Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Dyngarwch

 

Yn Oes Fictoria, dyletswydd aelodau cefnog cymdeithas oedd helpu'r tlodion. Y symbol amlycaf o hyn yn yr ardal oedd Clafdy Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw.

Accumulated wealth did not forget that the poor had a claim upon it and a dispensary was established.

- Adroddiad Blynyddol y Fferyllfa, c.1834.

 


Clafdy Wrecsam, Stryt y Rhaglaw.
© Archifau Wrecsam

Cafodd Dr Thomas Griffith gefnogaeth y boneddigion lleol er mwyn iddo fedru agor fferyllfa gyntaf Wrecsam yn 1833. Pan sylweddolwyd beth oedd maint y galw am ofal meddygol, codwyd arian i adeikadu clafdy iawn yn 1838.  Costiodd yr ysbyty fwy na £1,800 i’w adeiladu, ond codwyd £1,050 tuag at yr achos mewn basâr, a drefnwyd yn Neuadd y Dref yn ystod cyfnod Rasys Wrecsam.

Roedd rheolaeth y clafdy yn adlewyrchu gwerthoedd y cyfnod. Dim ond pobl a allai fforddio i dalu oedd yn derbyn triniaeth yno. Gallai noddwyr oedd yn cyfrannu’n rheolaidd enwebu pobl dlawd i dderbyn triniaeth feddygol.

Ymhen amser, daeth y clafdy i gynnig gwasanaethau newydd megis triniaeth opthalmig [llygaid] a thriniaeth ddeintyddol. Ychwanegwyd theatr llawdriniaeth. Yn 1898 roedd 355 o gleifion yn cael eu trin yn yr ysbyty, a’r meddygon yn trin 2,285 o all-gleifion. Gan nad oedd unrhyw gyfraniad ariannol gan y llywodraeth, roedd yr holl arian yn cael ei godi’n lleol. Roedd digwyddiadau blynyddol fel Carnifal Clwb Seiclo Wrecsam, Sadwrn yr Ysbyty a Dawns Flynyddol Clafdy Wrecsam, ynghyd â chasgliadau mewn eglwysi a thanysgrifiadau gweithwyr, yn helpu i godi’r arian angenrheidiol.


Brigâd Dân Tywysog Cymru Wrecsam. Sefydlwyd yn 1863 a bu’r dref yn dibynnu ar ddynion tân gwirfoddol am fwy na deugain mlynedd. Cyn hynny, yr unig frigâd oedd un y cwmnïau yswiriant. Dim ond am eiddo eu cwsmeriaid yr oedden honno’n gyfrifol.
© Archifau Wrecsam

Patients to consist of such persons as are too poor to defray the expenses of medical attendance.

- Rheolau Ysbyty Wrecsam

 

Two pairs of bone forceps, one butcher's improved saw with extra blades, half a dozen skeins of ligature silk and one dozen medium sized needles.

- Archeb am gyfarpar i Glafdy Wrecsam, 1858.

Wrth lwc, cafodd fy ngwr driniaeth yn y Clafdy ar ôl i Syr Watkin argymell hynny. Fel arall, ar ôl iddo fo gael damwain yn y pwll, mae’n siwr y bydden ni wedi ei golli.
"Wrth lwc, cafodd fy ngŵr driniaeth yn y Clafdy ar ôl i Syr Watkin argymell hynny. Fel arall, ar ôl iddo fo gael damwain yn y pwll, mae’n siŵr y bydden ni wedi ei golli."

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Dyngarwch - fformat PDF 592Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint