Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Syr Watkin Williams Wynn – Y Noddwr

 

Ym 1749, pan oedd ond yn bum mis oed, etifeddodd Syr Watkin stad helaeth Wynnstay ar ôl ei dad. Ond rhywbeth personol iddo ef ei hun oedd ei chwaeth gostus fodd bynnag, a ddechreuodd pan aeth ar ei Daith Fawr1 ym 1768. Treuliodd naw mis yn Ffrainc a'r Eidal: yn ymweld â theatrau a thai opera, yn mynd i weld gwahanol olygfeydd, yn cael gwersi cerddoriaeth a dawns, yn cymysgu â'r bonedd ac yn casglu a chomisiynu celfyddyd. Hoffter o gelfyddyd a chwaeth hynod o gostus ddeilliodd o'r profiad.

Ym 1770 dangosodd Syr Watkin sut yr oedd yn dymuno byw drwy ddathlu ei 21ain pen-blwydd mewn steil. Hwyliodd llong o gwmpas yr arfordir o Lundain i Gaer er mwyn cludo'r bwydydd a'r diodydd gorau ar gyfer y wledd a ddarparwyd i 15,000 o bobl ym Mharc Wynnstay.


Syr Watkin, Thomas Apperley and Captain Hamilton, Rome, Pompeo Battoni, 1768-73. © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.

Roedd Syr Watkin yn adnabyddus iawn yn Llundain, yno trigai mewn ty tref hynod o foethus a ddyluniwyd ac a adeiladwyd iddo gan y penseiri enwog Robert & James Adam. Comisiynodd bortreadau gan Syr Joshua Reynolds a thirluniau gan Richard Wilson. Roedd yn hoff iawn o'r theatr ac yn gyfaill i'r actor David Garrick, a'r dramodydd Richard Sheridan.

Ni anghofiodd Syr Watkin ei wreiddiau Cymreig. Cyflogodd delynor ac ymunodd â Chymdeithas y Cymrodorion2. Yn ogystal â hynny, roedd yn ddyn hael. Roedd yn noddi Ysbyty Plant Caffael Thomas Coram yn Llundain ac yn talu am wasanaeth meddyg ac am frechiadau'r frech wen ar gyfer tlodion Rhiwabon a Wrecsam.

Er mai ef, mwy na thebyg, oedd dyn cyfoethocaf Cymru, roedd Syr Watkin yn byw yn uwch na'i stad. Ym 1789, bu farw'n wr ifanc 40 oed, gan adael £160,000 o ddyledion.

1 Y Daith Fawr oedd 'blwyddyn i ffwrdd' y 18fed ganrif pan ai dynion ifanc i deithio Ewrop ac i ddysgu popeth am gelfyddyd a diwylliant.

2 Sefydlwyd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymrodorion ym 1751. Cynyddu'r diddordeb yn hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru oedd ei nod.

Syr Watkin Williams Wynn y Noddwr

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Syr Watkin Williams Wynn y Noddwr - Fersiwn PDF 294Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cyswllt i

Cyflwyniad
Yr Arlunydd
Y Noddwr
Portffolio o'i Yrfa
Celfyddyd a Syniadau 1700 – 1800
Teithio Gogledd Cymru
Teithio Gogledd Cymru - Parhad
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint