Teithio Gogledd Cymru - Parhad

Roedd teithio o gwmpas Gogledd Cymru ym 1771 yn antur. Ychydig iawn o ffyrdd y gellid eu hystyried yn ffyrdd. Roedd Syr Watkin a'i gymdeithion yn teithio ar geffylau; roedd cert a oedd yn cludo'u bagiau yn eu dilyn lle'r roedd y ffordd yn caniatáu hynny.


Roedd yn rhaid i'r gert a gludai'r bagiau ddefnyddio'r fferi yn ystod penllanw i groesi tywod peryglus Traeth Mawr h.y. ger Porthmadog heddiw.
Traeth Mawr, Paul Sandby,
© Amgueddfa Cymru National Museum Wales

Roedd Syr Watkin yn defnyddio tywyswyr i sicrhau nad oedd y parti yn mynd ar goll, a chyflogodd bobl leol i weithio fel sherpaid, i gario'r bagiau pan nad oedd y gert ar gael. Swllt yn unig am eu holl waith caled gafodd y tri llanc a gariodd y bagiau o Bont Aberglaslyn i Gaernarfon, ond cafodd y tywysydd i'r Wyddfa 2s 6d a chafodd y cychwr yn Llanberis 10s 6d.


Ysbrydolwyd Sandby gan y diwydiannau newydd yn ogystal â'r darluniadwy.
The Iron Forge between Dolgelli and Barmouth in Merionethshire, Paul Sandby, 1776.
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru National Library of Wales

Treuliodd Paul Sandby ei amser yn tynnu brasluniau o'r golygfeydd a fyddai'n ysbrydoli ei waith gorau. Efallai bod y golygfeydd dramatig o gwmpas Pont Aberglaslyn wedi ei ysbrydoli i amlygu'r elfennau rhamantus yn ei acwatintau.

Yn dindost, cyrhaeddodd y parti Wynnstay ar Fedi'r 4ydd, ar ôl marchogaeth tua 220 milltir i gyd. Wedi teithio'r tair milltir ar hugain olaf gartref o Dreffynnon drwy'r Wyddgrug a Wrecsam mwy na thebyg nad oedd Syr Watkin a Paul Sandby yn ymwybodol o'r effaith a gâi eu taith. Aeth Sandby ymlaen i gynhyrchu dau ar hugain o acwatintau o Ogledd Cymru a oedd yn llawer mwy na chofnod gweledol o'r daith. O ganlyniad i gyhoeddi ei XII Views in North Wales ym 1776 newidiodd yr agweddau at Gymru a chelfyddyd tirluniau Prydain.

Teithio Gogledd Cymru II

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Teithio Gogledd Cymru II - Fersiwn PDF 420Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

yn ôl i'r brig