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o etifeddiaeth ddiwylliannol Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i swyddogaeth yn natblygiad Cymru a’r byd ehangach (er enghraifft, trwy amrywiaeth o raglenni deongliadol ac addysgol a gweithgareddau hyrwyddo).
  • Darparu cyfleusterau a gwasanaethau yn ôl safonau sy’n sicrhau profiad o safon i ymwelwyr.
  • Rhoi cyfleoedd sy’n ysbrydoli ac yn annog ein cymuned leol i ymwneud yn weithredol â’u treftadaeth.

yn ôl i'r brig

 

Beth a ddysgwyd gennym gan ein hymwelwyr a thrwy siarad â phobl sydd heb ddefnyddio’r Amgueddfa?

Er mwyn helpu i ni gynllunio at y dyfodol, rydym wedi bod yn gofyn am farn pobl ynghylch yr amgueddfa fel y mae heddiw, a sut fyddent yn hoffi ei weld yn newid. Rydym wedi ymgynghori â phobl sydd heb ddefnyddio’r amgueddfa, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn ymweld â ni. Maent wedi dweud wrthym: -

  • Nad yw llawer o bobl yn gwybod am yr Amgueddfa, ei lleoliad, nac amrywiaeth y gwasanaethau y gall gynnig. Mae rhai pobl yn ystyried yr amgueddfa’n rhywbeth pell neu amherthnasol - ‘nid i ni’.
  • Bod gan yr amgueddfa arddangosfeydd sefydlog, digyfnewid nad ydynt adlewyrchu treftadaeth ein cymuned yn llawn. Mae angen i’r amgueddfa ddangos mwy o’n casgliadau treftadaeth a bod yn fwy dynamig a rhyngweithiol.
  • Bod ysgolion yn gwerthfawrogi’r rhaglenni addysg ond y byddent yn hoffi gwell cyfleusterau addysgu yn yr amgueddfa ac arddangosfeydd gyda deunyddiau adnoddau cysylltiedig y mae modd eu defnyddio i gefnogi’r Cwricwlwm Cymreig.
  • Bod y gymuned leol yn gryf ei chefnogaeth i warchod ein treftadaeth ond bod rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr traddodiadol yr Amgueddfa’n ystyried treftadaeth (gan gynnwys eu hun eu hunain) yn amherthnasol ac yn aml byth yn ymwneud â threftadaeth.

Ar sail y canfyddiadau hyn, er mwyn datblygu cynulleidfaoedd i’r amgueddfa ac annog mwy o bobl i ymwneud â’u treftadaeth, mae Cynllun Datblygu Cynulleidfa’r Amgueddfa (2008) yn argymell bod angen i’r Amgueddfa wneud y canlynol: -

  • Tynnu sylw at a chynyddu proffil cyhoeddus yr Amgueddfa a’r hyn sydd ganddi i gynnig i ymwelwyr (yn arbennig pobl nad ydynt yn ddefnyddwyr traddodiadol yr amgueddfa)

yn ôl i'r brig

 

Beth yw Cyfnod 1 Prosiect Treftadaeth Gymunedol Wrecsam?

Gan weithio o fewn Gweledigaeth gyflawn, bydd yr Amgueddfa a gwasanaethau cysylltiedig yn cael eu datblygu ar gyfres o gyfnodau arwahanol. Y cynigion ar gyfer Cyfnod 1 y Prosiect yw: -

  • Datblygu a chyflwyno rhaglen allanol gymunedol seiliedig ar dreftadaeth, yn arbennig i annog cyfranogiad cynulleidfaoedd newydd o gymunedau sydd â’u treftadaeth ar y cyrion neu sy’n ystyried treftadaeth yn amherthnasol;
  • Gwella arwyddion a rhoi gwybodaeth am yr Amgueddfa a’r hyn sydd ganddi i gynnig ar gwrt blaen yr Amgueddfa.
  • ‘Ail-leoli’ yr Amgueddfa trwy weithgareddau marchnata a hyrwyddo mwy effeithiol.
  • Lleihau rhwystr seicolegol ac adeileddol y mur terfyn presennol o flaen yr Amgueddfa trwy dynnu rhan y mur sy’n wynebu canol y dref;
  • Darparu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau seiliedig ar dreftadaeth ar gwrt blaen yr Amgueddfa;
  • Ymestyn y llwybr ‘rhithwir’ ar-lein presennol ynghylch hanes yr adeilad gyda chyfres o baneli deongliadol ymhob un o’r mannau cyhoeddus (gan ddechrau gyda Chyfnod 1 ar gwrt blaen yr Amgueddfa), gyda chefnogaeth rhaglen o gylchdeithiau tywysedig o’r adeilad;
  • Datblygu cynllun gwirfoddol ‘bathodyn glas’ o droeon tywysedig o’r dref, gan gychwyn a gorffen yn yr Amgueddfa;
  • Ymestyn blaen yr Amgueddfa a chreu derbynfa newydd, ardal adwerthu a siop goffi / te fydd yn creu amgylchedd cymdeithasol mwy croesawgar a chysurus i bobl nad ydynt fel arfer yn ymweld ag amgueddfeydd;
  • Defnyddio’r siop goffi / te fel ffordd o gyflwyno ymwelwyr newydd i dreftadaeth, fel ‘rhagflas’ o brofiad yr amgueddfa (e.e. arddangosion a delweddau o’r casgliadau), ymchwil marchnata rhyngweithiol a rhaglenni gweithgareddau (e.e. sesiynau amser stori i blantos ar ddydd Sadwrn, ac arddangosfeydd o waith pobl ifanc o Ganolfan Fictoria Wrecsam) yn anelu at gynulleidfaoedd penodol.
  • Creu oriel newydd i sefydlu presenoldeb parhaol i’r Amgueddfa Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y Gogledd-ddwyrain, gan gynnwys mynediad gwirioneddol a rhithwir at eu casgliadau a gwasanaethau;
  • Darparu arddangosfa newydd yn yr oriel ganolog fydd yn cael ei datblygu a’i llunio:
    • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o beth sy’n gwneud Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn neilltuol, yn arbennig ei hetifeddiaeth ddiwylliannol;
    • Rhoi cyfleoedd i ymwelwyr gofnodi eu hanesion personol / atgofion a chyfrannu at greu archif gymunedol;
    • Galluogi i ymwelwyr ymwneud yn weithredol a chyfrannu at ddatblygu casgliadau’r amgueddfa / archifau a chynnwys arddangosfeydd;
    • Bod yn fwy rhyngweithiol a dynamig, yn arbennig bod yn fwy ‘cyfeillgar i’r teulu’;
    • Gwella mynediad deallusol, yn arbennig i bobl gyda gwahanol arddulliau dysgu a’r rhai gyda namau ar y synhwyrau;
    • Cynyddu potensial dysgu’r arddangosfa mewn cysylltiad â’r Cwricwlwm Cenedlaethol / Cwricwlwm Cymreig ac anghenion disgyblion / myfyrwyr.
  • Creu cyfleusterau newydd toiledau / newid clytiau babanod cwbl hygyrch yn gwasanaethu’r llawr isaf;
  • Gwella mynediad pobl gyda amhariad ar symudedd, rhwng y lifft bresennol a gofod addysgu ar y llawr cyntaf;
  • Gosod technoleg yn y gofod addysgu fydd yn galluogi iddo i ddarparu cyfleoedd dysgu ‘o bell’ i ysgolion a’r gymuned ehangach, e.e. trwy fwrdd gwyn, offer fideogynhadledd;
  • Creu cyfleusterau newydd toiledau / newid clytiau babanod cwbl hygyrch ar y llawr isaf, i ddechrau ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio’r gofod addysgu ond, yn y pen draw, yn gwasanaethu ymwelwyr â chyfnodau dilynol y datblygiad ar y llawr cyntaf cyfan.

