Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Ffydd a Moesoldeb

 

Yn eu hadroddiad ar Gyflwr Addysg yng Nghymru¹ yn 1847, disgrifiwyd cymunedau Rhosymedre a Rhosllannerchrugog gan y Comisiynwyr fel y rhai mwyaf anfoesol ac anllythrennog yng ngogledd Cymru.  Serch hynny, roedd 1,595 o blant plwyf lleol Rhiwabon yn mynychu ysgol Sul oedd yn gysylltiedig â chapel neu eglwys yn yr ardal.


Sampler a wnaed gan blentyn lleol, 19eg ganrif.
© Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gwelodd yr Anghydffurfwyr yr adroddiad fel her ac aethpwyd ati i godi mwy o gapeli ac i fod yn fwy gweithgar yn y gymuned. Erbyn 1900 roedd mwy nag ugain o gapeli ac eglwysi yn perthyn i o leiaf bump o wahanol enwadau yng nghyffiniau Rhosllannerchrugog.

Roedd cefnogaeth gref i’r Mudiad Dirwestol yn y capeli. Roedd y mudiad yn condemnio alcohol ac yn defnyddio digwyddiadau cymdeithasol i argyhoeddi pobl y dylent gymryd ‘y llw’². Fe agorwyd ystafelloedd coco yn Wrecsam ac Owrtyn er mwyn cynnig mannau cyfarfod amgenach na’r tafarnau i bobl. Yn aml, byddai athrawon y cylch yn cwyno am fod plant yn cael eu temtio i golli’r ysgol er mwyn iddynt fedru mynychu’r gorymdeithiau a’r partïon te oedd yn cael eu trefnu gan y Gobeithlu a’r Rechabitiaid.

Mr Darby invited about 200 people to tea in the school room to hear an address from Mr Bowley on the Question of Total Abstinence.

- Llyfr Log yr Ysgol, Ysgol Brymbo a Brychtyn, Ionawr 21 1863.

 

The occasion of a grand demonstration of the Band of Hope and Temperance Societies, affecting both scholars and junior teachers. School closed for the afternoon.

- Cofnod yn Llyfr Log, Ysgol y Bwrdd Addysg yn Y Bers ar gyfer Medi  26, 1893.

Fodd bynnag, er bod y mudiadau dirwestol yn weithgar, roedd terfynau ar eu heffeithiolrwydd. Cwrw oedd yn torri syched gweithwyr y fro, sef y gweithwyr dur oedd yn dioddef gwres llethol y ffwrneisi a’r glowyr ar eu ffordd adref o’r pyllau.  Roedd gan Wrecsam fwy na 70 o dafarnau, amryw o siopau gwirodydd a nifer fawr o fragdai a gweithwyr bragdy oedd yn awyddus i ddiogelu eu bywoliaeth.

…the prevalence of drunkenness, foul language, fighting and bestialities of a worse description.

- Y Parchedig J.D.Edwards am bobl  Rhosymedre, 1847.

¹ Adroddiad y Comisiwn Ymchwil i Gyflwr Addysg yng Nghymru a adnabyddir fel Brad y Llyfrau Gleision. Roedd casgliadau a chywair yr adroddiad yn cael eu hystyried yn sen ar bobl Cymru.

² Gwelwyd yr addewid i ymwrthod ag yfed alcohol fel rhywbeth oedd yn cyfrannu ar les moesol y sawl a argyhoeddwyd. Nid ymgyrch i wella iechyd pobl oedd hi.

Roeddwn i’n mynd i’r Ysgol Sul pan oeddwn i’n iau. Mi allai’i gofio ein gorymdaith flynyddol trwy Wrecsam a’r partïon te.
"Roeddwn i’n mynd i’r Ysgol Sul pan oeddwn i’n iau. Mi allai’i gofio ein gorymdaith flynyddol trwy Wrecsam a’r partïon te."

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Ffydd a Moesoldeb - fformat PDF 815Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint