Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Diwyddiant

 

Yn ystod y cyfnod Fictoraidd bu newid mewn agweddau tuag at ddiwydiant ac amodau gwaith. Bu Deddf Mwyngloddiau 1842 yn gyfrwng i wahardd gwragedd, genethod a bechgyn dan 10 oed,   rhag gweithio dan ddaear yn y mwyngloddiau.  Ar ôl ymgyrch hir, cyfyngodd Deddf Ffatrïoedd 1874 hyd y diwrnod gwaith i ddeg awr.  Gwrthododd rhai gwŷr busnes y newidiadau hyn gan ddweud eu bod nhw’n cynrychioli ymyrraeth ar ran y llywodraeth. Ymdrechodd eraill o blaid y ddeddf, gan geisio rhoi terfyn ar y niwed oedd yn cael ei wneud i wragedd a phlant. Mae llyfrau log ysgolion lleol yn dangos bod y deddfau newydd yn cael eu diystyru.

Nine children under 12 years employed by the coal mines were working underground. They can neither read nor write. The law is violated.

- John Evans, Ysgolfeistr, Llyfr Log Ysgol Brymbo a Brychdyn,  Medi 17, 1864.

  
 

The children are employed at a very early age to open the doors for ventilating pits, to drive horses which are employed below, and to drag small carts on their hands and knees. The average age at which the children are employed is 8.

- Thomas Francis, siopwr, Wrecsam, 1847.

Roedd y Wrecsam Fictoraidd yn awyddus i hyrwyddo masnach. Ar 22 Gorffennaf 1876, daeth Dug a Duges Westminster i’r dref i agor ‘Arddangosfa Trysorau Celf a Diwydiant Gogledd Cymru’, sef arddangosfa dros gyfnod o bedwar mis, ar lun yr arddangosfeydd mawr a gynhaliwyd yn Llundain a Glasgow, i ddathlu celfyddyd a dyfeisgarwch.  Mae’r fynedfa i’r neuadd arddangos, sef Adeiladau Westminster, yn sefyll hyd heddiw yn Stryt yr Hôb yn Wrecsam. Roedd pum-deg-un o stondinau busnes, ynghyd â mwy na 900 o weithiau celf a 2,300 o  arddangosion eraill, gan gynnwys gwaith metel, crochenwaith, porslen, hynafiaethau, cerflunwaith a thecstilau, yn cael eu harddangos.


Roedd Gweithfeydd Dur Brymbo yn arglwyddiaethu'r bobl leol: yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn gorfforol trwy ei bresenoldeb enfawr ar y tirlun.
© Archifau Wrecsam

 

Gweithfeydd Dur Brymbo - un o ddiwydiannau mwyaf uwch-dechnolegol Wrecsam.
© Archifau Wrecsam

Ymgorfforiad arall o’r deisyfiadau masnachol a ddaeth i’r amlwg yn 1888 oedd agoriad swyddogol Ysgol Gwyddoniaeth a Chelfyddyd Wrecsam.  Roedd y ganolfan hon yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol, gyda chyrsiau mewn adeiladu ac adeiladwaith, peirianneg fecanyddol, lluniadu technegol, cemeg a mathemateg.

Gweithiwr ydw i yng Ngwaith Lledr Cambrian. Mae’n swydd reolaidd a da ac rydych chi’n dod i arfer gyda’r oglau mewn dim o dro. Mae fy ngwraig a’m merch hynaf yn gweithio yma hefyd.
"Gweithiwr ydw i yng Ngwaith Lledr Cambrian. Mae’n swydd reolaidd a da ac rydych chi’n dod i arfer gyda’r oglau mewn dim o dro. Mae fy ngwraig a’m merch hynaf yn gweithio yma hefyd."

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Diwyddiant - fformat PDF 736Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint