|
Roedd Paul Sandby yn byw mewn cyfnod pan oedd syniadau a ffasiynau'n newid. Ar ddiwedd yr 17eg ganrif y gwelwyd y tirluniau cyntaf. Roeddent yn clodfori'r noddwr, ei gartref, ei erddi a'i statws. Ar ddechrau'r 18fed ganrif datblygodd engrafwyr fel Nathaniel a Samuel Buck ddull dogfennol newydd o greu tirluniau.
Ym 1725 yn ei Tour Through the Whole Island of Great Britain disgrifiodd Daniel Defoe Gymru fel lle 'barbaraidd' a 'digroeso'. Genhedlaeth yn ddiweddarach, newidiodd syniadau meddylwyr fel Edmund Burke ganfyddiad pobl o'r byd naturiol.

Adfeilion hynafol mewn tirwedd ddarluniadwy.
Abbey of Llan Egwerst or Valle Crucis and Castle Dinas Bran, Paul Sandby
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Gellid gweld Prydferthwch mewn tirweddau cyntefig, gwyllt ac anghysbell. Y profiad o ofn ac arswyd yn wyneb pwer ac ehangder natur oedd yr aruchel. Roedd gordyfiant, yr adfeiliedig, y gwyllt a'r di-drefn yn cael eu hystyried yn ddarluniadwy. Gellid gweld prydferthwch, yr aruchel a'r darluniadwy i gyd yng Ngogledd Cymru, gyda'i hadfeilion hynafol a'i mynyddoedd dramatig.

Ffrydiau o ddwr ymysg mynyddoedd syfrdanol.
Pont y Pair over the River Conway, Paul Sandby, 1776.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Yn wahanol i beintiadau cynt o Gymru a welwyd gan y bonedd yn unig, roedd modd i'r dosbarth canol a oedd yn awyddus i ddysgu ac i deithio weld XII Views of North Wales Sandby. Ym 1778 cynhyrchodd Thomas Pennant arweinlyfr delfrydol gyda'i A Tour in Wales, ac roedd y Parchedig Gilpin yn cynnig cyngor manwl ar sut i farnu'r dirwedd berffaith ar gyfer tirluniau. Gallai'r teithiwr fodloni ei holl ymwybyddiaeth artistig gydag un ymweliad â Gogledd Cymru.
Nid cynlluniau teithio'r Saeson oedd yr unig beth a newidiodd y syniadau newydd. Newidiodd celfyddyd tirluniau hefyd. Disodlwyd y tirlun clasurol gyda'i godau a'i reolau gan y darluniadwy ac yn ddiweddarach gan ddelfrydau'r Symudiad Rhamantaidd, lle'r oedd dychymyg yr unigolyn yn bwysig.
Arloesodd acwatintau Sandby ddull mwy naturiolaidd yng nghelfyddyd tirluniau Prydeinig. O ganlyniad i gyhoeddi XII Views in North Wales ym 1776, denwyd sylw artistiaid at Gymru fel cyrchfan i gael ysbrydoliaeth. Teithiodd yr arlunydd William Turner, a gafodd ei ysbrydoli felly, i Gymru bum gwaith yn y 1790au, a datblygodd yn arlunydd ac yn ddehonglwr tirwedd Cymru mewn peintiadau yr ydym yn rhyfeddu atynt hyd y dydd heddiw.
Yr Olygfa Leol
Arsyllwyr oedd y Cymry yn y trafodaethau metropolaidd ffasiynol hyn. Roedd eu mynyddoedd yn diroedd pori dros yr haf ac wedi gweithredu fel amddifynwyr Cymru, ei phobl a'i diwylliant.
Er bo'r bobl leol yn ffynnu o ymweliadau'r twristiaid, roedd ymddygiad y rhai a oedd yn edrych am y darluniadwy yn ddirgelwch iddynt. Roedd elit addysgedig Cymru yn gwawdio anwybodaeth y Saeson a'u parodrwydd i brynu atgynhyrchiadau gwael o'r un hen brintiadau o'r Wyddfa.
Celfyddyd a Syniadau, 1700 - 1800
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Celfyddyd a Syniadau, 1700 - 1800 - Fersiwn PDF 517Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |