Gwerthoedd Fictoraidd
Dewch i ddatrys y dirgelwch hanesyddol trwy edrych ar ddetholiad o arteffactau Fictoraidd. Darganfyddwch beth ydynt a phwy oedd yn berchen arnynt - y cogydd, y gwas ynteu'r meddyg?

Disgyblion ysgol mewn gweithdy yn yr amgueddfa
Cymerwch ran mewn sesiwn adrodd straeon ryngweithiol yn seiliedig ar Ann Williams – plentyn amddifad o wyrcws yn Wrecsam.
Dewch i gael profiad o ysgolion Fictoraidd trwy gyfrwng gwers fer yn canolbwyntio ar addysg grefyddol, rhifyddeg a disgyblaeth lem.
Defnyddir rhywfaint o daflenni gwaith yn seiliedig ar baneli arddangosfeydd sy'n canolbwyntio ar ymweliad y Frenhines Fictoria â Wrecsam yn 1889, y wyrcws, llinellau amser a ffurflenni'r cyfrifiadau.
Dyddiadau: Tachwedd 2008 – Mis Mawrth 2009
Amser: 10am neu 1pm. (2 awr)
Addas i: Cyfnod Allweddol 1 (Blwyddyn. 2) a Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Y Bers
^ yn ôl i'r brig
Plentyn amddifad o'r wyrcws
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn adrodd straeon ryngweithiol yn seiliedig ar Ann Williams - plentyn amddifad o wyrcws yn Wrecsam. Caiff disgyblion eu hysbrydoli gan ffynonellau'r archifdy a chyfle i wisgo gwisgoedd traddodiadol, ysgrifennu ar lechi a gafael mewn arteffactau.

Twb golchi a doli ar gyfer golchi dillad
Bydd y plant yn cymharu ysgolion Fictoraidd ag ystafelloedd dosbarth cyfoes. Mae gwers fer yn opsiynol.
Trwy ddefnyddio lluniau, bydd y plant yn edrych ar nodweddion teganau hen a newydd. Bydd pob plentyn yn cael gwneud thawmatrop sef tegan Fictoraidd sy'n creu twyll i'r llygad.
Dyddiadau: Tachwedd 2008 – Mis Mawrth 2009
Amser: 10am neu 1pm. (sesiwn 2 awr)
Addas i: Cyfnod Allweddol 1
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Y Bers
^ yn ôl i'r brig
Diwydiant Cloddio am Lo (CA2)

©Margaret Tietze
Mae glo wedi llunio tirlun a phobl Wrecsam a’r pentrefi glofaol o orllewin y dref. Sut beth oedd bod yn löwr yn 19ef ganrif? Sut newidiodd dulliau gweithio a bywydau’r glowyr yn ystod y 20fed ganrif? Archwiliwch yr hanes pwysig hwn drwy gyfrwng ffilm, tyst, arteffectau hanesyddol a gweithgareddau yn yr arddangosfa arbennig hon a rhaglen ysgol.
Look out for more information on forthcoming workshops
Dyddiadau: Ebrill – Gorffennaf 2009, Medi – Hydref 2009
Amser: 10am neu 1pm (2 awr)
Addas i: a Cyfnod Allweddol 2
Lleoliad: Canolfan Dreftadaeth Y Bers
^ yn ôl i'r brig
|