Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Addysg - Yr Ymateb

 

Yn 1870, sefydlodd y Llywodraeth fyrddau ysgolion oedd yn cael eu hethol yn lleol. Eu swyddogaeth oedd darparu addysg i’r traean o blant nad oedden nhw’n mynychu’r ysgol, ynghyd â gwella’r ysgolion oedd yn bodoli eisoes. Sylweddolodd y gwahanol eglwysi y byddai pwy bynnag oedd yn rheoli’r byrddau ysgol hefyd yn rheoli addysg yr ifanc. Fodd bynnag, sicrhaodd y farn gyhoeddus, a gâi ei harwain gan bapurau lleol, nad oedd un eglwys yn tra-arglwyddiaethu ar y bwrdd ysgolion.


Charles Dodd, Prifathro'r Ysgol Brydeinig ac Ysgol Fictoria, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam

Roedd safbwyntiau cryfion ynghylch yr hyn y dylai plant ei ddysgu yn yr ysgol. Teimlai llawer mai dim ond y medrau oedd yn eu paratoi i fod yn weision neu forynion oedd yn briodol i enethod, tra oedd angen rhoi pwyslais ar waith ymarferol yn yr addysg i fechgyn.

The study of dead languages, Bible history and theological subjects get more than a fair share of attention to the practical exclusion of the essentials of a practical training

- The Wrexhamite, 1888.

Yn raddol, sefydlwyd Ysgol Bwrdd ym mhob cymuned gan y Bwrdd Ysgolion i ddiben darparu addysg elfennol [cynradd], ar wahân, i fechgyn a genethod.  Erbyn 1901 roedd addysg yn rhad ac yn orfodol hyd at 13 oed, er y byddai plant yn colli’r ysgol weithiau oherwydd eu bod yn gorfod gweithio.

Attendance has suffered during the current week on account of many children having to help their parents in the potato fields.

- George Bristow, Log yr Ysgolfeistr, Bwrdd Ysgol Y Bers, Hydref 16, 1896

  


Plant yn Ysgol y Wern, Y Rhos (babanod). Fersiwn mawr.

© Archifau Wrecsam

This school is in excellent order. The children recite with spirit and intelligence and the handwriting is particularly good throughout the school.

- Adroddiad ar Fwrdd Ysgol Y Bers, Tachwedd 1896.

 

Our girls ought to be taught baking and boiling, sweeping and sewing… trained to be become useful servants and wives in place of ornamental nonentities.

- Llythyr i’r Wrexhamite, un o’r papurau lleol, 1888.


Plant yn Ysgol y Wern, Y Rhos (cynradd). Fersiwn mawr.

© Archifau Wrecsam

Rydw i’n ddisgybl-athro yn ysgol y merched yn Brook Street. Dosbarth gwnïo sydd yma heddiw’r bore, ond bydd llawer o’r genethod yn absennol gan fod y syrcas yn y dref.
"Rydw i’n ddisgybl-athro yn ysgol y merched yn Brook Street. Dosbarth gwnïo sydd yma heddiw’r bore, ond bydd llawer o’r genethod yn absennol gan fod y syrcas yn y dref."

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Addysg - Yr Ymateb - fformat PDF 703Kb

Mae dyfyniadau o'r llyfr log yn Ysgol Fechgyn y Bers, sef Canolfan Dreftadaeth y Bers bellach, ar gael i'w lawrlwytho yn y fformat canlynol:

Llyfr Log yn Ysgol Fechgyn y Bers - fformat PDF 115Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint