|
Yn 1834 cyflwynwyd Deddf Newydd y Tlodion a greodd gyfundrefn les newydd yn seiliedig ar y wyrcws. Roedd wyrcws Wrecsam ar Croesnewydd Road.

Map yn dangos lleoliad y wyrcws yn Wrecsam. Sylwch ar Stryt yr Undeb, y llwybr gwreiddiol i'r wyrcws o Stryt y Rhaglaw.
© Ordnance Survey/Archifau Wrecsam
Bywyd caeth oedd bywyd y wyrcws, gyda llawer o reolau i'w parchu. Câi gwragedd eu gwahanu oddi wrth eu gwŷr, a phlant oddi wrth eu rhieni. Roedd rhaid i'r trigianwyr weithio'n ddigyflog yng nghaeau neu olchdy'r wyrcws. Byddai gwrthod yn arwain at ddedfryd o lafur caled. Roedd y rheolau hyn a'r anfri a ddeuai yn sgil bod yn dlotyn wedi'u bwriadu fel ataliad. Roedd yr 'anhaeddiannol' megis cardotwyr a mamau di-briod yn cael eu trin yn llym.
Ordered that all Vagrants admitted into this house be strictly searched by the Master and if there is found sufficient cash in their possession to furnish them with lodgings, that they be rejected.
- Ceidwaid Deddf y Tlodion, Wrecsam, 26 Mawrth 1840
Roedd y gymdeithas Fictoraidd yn amlygu ochr garedicach i'r tlodion a ystyrid yn 'haeddiannol' trwy gyfrwng gweithredoedd o haelioni unigol. Rhoddodd Miss Maude Jones o Regis Place, Wrecsam geffyl siglo yn anrheg. Gwahoddwyd y trigianwyr i Erddig gan Mr Yorke, tra aeth y Maer a'r Faeres ati i drefnu te 'cyllell a fforc' ac adloniant. Byddai William Bragger, sef y meistr rhwng 1857 a 1863, yn prynu teganau a theisennau i'r plant yn aml. Am ei fod mor garedig, cafodd ei feirniadu gan y Ceidwaid am wneud wyrcws Wrecsam yn 'dalcen meddal'; gan ddweud bod yn well gan y tlodion fyw yn y wyrcws na cheisio ennill bywoliaeth oddi allan iddo.
Ni fyddai plant yn gorfod derbyn cyfrifoldeb am eu sefyllfa a châi'r plant oedd yn cael eu geni yno eu cofrestru fel rhai a anwyd ym 'Mhlas Panton' i guddio eu gwir gefndir. Roedd ysgol yn y wyrcws a châi'r plant hŷn eu hanfon i weithio fel gweision neu forynion neu fel prentisiaid.
¹ term a ddefnyddid i ddisgrifio pobl oedd yn byw yn y wyrcws neu'n dibynnu ar daliadau allanol – enw Deddf y Tlodion ar daliadau lles y gyfundrefn.
The children are paupers it is true, but let it be remembered, that they are so without any fault of their own.
- Wrexham Recorder, 1849
Sarah Micklewright wishes to see the Board to ask for clothes for her child. Request refused. Mary Higgins wishes to appear before the Board to ask for boots to leave the house. Boots Refused.
- Llyfr Log yr Ysgolfeistr, Wyrcws Undeb Wrecsam.
God bless our Benefactors
For this our Christmas cheer:
May blessings rest on them and theirs,
Throughout the opening year.
Freely they have given
Both of their time and wealth
And for their kindness shown to us
Wish them long life and health.
God bless our kindly Master
Likewise the Matron too:
So wise to rule, so kind to bear,
With faults we often do.
Now while we are singing
Our thanks to all we give
Who smile on lowly children,
Long may they happy live.
- Cân o Ddiolchgarwch a gafodd ei chanu mewn cyngerdd yn Wyrcws Undeb Wrecsam, Ionawr 16 1867.

"Mae John Pickering, bachgen ifanc tair-ar-ddeg oed, yn dangos ei fod yn brentis rhagorol o grydd i Mr Alfred Povey o’r Rhos. Swllt yr wythnos yw ei gyflog, a bydd hwnnw’n codi i swllt a chwech y flwyddyn nesaf."
Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol - fformat PDF 717Kb 
Mae dyfyniadau o ddyddlyfr y meistr yn Wyrcws Undeb Wrecsam ar gael i'w lawrlwytho yn y fformat canlynol:
Ddyddlyfr y Meistr yn Wyrcws Undeb Wrecsam - fformat PDF 46Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|