Iaith y Dirwedd
Roedd Syr Watkin Williams Wynn yn un o'r tirfeddianwyr cyfoethocaf yng Nghymru yn y 18fed ganrif. Fel noddwr y celfyddydau, anogodd Paul Sandby i ymuno ag ef ar daith o amgylch gogledd Cymru. O ganlyniad, crëëwyd cyfres o brintiau o dirwedd Cymru. Bydd gwaith celf wreiddiol yn cael eu dangos.

Castell Harlech mewn acwitint gan Paul Sandby
Bydd gweithdai ar gael i ddisgyblion ymchwilio i siwrnai'r dirwedd trwy daith dywysedig o'r arddangosfa a thrwy gwblhau cyfres o frasluniau manwl. Caiff sgiliau ysgrifennu creadigol eu datblygu hefyd wrth i ddisgyblion 'neidio i'r llun' a dweud eu stori eu hunain.
Dyddiadau: Medi – Hydref 2006
Amser: 10am neu 1pm (sesiwn 2 awr)
Addas i: Cyfnod Allweddol 1 (blwyddyn 2) a Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam
Opsiwn diwrnod llawn
Mae Amgueddfa Wrecsam a Chanolfan Gelf Wrecsam wedi gweithio ar y cyd i gynhyrchu opsiwn diwrnod llawn. Beth am neilltuo gweithdy 'Iaith y Dirwedd' ac yna ymweld â Chanolfan Gelf Wrecsam i gymharu dehongliad cyfoes Luci Melegari o'r un golygfeydd? Mae Luci Melegari yn argraffyd printiau proffesiynol sydd wedi ailymweld â'r safleoedd a dynnwyd gan Sandby. Mae gweithdy argraffu printiau wedi'i ysbrydoli gan waith tirweddau yr arlunydd ar gael yng Nghanolfan Gelf Wrecsam. Cysylltwch ag unrhyw un o'r lleoliadau i gael y gweithgaredd diwrnod llawn neu ffoniwch Honor yng Nghanolfan Gelf Wrecsam ar gyfer y sesiwn argraffu printiau ar 01978 292093. Cost o £1.25 i bob disgybl ym mhob lleoliad.
|