Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Hanes Diwydiannol Leol

 

Dyn y Diwydiant Haearn

Sefydlodd yr entrepreneur lleol, John Wilkinson, ei weithfeydd haearn cyntaf yn y Bers ac mae'n adnabyddus am ddyfeisio'r peiriant tyllu canonau yn y ddeunawfed ganrif. Addasodd ei ddyfais i wneud silindrau ar gyfer injanau stêm Boulton a Watt.


Cartwn o John 'Iron Mad' Wilkinson

Archwiliwch yr arddangosfa newydd gyda gweithgareddau cynorthwyedig a dysgu…

  • Pam fod y Bers yn lleoliad daearyddol gwych
  • Sut oedd canonau’n cael eu gwneud
  • Am ddyfais newydd Wilkinson
  • A oedd o’n gyflogwr da?

Ewch am daith o amgylch y gwaith haearn i weld yr archeoleg a gwylio dyn a bachgen y ffowndri’n amlygu’r problemau a wynebai Wilkinson. Dwech o hyd i’r gwahanol swyddi oedd eu hangen i wneud y cynhyrchion haearn. Gwnewch docyn masnach John Wilkinson.

Dyddiadau: Ebrill - Gorffennaf 2009, Ebrill - Gorffennaf 2010
Amser: 10am neu 1pm (2 awr)
Addas i: Cyfnod Allweddol 2 / Cyfnod Allweddol 3
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth y Bers

^ yn ôl i'r brig


Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Fel mwynwyr newydd yn y Mwynglawdd, bydd eich disgyblion yn cyfarfod cymeriadau o’r gorffennol, yn dod i wybod sut oedd yr injan yn gweithio, pam bod ei hangen a sut beth oedd bywyd yn y pwll plwm yn y cyfnod Fictoraidd. Rhoddir pwyslais arbennig ar Simon Hughes, mwynwr plwm, yn seiliedig ar ffynonellau archifol.



Llun o gloddwyr plwm Sir Ddinbych yn y 19eg ganrif

Ceir amrywiaeth o weithgareddau ymarferol perthnasol i wyddoniaeth, fel pwysau, liferi, dosbarthu creigiau, panio am blwm a chwarae rôl. Mae Pecyn Adnoddau i Athrawon ar gael

Dyddiadau:Ebrill - Gorffennaf 2009, Ebrill - Gorffennaf 2010
Amser: 10am neu 1pm. (sesiwn 2 awr)
Addas i: Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Pyllau Plwm y Mwynglawdd

^ yn ôl i'r brig


Diwydiant Cloddio am Lo (CA2)


©Margaret Tietze

Mae glo wedi llunio tirlun a phobl Wrecsam a’r pentrefi glofaol o orllewin y dref. Sut beth oedd bod yn löwr yn 19ef ganrif? Sut newidiodd dulliau gweithio a bywydau’r glowyr yn ystod y 20fed ganrif? Archwiliwch yr hanes pwysig hwn drwy gyfrwng ffilm, tyst, arteffectau hanesyddol a gweithgareddau yn yr arddangosfa arbennig hon a rhaglen ysgol.

Cadwch lygad am weithdai i ddod.

Dyddiadau: Ebrill – Gorffennaf 2009, Medi – Hydref 2009
Amser: 10am neu 1pm. (2 awr)
Addas i: a Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Y Bers

^ yn ôl i'r brig


Gwaith Dur Brymbo (CA2)

Ffurfiwyd Cwmni Gwaith Dur Brymbo ym 1885 (yn dilyn cyflwyno gwneud dur gyda ffwrneisi tân agored sylfaenol). Cafodd y gwaith dur effaith anferth ar bentref brymbo a’r cymunedau cyfagos dros y blynyddoedd. Mae’r arddangosfa hon yn egluro ac yn dathlu’r diwydiant pwysig lleol hwn a’I gymuned.

Cadwch lygad am fwy o fanylion am weithdai i ddod.

Dyddiadau: Ebrill – Gorffennaf 2009
Amser: 10am neu 1pm. (2 awr)
Addas i: a Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Y Bers

^ yn ôl i'r brig


 
English
 

Cyswllt i

Prydain yn Oes Fictoria
Hanes Lleol
Hanes Diwydiannol Lleol
Yr Ail Rhyfel Byd
Celf a Llythrennedd
Y Cwricwlwm Cymreig
Dinasyddiaeth ac Hanes
Yr Amgueddfa i Blant Bach
Hanes Cynnar
Gwyddoniaeth a Hanes Lleol
Help Am Athrawon
Hyffordiant Athrawon
Gweithdai Blaenorol
Blychau Benthyg Hanes
Am wybodaeth bellach ac i neilltuo lle
Dychwelyd i'r Mynegai
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint