Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cynnydd

 

Roedd pobl Oes Fictoria yn credu’n gryf mewn cynnydd. Roedd y rheilffyrdd yn un o symbolau mwyaf pwerus y cynnydd hwn.

Yn 1842, anfonodd grŵp o fuddsoddwyr o’r Alban ŵr o’r enw Henry Robertson i Sir Ddinbych i chwilio am gyfleoedd i gychwyn busnesau. Sylweddolodd yn fuan sut y gallai’r rheilffyrdd drawsnewid yr economi leol. Yn ei farn ef, y flaenoriaeth oedd cysylltu’r pyllau glo, y gweithfeydd briciau, teiliau a theracota a’r ffowndrïau haearn gyda’u marchnadoedd, sef y dinasoedd llewyrchus yn Lloegr. Robertson oedd y syrfëwr a’r peiriannydd i’r rheilffordd a adeiladwyd i gysylltu Wrecsam a Rhiwabon gyda Chaer yn 1846. Yn 1848, gwnaeth ei draphontydd yn y Cefn a’r Waun hi’n bosibl i’r trenau nwyddau cyntaf deithio i’r Amwythig.


Gorsaf Reilffordd wreiddiol Wrecsam, c.1866
© Archifau Wrecsam

It was amusing as we crossed the Chirk Viaduct to watch a canal boat making its slow voyage across the aqueduct just below us. The boat was drawn by two donkeys, who hung down their heads as if afraid of beholding their next opponent, who was flying along at such extraordinary speed.

- Agoriad lein rheilffordd Wrecsam – Yr Amwythig, Wrexham Recorder, Hydref 12 1848.

Daeth y rheilffyrdd â newid i Wrecsam hefyd. Roedden nhw’n cynnig gwaith ac yn galluogi’r boblogaeth leol i deithio i lan y môr neu i’w mannau gwaith.  Dibynnai melin anferthol Cobden ar y rheilffordd i gludo’r grawn iddi ac i ddanfon y blawd yr oedd yn ei gynhyrchu.  Prynodd datblygwyr y tir ar Bradley Road i godi tai ar gyfer gweithwyr y felin. Cafodd y strydoedd newydd eu henwi ar ôl arweinyddion y Gynghrair a wrthwynebai’r Deddfau Ŷd.¹

Collodd y ffeiriau blynyddol a’r masnachwyr teithiol a fynychai’r sgwariau ger Henblas Street eu gafael. Yn eu lle, agorodd siopau newydd a werthai nwyddau y gallai’r trenau eu danfon trwy gydol y flwyddyn. 

¹ Y Deddfau Ŷd oedd yn cadw pris gwenith yn uchel trwy drethu mewnforion. Ymgyrchodd diwydianwyr yn erbyn y deddfau gan y byddai gwenith rhatach yn arwain at fara rhatach ac yn rhoi cyfle iddynt dalu cyflogau llai. Cafodd y Deddfau Ŷd eu diddymu yn 1846.

Mae’r rheilffyrdd newydd yma’n anhygoel. Os ydych chi’n hoffi’r môr, mae ‘na drenau o Wrecsam i’r Rhyl ac o Riwabon i’r Bermo. Nid mod i fy hun wedi bod i lan–y-môr erioed.
"Mae’r rheilffyrdd newydd yma’n anhygoel. Os ydych chi’n hoffi’r môr, mae ‘na drenau o Wrecsam i’r Rhyl ac o Riwabon i’r Bermo. Nid mod i fy hun wedi bod i lan–y-môr erioed."

Mae'r ddogfen hon â lluniau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho yn y fformatau isod:

Cynnydd - fformat PDF 589Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol:

Cyflwyniad
Addysg - Yr Her
Addysg - Yr Ymateb
Yr Haeddiannol a'r Anhaeddiannol
Dyngarwch
Ffydd a Moesoldeb
Cynnydd
Diwydiant
Teyrngarwch a Hierarchaeth
Mynegai Treftadaeth
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint