|
Y frigâd dân reolaidd gyntaf yn Wrecsam oedd Brigâd Dân Wirfoddol Tywysog Cymru. Ffurfiwyd y frigâd yn 1863. Gwisgwyd helmedau pres gan ddynion tân y frigâd hon. Roedd ganddynt ddwy injan dân a lusgwyd gan geffylau ac yn 1894, adeiladwyd gorsaf dân bwrpasol ar hen Sgwâr Neuadd y Dref ger Stryt Caer.
Yn 1895, bu anghydfod pan gyhuddwyd y gwirfoddolwyr gan bobl leol am fod yn rhy araf yn cyrraedd tân yn y Melinauyd Fictoraidd yn y Beast Market (ger Tesco). Nid oedd y gwirfoddolwyr yn hapus ac aethant ar streic. Mewn ymateb, sefydlodd y Cyngor Bwrdeistref ei wasanaeth tân gwirfoddol ei hun. Yn 1904, dechreuasant dalu'r dynion tân ac yn 1914, prynwyd injan dân fodur, y cyntaf yng Ngogledd Cymru.
|