Manylion Cyswllt
Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam
Adeiladau'r Sir
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam
LL11 1RB
Ffôn: 01978 297460
Ffacs: 01978 297461
Ebost: museum@wrexham.gov.uk
Amseroedd agor arferol yr Amgueddfa
Dydd Llun – Dydd Gwener: 10am-5pm
Dydd Sadwrn:10.30am-3pm
Dydd Sul a Gwyliau Banc: Ar gau
Cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Ar agor: 28, 29 a 30 Rhagfyr
Ar gau: 24 Rhagfyr a 31 Rhagfyr
Ailagor ar 3 Ionawr.
Cyfleusterau
- Caffi'r amgueddfa: Siop Goffi Bwtri (cysylltiadau allanol) – coffïau, cacennau, brechdanau, cawliau ac ystod o brydau ysgafn yn cynnwys rhai o fwydydd gorau yr ardal.
- Siop anrhegion
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Toiledau
- Maes parcio ar y safle i ddeilwyr Bathodynnau Glas
Datganiad Hygyrchedd
Cludiant a Lleoliad
- Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw rhwng Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Fair a maes parcio aml-lawr NCP Sant Marc.
- Mae tri lle parcio ar gyfer dalwyr bathodyn glas ar Ffordd Sant Marc ar ochr ddwyreiniol yr adeilad 80m o fynedfa’r amgueddfa.
- Mae gorsaf fysiau Wrecsam ar Stryt y Brenin tua 200m o’r amgueddfa.
- Mae gorsaf reilffordd Wrecsam Ganolog tua 230m i’r de o’r amgueddfa o fewn canolfan siopa Y Werddon.
- Y maes parcio agosaf yw maes parcio aml-lawr talu ac arddangos NCP Sant Marc tua 100m o’r amgueddfa. Mae gan y maes parcio hwn 4 cilfach barcio ar gyfer yr anabl ar y llawr gwaelod.
Mae Maes Parcio NCP yn cynnig disgownt o 50% i ymwelwyr â'r Amgueddfa a'r Archifdy. Cyflwynwch eich tocyn yn nerbynfa'r Amgueddfa. Gwelwch www.NCP.co.uk i weld y prisiau.
- Mae Shop Mobility Wrecsam yng ngorsaf fysiau Wrecsam 200m o’r amgueddfa.
- CGC yr Arolwg Ordnans ar gyfer yr amgueddfa yw SJ3318 5043.
- Wrth gyrraedd mynedfa’r amgueddfa byddwch ar wyneb gwastad o raean rhannol rydd.
Cyfleusterau
- Mae’r Amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 5pm (mynediad olaf am 4.30pm), ddydd Sadwrn 10.30am i 3pm (mynediad olaf 2.30pm), ar gau ddyddiau Sul a gwyliau’r banc. Mae’r Ganolfan Casgliadau ar agor ddyddiau Llun, Mercher a Gwener rhwng 2 a 4pm.
- Mae’r orielau cyhoeddus a Chanolfan A.N. Palmer ar gyfer astudiaethau lleol ac archifau ar y llawr gwaelod gyda mynediad gwastad drwyddi draw. Mae’r Ganolfan Casgliadau ar lawr cyntaf yr isadeilad a gellir ei chyrraedd trwy ddefnyddio’r lifft hygyrch (ond di-lais) o’r brif oriel.
- Mae dolen glyw wedi’i gosod ar ddesg y Dderbynfa.
- Nid oes yr un drws, lle mae drysau i’w cael, yn awtomatig ond mae lled pob un yn 800mm neu fwy.
- Mae toiledau hygyrch i ferched a dynion yn ymyl desg y dderbynfa yn y logia blaen a gyferbyn â’r Ganolfan Casgliadau ar y llawr cyntaf. Mae larwm i alw am gymorth os bydd ei angen yn y ddau.
- Cynlluniwyd yr holl arddangosfeydd i fod yn hygyrch, gyda fersiynau print bras o destun arddangosfa ar gael a rhywfaint o esboniad mewn Braille ar gael ar gyfer arddangosion parhaol.
- Mae croeso i gŵn tywys.
- Mae dwy ystafell ar gyfer cyfarfodydd ar y llawr cyntaf, mae dolen glyw wedi’i gosod yn y lleiaf ohonynt (ystafell addysg). Does dim dolen yn y llall. Gellir cael mynediad i’r ddwy ystafell trwy ddefnyddio’r grisiau neu’r lifft ac esgynfa. Mae un ris i mewn i’r ystafell fawr. Nid yw pob bwlch drws ar y llawr cyntaf yn cydymffurfio â’r canllawiau ar gyfer lled hygyrch.
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa - Fersiwn PDF 1.2Mb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig