|
Roedd Paul Sandby yn gweithio mewn nifer o gyfryngau: dyfrlliw, gouache, ac olew, ond ei acwatintau gafodd ddylanwad parhaol ar ddatblygiad celfyddyd tirluniau Prydeinig.
Yn Ffrainc y cafodd yr acwatint1 ei ddyfeisio. Print yw acwatint, ond heb yr effeithiau llinellol sydd yn nodweddiadol o engrafiadau'r ddeunawfed ganrif. Datblygodd Sandby ddull o wneud acwatintau i'w alluogi i fedru ail-greu edrychiad dyfrlliw, gydag arlliwiau amrywiol a phatrymau cywrain, mewn print. Roedd ei allu i gynhyrchu printiau, a oedd yn ymdebygu i ddyfrlliwiau yn ei XII Views in North Wales, heb y cyfyngiadau dylunio a ffurf a oedd yn gysylltiedig â gwneud printiau traddodiadol, yn golygu bod ei waith yn ddylanwadol iawn. Roedd dyluniadau llyfn ei acwatintau yn gweddu'n berffaith i chwaeth gelfyddydol diwedd y 18fed ganrif. Dangosodd Sandby botensial yr acwatint yn ei waith gorau:

Mae Sandby yn ailgreu pelydrau'r haul yn treiddio drwy'r cymylau yn realistig yn yr acwatint hwn o Ddyffryn Llangollen.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales

Mae Sandby yn archwilio gallu'r acwatint i ddangos amrywiaeth o arlliwiau a gwrthgyferbyniadu, ac felly mae'n cyfleu awyrgylch y castell gyda'r nos.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Yn ystod ei daith i Ogledd Cymru, manteisiodd Sandby ar bob cyfle i dynnu brasluniau. Tynnodd frasluniau o gestyll Conwy a Chaernarfon o nifer o wahanol onglau. Yna, nôl yn ei stiwdio'n ddiweddarach byddai'n ail-weithio'r brasluniau sylfaenol hyn yn acwatintau ac yn beintiadau gorffenedig. Mae'n rhaid bod ganddo gof gweledog gwych oherwydd roedd yn dal i greu gweithiau celf newydd yn seiliedig ar y brasluniau hyn o Ogledd Cymru bron ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.
Mae haneswyr Celfyddyd wedi disgrifio Sandby fel yr arlunydd cyntaf i lwyr ddeall a chyfleu'r darluniadwy2 mewn celfyddyd. Gallwch weld ei ddychymyg ar waith yn ei acwatintau – yn mwyhau mynyddoedd, dyfnhau afonydd, cynyddu maint rhaeadrau, newid symudiadau'r haul a symud golygfeydd; y cyfan er mwyn creu tirluniau â ffurf berffaith.
1 Er mwyn creu ei acwatint peintiai Sandby haenau o wahanol drwch o hylif acwatint ar blât metel i ddyluniad o'i ddewis. Yna defnyddiai asid i losgi'r dyluniad ar blât, po deneuaf yr haenau po fwyaf y byddai'r asid yn llosgi neu'n 'rhychu'r' plât. Yna byddai'r arlunydd yn taenu inc ar y plât. Po ddyfnaf y 'rhychau' po fwyaf o inc fyddai ar y rhan honno o'r plât ac felly byddai arlliwiau tywyllach yn ymddangos ar y print. Roedd yn broses grefftus a gymerai lawer o amser.
2 Syniad y 18fed ganrif o ba dirweddau oedd yn ddeniadol oedd y darluniadwy. Gwerthfawrogiad o'r hen, yr afreolaidd a'r pydredig yn y dirwedd e.e. adfail hen gastell ar fryn, hen adeiladau fferm, a hen dderi cnotiog, oedd y darluniadwy.
Paul Sandby, Portfolio o'i Yrfa
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Paul Sandby, Portfolio o'i Yrfa - Fersiwn PDF 320Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |