|
Ar ôl wythnosau o baratoi, roedd Wrecsam yn barod i roi croeso i’r Frenhines Fictoria. Cyrhaeddodd y frenhines orsaf Rhiwabon am chwarter wedi pedwar, ar brynhawn Sadwrn 24 Awst 1889. Teithiodd ar hyd yr hen ffordd i Wrecsam dan gyfres o fwâu addurnedig. Roedd pob man wedi’i addurno gyda fflagiau a mân faneri. Roedd sawl baner yn datgan teyrngarwch i’r goron ac yn cyfarch y frenhines mewn Cymraeg a Saesneg.
"A Hearty Welcome to Queen Victoria" "God Bless Our Queen" "Croesaw i Gymru" "Duw a Gadwo y Frenhines"

Tocyn i'r derbyniad swyddogol i'r Frenhines Fictoria ym Mharc Acton, Wrecsam.
© Archifau Wrecsam
Trefniadau ar gyfer ysgolion lleol yn ystod ymweliad swyddogol Ei Mawrhydi'r Frenhines Fictoria. Fersiwn mawr.
© Archifau Wrecsam
Daeth tyrfaoedd, gan chwifio hetiau a hancesi, i’w chyfarch wrth i’r Frenhines Fictoria fynd heibio yn y cerbyd brenhinol, gyda’i gosgordd o filwyr a’i gweision Indiaidd, a theithio trwy strydoedd gorlawn Wrecsam. Derbyniwyd y frenhines gan y maer a rhai o enwogion lleol ar ddarn o dir caeedig ym Mharc Acton, tra oedd y cyfranwyr cyfoethog, a brynodd yr addurniadau, yn cael eistedd yn y seddau gorau. Wedyn, gwrandawodd y frenhines ar gôr o bedwar cant o leisiau, ynghyd â rhagor na 10,000 o blant yr ysgolion Sul, yn canu fersiwn arbennig o’r Anthem Genedlaethol. Derbyniodd pob un o’r plant fathodyn coffaol i ddathlu’r achlysur. Dridiau yn ddiweddarach cafodd y maer ei urddo’n farchog am drefnu achlysur mor rhwysgfawr.

Amserlen ymweliad Ei Mawrhydi'r Frenhines Fictoria â Wrecsam. Fersiwn mawr.
© Archifau Wrecsam
It was 5.10 by the church clock as Major Leadbetter on horseback emerged from Town Hill at the head of the procession. Two scarlet coated outriders immediately preceded the royal carriage, the first glimpse of which was the signal for an outburst of cheering.
- Oswestry & Border Advertiser, 1889.

Cyngor i bobl oedd wedi cael tocynnau i'r derbyniad swyddogol ym Mharc Acton, Wrecsam, 1889. Fersiwn mawr.
© Archifau Wrecsam
On this glad festal day
Warmly doth Cambria pray,
God save our Queen.
From vale and mountainside
Swells like the rising tide
Echoing far and wide
Welcome to Wales!
- Pennill a ychwanegwyd at yr Anthem Genedlaethol a ganwyd ym Mharc Acton, Wrecsam, dydd Sadwrn, Awst 24 1889.
Mr Mayor, Her Majesty was much gratified by the loyal and enthusiastic welcome given to her by all classes of her subjects.
- Henry Cecil, Gweinidog y Frenhines Fictoria, llythyr i Evan Morris, Awst 27 1889.

"Roeddwn i’n un o’r plant a ganodd i’r Frenhines Fictoria pan ddaeth hi i Wrecsam. Fe wnaethon ni ganu Hen Wlad fy Nhadau a God Save the Queen. Maen nhw’n dweud mai ar sail ein canu ni y cafodd y Maer ei urddo’n farchog."
Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:
Teyrngarwch a Hierarchaeth - fformat PDF 825Kb
Mae llinell amser Gwerthoedd Fictoraidd ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau canlynol:
Llinell Amser Gwerthoedd Fictoraidd - fformat PDF 31Kb
Mae mwy o ffynonellau cynradd o’r oes Fictoraidd leol ar gael i’w lawrlwytho yn y fformat canlynol: Victorian Era Primary Sources (Saesneg yn unig) - fformat PDF 62Kb
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
|