Gweld cynigion cysyniad dylunio’r pensaer a’r arddangosfa

yn ôl i'r brig

 

Pa Gyfnodau sydd yn yr arfaeth at dyfodol?

Gan weithio o fewn y weledigaeth gyflawn i ddatblygu’r Amgueddfa, dyluniwyd Prosiect Cyfnod 1 i ganiatáu dilyniant i gyfnodau diweddarach gyda’r effaith leiaf ar Gyfnod 1, wrth weithredu gwelliannau pellach i adeileddol yr adeilad. Mae’r cyfnodau dilynol a gynlluniwyd fel a ganlyn:

Cyfnod 2

  • Codi uchder y to dros oriel y llawr isaf i greu ‘atriwm’ canolog – bydd hyn yn darparu ar gyfer mewnosod balconi i gynorthwyo rhoi sylw i’r gwahaniaeth yn lefel y lloriau rhwng rhannau’r llawr cyntaf.
  • Datblygu ystafell fawr y llys a’r ystafell gyfagos ar ochr ogleddol y llawr cyntaf, i greu orielau newydd gydag arddangosfeydd yn dweud sut y datblygodd cymunedau’r Fwrdeistref Sirol a hanes y bobl leol a fu’n byw, gweithio a brwydro o’r ddeunawfed ganrif i’r ugeinfed.
  • Cwblhau’r cynigion ar gyfer cwrt blaen yr Amgueddfa, gyda rhagor o ddehongliad ynghylch adeilad yr amgueddfa, datblygu llwybr y dref, a gosod nodwedd eiconig (celfyddydwaith a/neu arteffact mawr).

Cyfnod 3

  • Ymestyn cyfleuster ystafell ymchwil gyhoeddus Canolfan Palmer ar gyfer Archifau ac Astudiaethau Lleol, i gael mwy o le i ymwelwyr ymchwilio’r casgliadau.
  • Gwella storfeydd ar gyfer y casgliad astudiaethau lleol.
  • Ymestyn y cyfleuster Ategol i greu storfa archifau i safon BS5454.
  • Os bydd galw, fel rhan o’r cyfnod hwn, ystyried a fyddai estyniad at y cyfleuster Ategol ar y llawr cyntaf yn cael ei ganiatáu i ddarparu gwell stiwdio gadwraeth a chyfleusterau Canolfan Gasgliadau.
  • Adleoli swyddfeydd cysylltiedig ar gyfer staff yr archifdy ac astudiaethau lleol.

Cyfnod 4

  • Adleoli gofod addysgu’r llawr isaf a chreu ystafelloedd addysg unswydd gyda chyfleusterau cysylltiedig.
  • Gosod rheolaethau amgylcheddol ar gyfer yr oriel arddangosfeydd arbennig, fel bod yr Amgueddfa’n gallu arddangos casgliadau o ddeunydd mwy sensitif.
  • Datblygu adain ddeheuol y llawr cyntaf i greu orielau newydd ar gyfer archeoleg a phêl-droed

yn ôl i'r brig

 

Sut fydd Prosiect Treftadaeth Gymunedol Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn helpu’r Gymuned?

Bydd y gwelliannau’n helpu cyflawni amcanion corfforaethol allweddol canlynol y Cyngor: -

  1. Codi cyrhaeddiad addysgol;
  2. Hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a chynyddu cyfleoedd hamdden a diwylliannol diogel sydd ar gael ar gyfer chwarae a chreadigrwydd;
  3. Gwella iechyd economaidd.

Yn benodol, bydd y prosiect yn gwneud y cyfraniadau canlynol: -

  • Yn sefyll mewn Ardal Gadwraeth, mae’r amgueddfa’n adeilad rhestredig sy’n dirnod o bwys yn y dref. Y Weledigaeth gyflawn yw gwella a dod â’r adeilad cyfan i ddefnydd cyhoeddus.
  • Bydd yr amgueddfa’n dod yn adnodd dysgu o bwys trwy ddefnyddio’r casgliadau treftadaeth i’r eithaf trwy arddangosfeydd, addysg a rhaglenni gweithgareddau ar gyfer cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddysgu yn yr amgueddfa a’u cyflwyno’n uniongyrchol i’r gymuned. Bydd yn darparu:
    • Arddangosfeydd ac adnoddau addysgu i gefnogi’r Cwricwlwm Cymreig
    • Gweithgareddau allan o’r ysgol / yn y gwyliau
    • Rhaglenni dysgu oedolion
    • Adnoddau i gefnogi dysgu hunangyfeiriedig.
  • Bydd yr amgueddfa’n cyfrannu at yr economi lleol trwy ddarparu atyniad i ymwelwyr a ‘phorth’ i annog pobl archwilio safleoedd treftadaeth eraill o gwmpas y Fwrdeistref Sirol.
  • Bydd yn ‘gwpwrdd gwydr’ i’r Fwrdeistref Sirol fel bod pobl yn gallu ymfalchïo yn eu gorffennol gyda chyfleoedd newydd i gymunedau lleol ymwneud yn weithredol â gofalu am, dehongli a hyrwyddo eu treftadaeth leol i gynulleidfa ehangach.
  • Bydd amgueddfa a luniwyd i wneud i bawb deimlo’n gartrefol ac ateb disgwyliadau ymwelwyr yn annog mwy o bobl i ddod yn ymwybodol o ac ymwneud â’u treftadaeth a defnyddio’r amgueddfa’n amlach.
  • Mae ein hamgueddfeydd ac archifau’n cadw etifeddiaeth ein gorffennol er lles a mwynhad cenedlaethau a ddaw ac yn helpu i ni ddeall ein byd cyfoes. Gallant roi ymdeimlad o hunaniaeth i ni fel unigolion, teuluoedd a chymunedau, a chynorthwyo codi pontydd rhwng cenedlaethau, er enghraifft, coffáu trigeinfed pen blwydd yr Ail Ryfel Byd. Maent yn fodd i bobl allu mynd ati i ymchwilio hanes lleol a dysgu sgiliau newydd, llawer ohonynt yn werthfawr ym myd addysg ac yn y gweithle.
  • Bydd y gwelliannau’n cynnig cyfle i’n cymuned i gael mynediad uniongyrchol at gasgliadau cenedlaethol a phwysig (a gwasanaethau cysylltiedig) sy’n ymwneud â’r ardal hon ond na fu erioed ar gael yn lleol o’r blaen. Mae’r amgueddfa eisoes wedi creu partneriaethau cryf gydag Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond, ar hyn o bryd, yn methu manteisio’n llawn ar y cysylltiadau hynny.

yn ôl i'r brig

 

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Mae’r Prosiect Gwedd 1 yn rhan o raglen barhaus o welliannau i’r amgueddfa. Cliciwch yma i weld hanes datblygiad yr amgueddfa hyd heddiw.

Yn ystod y cyfnod datblygu sefydlwyd Tîm Rheoli’r Prosiect i oruchwylio a chydgysylltu’r gwaith paratoadol ar gyfer ein cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ac mae grŵp cynrychiadol o Gynghorwyr yn cadw golwg ar gynnydd y prosiect.

Sicrhawyd £50,000 o Grant Cynllunio Prosiectau oddi wrth CDL er mwyn i ni allu comisiynu tair o’r dogfennau hanfodol ar gyfer y cais, sef:

  • Cynllun mynediad yn cynnwys archwiliad o adeiladau’r amgueddfa ac argymhellion ar sicrhau bod yr amgueddfa mor hygyrch ag y bo modd i bob rhan o’r gymuned. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ymgynghoriad dechreuol gyda chynrychiolwyr mudiadau anabledd lleol. Ymgorfforwyd yr argymhellion yng nghynigion dylunio a rhaglenni gweithgareddau pensaernïol ac arddangosfa Cyfnod 1.
  • Cynllun Datblygu Cynulleidfa seiliedig ar ymchwil marchnata ac ymgynghori â defnyddwyr a rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr, ac argymhellion ar sicrhau bod yr amgueddfa’n gallu cael y cynulleidfaoedd newydd mwyaf a meithrin cynulleidfaoedd presennol. Mae’r Cynllun yn dweud wrthym y gallwn ddisgwyl cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Amgueddfa a’i gwasanaethau o 15,000 i 60,000 y flwyddyn.
  • Cynllun Rheoli Cadwraeth seiliedig ar gloriannu adeiladau’r amgueddfa ac ymchwil hanesyddol. Mae’r Cynllun yn rhoi fframwaith i gadwraeth adeiledd hanesyddol yr adeilad ac mae’n cael ei ddefnyddio i ysbrydoli’r broses ddylunio a bydd yn llywio trwsio a chynnal yn y dyfodol.

Paratowyd dogfennau eraill oedd eu hangen gan CDL fel a ganlyn:

  • Dyluniadau pensaernïol cysyniad gwreiddiol a dyluniadau dangos arddangosfa cyfatebol. Y penseiri yw Austin Smith: Lord a chwmni dylunio’r arddangosfa yw Bright 3D. Rydym wedi cael caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer ein cynigion.

Cliciwch i weld gwefanau Austin Smith: Lord (www.austinsmithlord.com) a Bright 3D (www.bright3d.com)

  • Cynllun Rheoli Casgliadau, sy’n ystyried pob agwedd ar ofalu am gasgliadau’r amgueddfa, archifau ac astudiaethau lleol sy’n cael eu dal gan Wasanaeth Treftadaeth y Fwrdeistref Sirol.
  • Mae’r Cynllun Addysg (Dysgu a Mynediad) yn disgrifio’r sefyllfa bresennol, yn dangos problemau a chyfleoedd, ac yn darparu cynllun gweithredu manwl sy’n amlinellu sut fydd yr amgueddfa’n datblygu cynulleidfa trwy gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddysgu.
  • Cynllun Hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar yr anghenion hyfforddi a datblygu, a’r cyfleoedd sy’n codi o’r prosiect Cyfnod 1.

Mae copïau cyfeiriad o’r holl Gynlluniau uchod ar gael ar gyfer archwiliad yng Nghanolfan A.N. Palmer, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Hanes datblygiad yr Amgueddfa hyd yma

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Hanes datblygiad yr Amgueddfa hyd yma - Fersiwn PDF 261Kb

To view and print PDF files, you must have Adobe® Acrobat® Reader installed: click the logo below to download the software.

Download the free Acrobat reader from the Adobe website

Adobe Acrobat documents can be converted back to plain text using Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig

 

Beth yw’r amserlen ar gyfer Prosiect Cyfnod 1

Ystyriodd CDL ein cais ar ddau gyfnod: Dyfarnwyd Cyfnod 1 ym mis Mawrth 2008 a darparwyd grant datblygu o £30,800 i ganiatáu i’r Amgueddfa a’i phensaer a’i thîm dylunio arddangosfeydd weithio lunio’r cynigion bras dechreuol ar gyfer cyflwyno Cyfnod 2 i CDL ym mis Hydref 2008.
 
Cyhoeddwyd penderfyniad CDL i ddyfarnu grant o £950,000 tuag at y prosiect ym mis Ebrill 2009.

Yn dilyn cwblhau’r cyfnod cynnig yn llwyddiannus, penodwyd ISG Regions fel prif gontractwr elfennau adeiladu’r prosiect. Gwagiwyd yr adeilad ym mis Ionawr a symudwyd gwasanaethau rheng flaen i eiddo ac adeiladau eraill yng Nghanolfan Dreftadaeth y Bers. Dechreuodd gwaith ar y safle ar 8fed Mawrth 2010, gyda’r nod o ailagor yr Amgueddfa’n gynnar yn 2011. Bydd elfen gwaith allanol cymunedol y prosiect yn dechrau pan fydd yr Amgueddfa’n ailagor

yn ôl i'r brig

 

Faint fydd cost yr ailwampio a sut fydd yn cael ei ariannu?

