|
Cychwynnodd Syr Watkin a Paul Sandby, yng nghwmni Thomas Apperley a Chapten Gascoin, Samuel Sidebotham, asiant Wynnstay; a naw o weision i wasanaethu arnynt, ar eu taith ddydd Mercher 21ain Awst 1771.
Ymweld â'i eiddo ar draws Gogledd Cymru, galw i weld ei berthnasau a'i gyfeillion gwleidyddol a chael amser arbennig o dda oedd bwriad Syr Watkin. I Paul Sandby, roedd yn gyfle i gael ysbrydoliaeth artistig ac i fraslunio tirluniau o Gymru ar draul ei noddwr.
Roedd Syr Watkin a Paul Sandby ill dau yn awyddus i weld y golygfeydd. Aethant allan o'u ffordd i weld y rhaeadr y tu ôl i Felin Cynwyd, ger Corwen. Yn ddiweddarach aethant ar daith ddiwrnod i ymweld â Chastell Dolbadarn ac i weld, os nad i ddringo'r, Wyddfa.

Conwyd Mill near Corwen in Merionethshire, between Llangollin and Bala, Paul Sandby, 1776.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Tra ar y daith, roedd Syr Watkin yn mwynhau ei rôl fel y noddwr mawr. Yn y Bala, talodd am barti coelcerth mawr, gyda digon o gwrw, i'w denantiaid a'i weision. Talodd am ginio da i'r bonedd lleol. Roedd yn dioddef ychydig y bore wedyn ac angen 'trwyth rhiwbob'.

Syr Watkin a'i gwmni yn mwynhau taith mewn cwch ar Lyn Tegid.
Pimble Meer, Paul Sandby, 1777.
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Dengys y cyfrifon yn eglur bod y bonheddwyr yn mwynhau diod neu ddwy gyda'r nos. Yfai'r gweision eu rhan hefyd, er yn llai amrywiol.
August 23rd 1771 Bala: Wine 6s, Punch £1 0s 6d, Cyder 2s 8d and Porter & Ale 9s. Ale for the Bonfire £3 3s.
August 27th 1771 Ffestiniog: Liquor for Gentlemen and Servants £1 13s 0d. Meat and Ale to Pont Aberglaselun £1 1s
August 30th 1771 Caernarfon: Wine & Punch £2 12 s 6d, Ale £1 19s, 2 bottles of Brandy 7s, 1 bottle of Rum 3s.
Yn ffodus, roeddent yn bwyta'n dda bob nos, ac fel rheol, caent bicnic swmpus yn ystod y dydd. Ceir tystiolaeth mewn un acwatint bod yr holl fyw'n fras hwn yn cael effaith ar Syr Watkin.

Ai Syr Watkin yw hwnna yn cysgu er mwyn dod dros effeithiau'r noson gynt?
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru - National Library of Wales
Roedd llawer o dreuliau eraill: rhoddodd Syr Watkin arian i'r tlodion ym mhob tref. Roedd yn rhaid bwydo'r ceffylau, talu biliau'r gofaint a'r cyfrwywyr, a rhoi cildwrn i forwynion a gweinyddion, a doedd ostler yr un dafarn yn gweithio am ddim! Fel arfer rhoddai swllt i'r bachgen am lanhau'r esgidiau. Yn ffodus roedd Samuel Sidebotham yno i gadw llygad ar y gwariant ac i dalu'r biliau.
Teithio Gogledd Cymru
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Teithio Gogledd Cymru - Fersiwn PDF 737Kb 
Taith Drwy 'Wlad Ffrwythlon a Rhamantus' Gogledd Cymru
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Taith Drwy 'Wlad Ffrwythlon a Rhamantus' Gogledd Cymru - Fersiwn PDF 571Kb 
Teithio Gogledd Cymru - Parhad
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |