|
Roedd y Fictoriaid yn rhoi bri ar addysg, ond dim ond addysg sylfaenol iawn a dderbyniai’r rhan fwyaf o blant. Roedd ysgolion rhad yn brin. I lawer, yr Ysgol Sul oedd yr unig ysgol oedd ar gael. Roedd y plant oedd yn mynd i’r ysgol yn dysgu darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, yn astudio’r Beibl ac yn dysgu’r catecism ar eu cof.¹ Fel arfer roedd y plant yn gorfod dysgu popeth ar eu cof. Roedd papur yn gostus, llyfrau yn brin oherwydd hynny, a dim ond llechi ar gael i ysgrifennu arnyn nhw. Saesneg oedd cyfrwng y gwersi. Dim ond yn yr Ysgolion Sul y ceid y Gymraeg.
Roedd crefydd yn fater o bwys yn addysg y 19eg ganrif. Cefnogai Eglwys Lloegr yr Ysgolion Cenedlaethol yn Y Waun, Rhiwabon, Rhos a Wrecsam. Roedd yr Anghydffurfwyr² yn anfon eu plant i’r Ysgolion Prydeinig, fel yr un yn Brook Street, Wrecsam.
Yn 1847, sefydlodd y llywodraeth Gomisiwn i Ymchwilio i Gyflwr Addysg yng Nghymru. Roedd gan y Comisiynwyr lawer o ragfarnau ynghylch yr iaith Gymraeg ac Anghydffurfiaeth.
The scholars are very dirty and ragged, uncouth… and being altogether uncivilized, appear to require discipline even more than instruction.
- Adroddiad am Ysgol Brydeinig, Rhosllannerchrugog, 1847.
Dadlennodd Adroddiad y comisiynwyr ar yr ysgolion yng nghyffiniau Wrecsam pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa; athrawon nad oedden nhw wedi derbyn fawr ddim hyfforddiant ac ysgolion prin eu hadnoddau. Achosodd yr adroddiad gryn gynnen, ond fe’i gwelwyd yn lleol fel her. Agorwyd Ysgolion Cenedlaethol newydd yn Wrecsam a Rhiwabon a thalodd y teuluoedd bonheddig lleol am Ysgol i’r Tlodion yn Wrecsam i ddarparu addysg i blant o deuluoedd tlawd.

Ysgolfeistres, cynorthwywyr ac athro-ddisgyblion, Ysgol Brydeinig (Merched), Glan yr Afon, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
We found the master in a public house, the hour was 10am. The boys were in the school meanwhile playing with all their might.
- Ysgol yr Eglwys, Gresffordd,1847 .
The apparatus consist of a few books and cards, which are tattered and scarcely legible, and there is a small dirty map of Palestine fixed to one of the walls.
- Adroddiad am Ysgol Rad Rhiwabon, 1847

Bechgyn yn yr Ysgol Brydeinig, Glan yr Afon, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
Nodiadau
¹ Cyfres o gwestiynau ac atebion yr oedd plant yn eu dysgu ar eu cof, yn manylu ar gredoau’r Eglwys Gristnogol, yw’r catecism.
² Roedd yr Anghydffurfwyr, a adnabyddid fel ‘Sentars’ yn cynnwys Cristnogion fel y Bedyddwyr, y Methodistiaid a’r Presbyteriaid. Fe’u gelwid yn anghydffurfwyr am eu bod yn gwrthod cydymffurfio a chredoau Eglwys Lloegr.

Babanod yn yr Ysgol Brydeinig, Glan yr Afon, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
"Bwthyn di-nod yw Ysgol yr Eglwys, Brymbo. Welais i’r un Beibl yn yr ysgol. Does yno ddim llechen gyfan na llyfr i’r plant ei ddarllen."
Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:
Addysg - Yr Her - fformat PDF 589Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|