Amcangyfrif cyfredol cyfanswm cost prosiect Cyfnod 1 – sy’n cynnwys y gwelliannau adeileddol i’r adeilad, orielau newydd a rhaglenni allanol cymunedol – yw £2.2 filiwn.

yn ôl i'r brig

 

Faint mwy fydd yn costio i redeg yr amgueddfa ar ôl gorffen prosiect Cyfnod 1?

Rydym wedi datblygu Cynllun Busnes sy’n amlinellu amcangyfrif o wariant ac incwm yr Amgueddfa ar ôl gorffen Prosiect Cyfnod 1. Amcangyfrif o gost glir ychwanegol y prosiect yw £52,000 yn 2011/12 (blwyddyn lawn gyntaf ei weithredu).

Mae disgwyl i’r prosiect greu cywerth ag 1 swydd lawn-amser, a 3 swydd ran-amser newydd. Bydd y rhain i gyd yn rhoi gwasanaethau uniongyrchol i’r cyhoedd, er enghraifft, datblygu a chyflwyno’r rhaglenni addysg a chymunedol, cymorth technegol i’r orielau a hyrwyddo a chyhoeddusrwydd yr amgueddfa. Bydd y caffi / siop goffi’n cael ei rhedeg ar sail consesiwn, ac mae disgwyl i hynny greu nifer o swyddi eraill.

Mae’r Cyngor wedi rhoi awdurdod i’r prosiect symud ymlaen ar yr adeg hon ar y sail na fydd y gost gyllidol ychwanegol yn arwain at gynnydd yng nghyllideb y Cyngor at ei gilydd.

yn ôl i'r brig

 

Pwy yw partneriaid yr Amgueddfa?

Mae’r amgueddfa eisoes yn un o bartneriaid Amgueddfa Cymru (ACNMW) dan gynllun noddedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru ‘Cyfoeth Cymru Gyfan - Sharing Treasures’. Bydd y bartneriaeth hon yn cael ei hatgyfnerthu’n sylweddol.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) hefyd wedi dweud ei bod yn dymuno gweithio’n agos gyda’r amgueddfa i hyrwyddo mynediad ehangach at ei chasgliadau.

Yn ogystal â chasgliadau, bydd y prosiect Cyfnod 1 yn creu man mynediad cyhoeddus neu ‘borth’ i wasanaethau ehangach ACNMW a LlGC (er enghraifft trwy gysylltiadau electronig) gan ddarparu mynediad rhanbarthol at y sefydliadau Cymru gyfan hyn sy’n ddaearyddol bell o’r Fwrdeistref Sirol.

Mae ymddiriedolwyr Amgueddfa Gatrodol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (RWF) yng Nghaernarfon yn frwdfrydig dros ddod ag archif a chasgliadau wrth gefn sylweddol amgueddfa’r Gatrawd i Wrecsam, er mwyn cael mwy o fynediad cyhoeddus (gan adlewyrchu’r cysylltiad hanesyddol rhwng y gatrawd a Wrecsam – ei thref ‘gartref’). I ddechrau bydd hyn yn cael ei hwyluso ym Melin y Brenin ond y bwriad yw bod yr orielau arddangos arfaethedig yng nghyfnodau’r dyfodol yn ymgorffori deunydd perthnasol i’r Fwrdeistref Sirol o archif a chasgliad wrth gefn y RWF. Byddai adnoddau ar-lein ac arddangosfeydd dros dro a theithiol yn cael eu datblygu i ddefnyddio deunydd fyddai’n cael ei gadw mewn storfa fel arall.

yn ôl i'r brig

 

Beth fydd yn digwydd i’r Gwasanaeth Treftadaeth yn ystod y cyfnod adeiladu a dodrefnu?

Am resymau gweithredol ymarferol, ac iechyd a diogelwch, caewyd yr amgueddfa yn ystod y cyfnod adeiladu, a gwnaed trefniadau eraill i adleoli swyddfeydd staff, casgliadau wrth gefn a chynnal gwasanaethau treftadaeth dros dro.
                                                        
Erbyn hyn mae mynediad cyhoeddus at yr Archifau a chasgliadau Astudiaethau Lleol ar gael trwy Ganolfan Dreftadaeth y Bers a gwasanaethau ar-lein.
 
Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd yr Amgueddfa’n dal i gynnal proffil cyhoeddus trwy raglen o arddangosfeydd, digwyddiadau a rhaglenni addysgol fydd yn cael ei chyflwyno ar hyd a lled y gymuned i hybu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer yr amgueddfa well.

Rydym eisoes wedi cael mynegiadau o ddiddordeb gan ysgolion lleol fyddai’n hoffi cymryd rhan yn ystod cyfnod hwn y prosiect.

yn ôl i'r brig

 

Gwneud Treftadaeth yn Bwnc o Bwys – Strategaeth Dreftadaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Caiff y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ei ystyried o fewn fframwaith ehangach Strategaeth Dreftadaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

Gyda chefnogaeth ariannol CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru datblygwyd Strategaeth gennym sy’n rhoi trosolwg strategol o flaenoriaethu a rheoli o fewn y sector treftadaeth ei hun, a sail gyffredin i bawb sy’n gweithio gyda threftadaeth yn y Fwrdeistref Sirol weithredu arni.

Byddwn yn cynnal adolygiad pump mlynedd ein Strategaeth Deftadaeth yn 2010.

Gweld y Strategaeth Dreftadaeth

yn ôl i'r brig

Sut allaf i ddysgu mwy a dweud fy marn ar sut allwn ni wella’r Amgueddfa a helpu mwy o bobl ymwneud â’u treftadaeth?

  • Dod yn Wirfoddolwr neu ymuno ag un o’n Grwpiau Defnyddwyr

Un o’n nodau allweddol yw cynnig amrywiaeth o gyfleoedd fel bod mwy o bobl yn gallu ymwneud â’u treftadaeth a’r amgueddfa fel gwirfoddolwyr.

Fel gwirfoddolwr byddwch yn gallu :

  • datblygu eich sgiliau personol a chyflogaeth trwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar yr amgueddfa
  • defnyddio eich profiadau bywyd a gwybodaeth arbenigol i fanteisio’r gymuned
  • cyfarfod pobl sydd â diddordebau tebyg

Mae amgueddfeydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ddatblygu a defnyddio amrywiaeth eang o sgiliau technegol a phersonol. Rydym wedi nodi nifer o gyfleoedd yr hoffem ddenu gwirfoddolwyr ar eu cyfer pan fydd yr Amgueddfa’n ailagor yn 2011. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynorthwyo ymchwilio, dogfennu a digideiddio casgliadau’r Amgueddfa a’r Archifau a datblygu ein catalog cyfrifiadurol ac adnoddau ar-lein.
  • Tywyswyr i arwain cylchdeithiau o adeilad yr amgueddfa a sôn am ei hanes.
  • Gweithredu fel ‘galluogwyr’ yn orielau’r amgueddfa.
  • Cynorthwyo’r tîm arddangos.
  • Fel aelod o Grŵp Defnyddwyr yr Amgueddfa helpu inni gynllunio ein rhaglenni a gwasanaethau at y dyfodol.

Fel man cychwyn i’n rhaglen wirfoddolwyr, rydym wedi cofrestru ac yn gweithio tuag at gyrraedd safon "Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – Cymru" er mwyn sicrhau bod ein gwaith gyda gwirfoddolwyr yn cael ei wneud yn unol ag arferion gorau.

Os hoffech gael eich ystyried fel gwirfoddolwr Amgueddfa, cysylltwch â Karen Teasdale ar 01978 292652 neu e-bostio museums@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth

yn ôl i'r brig