|
Ym mis Awst 1771 marchogodd y tirfeddiannwr cyfoethog, Syr Watkin Williams Wynn, a'r arlunydd talentog, Paul Sandby, drwy gatiau Parc Wynnstay yng Nghefnbychan ar gychwyn pythefnos o daith.
Gyda'i gilydd byddent yn archwilio'r hyn a ddisgrifiwyd gan sylwebydd Seisnig o'r ddeunawfed ganrif fel 'the fag end of creation, the very rubbish of Noah's Flood' neu fel yr ydym ni yn eu hadnabod heddiw - golygfeydd godidog Gogledd Cymru.

Roedd Sandby yn destun nifer o bortreadau gan ei gyfoedion gan gynnwys Syr William Beechey a William Parry.
Paul Sandby, Francis Cotes, olew, 1761.
© Tate Britain
Bum mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Paul Sandby ei XII Views in North Wales. Dangosodd y gyfres hon o acwatintau mai yng Ngogledd Cymru roedd golygfeydd mwyaf darluniadwy, aruchel a rhamantus Prydain. Gan fod acwatintau Sandby ar gael yn eang, yn wahanol i'r peintiadau cynt o dirluniau Cymru, newidiwyd y farn am Gymru am byth. Roedd wedi creu argraff ar arlunwyr, a gwelwyd dull newydd o beintio tirluniau. Dilynodd twristiaid yn ôl troed y boneddigion mwy anturus. Maent yn parhau i ddod hyd y dydd heddiw.
Yn yr arddangosfa hon gallwch ddilyn Syr Watkin a Paul Sandby ar eu hantur yng Ngogledd Cymru ar ffilm a thrwy'r arlunwaith a arddangosir. Dengys y ffilm y lleoedd a ysgogodd Sandby ac mae'n dyfalu sut y trawsnewidiodd ei brofiadau yng Nghymru beth yr oedd yn ei ddarlunio a sut yr oedd yn peintio. Yn yr oriel gallwch weld detholiad o waith gwreiddiol Paul Sandby, sydd ar fenthyg o brif orielau Prydain, casglwyd hwy ynghyd am y tro cyntaf yn y wlad a'u hysgogodd.
Diolchiadau
Mae Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam yn dymuno diolch i'r canlynol am eu cymorth: Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain; Tate Prydain, Llundain; Amgueddfa Cymru - National Museums Wales, Cardiff; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Oriel Gelf Walker, Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl; Oriel Gelf Cecil Higgins, Bedford; Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt; Amgueddfa ac Oriel Gelf Bolton; Amgueddfeydd ac Orielau Leeds; Oriel Gelf Dinas Southampton; a'r Casgliad Paul Mellon, Virginia, UDA.
Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru - Fersiwn PDF 404Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|