Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Paul Sandby – Yr Arlunydd

 

Ganwyd Paul Sandby yn Nottingham ym 1731. Cychwynnodd weithio fel drafftsmon1 yn Nhwr Llundain pan oedd yn ifanc iawn. Ym 1747 penodwyd ef yn brif ddrafftsmon Arolwg Ordnans yr Alban i wneud mapiau manwl i'r fyddin. Dychwelodd i Lundain ym 1751, ac enillodd glod yn ystod yr ugain mlynedd nesaf am ddysgu arlunio i'r cyfoethog, paentio dyfrlliwiau o Gastell Windsor a chynhyrchu engrafiadau. Ym 1768 cynorthwyodd i sefydlu Academi Frenhinol y Celfyddydau.


Cynhyrchodd Paul Sandby lawer o frasluniau yn ystod ei daith o Ogledd Cymru.
An Artist Sketching, Paul Sandby or Francis Cotes.
© Casgliad Paul Mellon

Roedd Sandy yn gymeriad cymdeithasol, yn arlunydd hyblyg ac yn ffigwr poblogaidd ym myd celfyddyd. Denodd ddiddordeb bobl gyfoethog a oedd yn hoff o gelfyddyd hefyd. Mwy na thebyg mai Syr Watkin Williams Wynn, tirfeddiannwr Cymreig cyfoethog, oedd ei noddwr pennaf. Ym 1770 dechreuodd ddysgu Syr Watkin i arlunio, diddordeb ffasiynol i'r aristocratiaid. Roedd Syr Watkin yn talu pum swllt y wers i Sandby ac roedd Sandby yn codi dwy gini'r dydd arno am yr anghyfleustra o orfod gadael Llundain i ddod i'r gogledd i Wynnstay, Rhiwabon.


Overton Bridge, Paul Sandby, acwatint, 1776.
© Llyfrgell Genedlaethol - National Library of Wales

Yn ystod haf 1771, gwahoddwyd Sandby nôl i Wynnstay. Roedd ar ei orau'n gelfyddydol ac ar fin cychwyn ar daith a fyddai'n trawsnewid ei yrfa a'i agweddau at gelfyddyd a thirwedd Gogledd Cymru.

1 gwneud darluniau a chynlluniau technegol manwl yw gwaith drafftsmon.

Paul Sandby, yr Arlunydd

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Paul Sandby, yr Arlunydd - Fersiwn PDF 452Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Yr Arlunydd
Y Noddwr
Portffolio o'i Yrfa
Celfyddyd a Syniadau 1700 – 1800
Teithio Gogledd Cymru
Teithio Gogledd Cymru - Parhad
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint