Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Gwerthoedd Oes Fictoria

 


Poster o'r arddangosfa
© Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam

Ar 3 Chwefror, 1897, blwyddyn Jiwbili Arian y Frenhines Fictoria, ysgrifennodd George Bristow, ysgolfeistr Ysgol Bwrdd Y Bers, y canlynol yn ei lyfr log:

"Devoted a whole lesson to loyalty. Reason for the term 'Diamond' – recalled the Jubilee Year – compared our country with others – immunity from invasion and civil strife – growth of commerce – change in methods of communication and locomotion – Christian character of Her Majesty. Finally concluding with the National Anthem."

Fel rheol, ni fyddai Mr Bristow yn dysgu'r math yma o wers i'w ddosbarth, ond roedd y gwerthoedd a gyflwynai yn nodweddiadol o’r cyfnod.  Roedd y Frenhines Fictoria wedi bod ar yr orsedd am drigain mlynedd  a theyrnasai dros Ymerodraeth nad oedd yr haul byth yn machlud arni.


Stryt Fawr, Wrecsam Fictoriaid
© Archifau Wrecsam

Serch hynny, nid oedd popeth yn aros yn ei unfan, a gwelodd pobl oes Fictoria newidiadau mawr yn eu bywydau. Cafodd y newidiadau hyn eu hysbrydoli gan y modd y gwelai pobl oes Fictoria y byd a sut roedden nhw’n barnu'r byd o’u cwmpas. Gadawodd y gwerthoedd hyn eu hôl ar Wrecsam a chymunedau eraill y cylch. Mae’r arddangosfa hon yn ystyried rhai o’r gwerthoedd hynny; pwysigrwydd dysg; dyngarwch; moesoldeb; teyrngarwch; hierarchaeth, diwydiant a chynnydd; sut yr effeithiodd y gwerthoedd hyn ar fywydau pobl leol, pwy a elwodd a phwy a ddioddefodd.

This is an age of improvement and discovery and intellectual progress, beyond any that has gone before it.

- Wrexham Recorder 1848

 

A spirit of progressive improvement has of late manifested itself in this town and neighbourhood.

- Cofrestrydd Wrecsam, 1848

 

Up fellow townsmen and be doing! Awake from your ignoble slumbers, and join in the universal and accelerating march of intelligence, liberty and religion.

- Cofrestrydd Wrecsam, 1848

 

Mae llawer o ffynonnellau cynradd ar gael o hyd pe baech chi’n dymuno ymchwilio i hanes Wrecsam a chymunedau eraill y cylch mewn mwy o fanylder. 

Mae adroddiadau’r Cyfrifiadau, cofnodion cyfarfodydd Ceidwaid Deddf y Tlodion yn Wrecsam, llyfrau log ysgolion bwrdd lleol a chofnodion y Llys Chwarter ynghyd â chopïau microffilm o’r Wrexham Advertiser a’r Wrexham Guardian ymhlith y nifer fawr o adnoddau diddorol sydd ar gael yn yr archifau lleol.

Cydnabyddiaeth

  • Gwasanaeth Archifau Wrecsam
  • W.A.Williams
  • C.J.Williams
  • Bark Design

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Gwerthoedd Oes Fictoria - fformat PDF 703Kb

Mae map yn dangos Wrecsam yn 1898 ar gael i'w lawrlwytho yn y fformat canlynol:

Map o Wrecsam 1898 - fformat PDF 207Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint