|
Pastynau'r Heddlu, Heddlu Sir Ddinbych
Roedd Heddlu Sir Ddinbych yn defnyddio'r adeilad hwn fel Gorsaf Heddlu Wrecsam am bron 100 mlynedd, hyd nes iddynt symud allan yn 1976.
Roedd tu mewn i'r adeilad hwn yn wahanol iawn pan oedd yn cael ei ddefnyddio fel Gorsaf Heddlu. Defnyddiwyd yr ystafell hon a'r oriel fechan fel celloedd yr heddlu. Y tu allan ger Ffordd Sant Marc roedd cowt ymarfer i'r carcharorion, Mae'r cowt yn dal yno. Roedd y Brif Oriel yn gowt agored, gyda chegin groes yn gwasanaethu'r ffreutur, erbyn hyn mae'n lyfrgell astudiaethau lleol. Lleolwyd y ddau arolygwr yn y ddwy adain o'r adeilad sy'n wynebu Stryt y Rhaglaw. I fyny'r grisiau roedd dau lys ac ystafelloedd ar gyfer yr ynadon, cyfreithwyr a thystion bob llys.
|