Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Cytlasau

 

Llun o cytlasauRhoddwyd y cytlasau hyn i Heddlu Sir Ddinbych yma yn Adeiladau'r Sir yn Ebrill 1882. Trodd anghydfod diwydiannol ym Moss yn ffyrnig ac roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig eisoes wedi'u hanfon yno i atgyfnerthu'r Heddlu yn erbyn y glowyr.

Wrth roi'r cytlasau i'r Heddlu, rhoddodd yr Uwchgapten Leadbetter, y Prif Gwnstabl y gorchymyn canlynol:

"Wrth roi'r cytlasau hyn i Heddlu Sir Ddinbych o ganlyniad i gyflwr aflonydd yr ardal a'r sôn am derfysgoedd, mae'r Prif Gwnstabl yn dymuno'n daer bod pob dyn yn deall mai mewn amgylchiadau eithafol o hunanamddiffyn, pan fo perygl mawr i fywyd, neu mewn cydweithrediad â grymoedd y lluoedd pan fyddant yn rhuthro ar y dyrfa, yn dilyn darllen y Ddeddf Derfysg yn unig y dylid eu defnyddio. Hyd yn oed wedyn, mae'r Prif Gwnstabl yn gobeithio na fydd unrhyw ddyn yn mynd dros ben llestri yn yr awyrgylch a bydd yn defnyddio'r arf pan fo angen yn unig ac y byddant achosi cyn lleied o anafiadau â phosibl."

Roedd yr Uwchgapten Leadbetter yn poeni am y sefyllfa a sut dylai ymateb. Roedd angen barn rhywun arall arno. O'i swyddfa yn yr adeilad hwn, gofynnodd am farn cyn gydweithiwr, Cyrnol Cobbe.

Ymatebodd y Cyrnol Cobbe ar 29 Ebrill 1882:

"Annwyl Uwchgapten Leadbetter,

Rwyf wedi sylwi yn y papurau eich bod wedi cael trafferth â'ch glowyr a gwyddaf fod cynnwrf mawr ymysg y dosbarth hwn yn gafael o bryd i'w gilydd. Rwy'n sicr eich bod wedi cael eich trafferthion. Ynghylch eich ymholiad am wisgo a defnyddio cytlasau, yr unig beth y gallaf ei wneud yw tynnu eich sylw at y rheoliadau sy'n dyddio'n ôl cyn belled â Chwefror 1857, ond rwy'n credu eu bod yn dal yn briodol hyd heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi y gellir rhoi cytlasau bychain i unrhyw gwnstabl. Mae ar gyfer hunan amddiffyniad yn rhinwedd ei ddyletswyddau. Dim ond yn ystod y nos neu ar adegau pan fo terfysgoedd neu aflonyddwch cyhoeddus difrifol wedi digwydd neu'n cael ei stopio; neu unrhyw argyfwng disymwth, pan fydd y Prif Gwnstabl yn gorchymyn i un neu fwy o gwnstabliaid fod wedi'u harfogi, y dylid gwisgo cytlas. Bydd y Prif Gwnstabl ar yr adegau hyn wrth roi gorchymyn yn adrodd y rhesymau dros wneud hyn wrth unrhyw ddau Ynad Heddwch y Sir cyn gynted â phosibl wedi'r digwyddiad.

Cyrnol Cobbe, Swydd Rhydychen."

Cadwyd nifer o'r cytlasau hyn mewn ffrâm siâp ffan dros le tân yn swyddfa un o Arolygwyr yr Heddlu. Mae'r cytlasau erbyn hyn wedi'u benthyg i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan Heddlu Gogledd Cymru.

 

 
English
 

Cyswllt i

Het Gymreig
   
Pastynau
   
Plât Watkin Williams Wynn
   
Cap Ysgol
   
Cwpan Warthol
   
Bathodyn y Maer
   
Gwyr Meirch Iwmyn Hwsâr Sir Ddinbych
   
Cytlasau
   
Helmed Dyn Tân
   
Corddwr Menyn
   
Dychwelyd i'r mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint