Arddangosfeydd a Gwahanol Ddigwyddiadau
I gael gwybod beth sy'n digwydd nawr yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ewch i'n tudalen Arddangosfeydd a Digwyddiadau.
Y Ganolfan Gasgliadau
Ychydig iawn o amgueddfeydd sy’n arddangos eu holl gasgliadau, a dweud y gwir, mae’r hyn a welwch mewn arddangosfeydd fel arfer yn cyfrif am 15% o’r hyn sydd ar gael yn storfa’r amgueddfa. Nawr gellwch weld holl gasgliadau’r amgueddfa trwy ymweld â’r Ganolfan Gasgliadau yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dilynwch y cyswllt uchod i weld yr oriau agor ac i gael mwy o fanylion.
Y Ganolfan Gasgliadau
Ymchwilio i'ch coeden deulu? Am gael gwybod mwy am hanes eich ty ?
Gall Canolfan Astudiaethau ac Archifau Lleol A.N. Palmer eich cynorthwyo i ateb y cwestiynau hyn a mwy am eich hanes lleol. Mae cyngor arbenigol ar gael i'ch cynorthwyo i wneud y gorau o'n casgliadau o gyfrifiadau, cofnodion plwyf, lluniau, mapiau, dogfennau a deunyddiau cyfeiriol.
Yr Isadeilad
Y cam cyntaf yng nghynllun y Cyngor i adnewyddu Adeiladau’r Sir fel amgueddfa oedd cwblhau asgell bwrpasol i gymryd lle hen adeilad anaddas a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r asgell newydd hon, yr Isadeilad, yn darparu cyfleusterau i reoli a chadw casgliadau’r amgueddfa ac ystafell astudio gyhoeddus o’r enw’r Ganolfan Gasgliadau, sy’n darparu mynediad ar-lein at y casgliadau wrth gefn nad ydynt yn cael eu harddangos.
Cwblhawyd yr ‘Isadeilad’ ar 15 Mai 1998 gyda chymorth grant o £299,375 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Cyfanswm cost yr asgell newydd oedd £395,500 a thalwyd y swm a oedd yn weddill, sef £99,125, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Datganiad Hygyrchedd
Cludiant a Lleoliad
- Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw rhwng Eglwys Gadeiriol Gatholig y Santes Fair a maes parcio aml-lawr NCP Sant Marc.
- Mae tri lle parcio ar gyfer dalwyr bathodyn glas ar Ffordd Sant Marc ar ochr ddwyreiniol yr adeilad 80m o fynedfa’r amgueddfa. Hefyd, gall dalwyr bathodyn glas a bysiau mini grwpiau anabl barcio ym mlaengwrt yr amgueddfa os trefnir ymlaen llaw.
- Mae gorsaf fysiau Wrecsam ar Stryt y Brenin tua 200m o’r amgueddfa.
- Mae gorsaf reilffordd Wrecsam Ganolog tua 230m i’r de o’r amgueddfa o fewn canolfan siopa Y Werddon.
- Y maes parcio agosaf yw maes parcio aml-lawr talu ac arddangos NCP Sant Marc tua 100m o’r amgueddfa. Mae gan y maes parcio hwn 4 cilfach barcio ar gyfer yr anabl ar y llawr gwaelod.
- Mae Shop Mobility Wrecsam yng ngorsaf fysiau Wrecsam 200m o’r amgueddfa.
- CGC yr Arolwg Ordnans ar gyfer yr amgueddfa yw SJ3318 5043.
- Wrth gyrraedd mynedfa’r amgueddfa byddwch ar wyneb gwastad o raean rhannol rydd.
Cyfleusterau
- Mae’r Amgueddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 5pm (mynediad olaf am 4.30pm), ddydd Sadwrn 10.30am i 3pm (mynediad olaf 2.30pm), ar gau ddyddiau Sul a gwyliau’r banc. Mae’r Ganolfan Casgliadau ar agor ddyddiau Llun, Mercher a Gwener rhwng 2 a 4pm.
- Mae’r orielau cyhoeddus a Chanolfan A.N. Palmer ar gyfer astudiaethau lleol ac archifau ar y llawr gwaelod gyda mynediad gwastad drwyddi draw. Mae’r Ganolfan Casgliadau ar lawr cyntaf yr isadeilad a gellir ei chyrraedd trwy ddefnyddio’r lifft hygyrch (ond di-lais) o’r brif oriel.
- Mae dolen glyw wedi’i gosod ar ddesg y Dderbynfa.
- Nid oes yr un drws, lle mae drysau i’w cael, yn awtomatig ond mae lled pob un yn 800mm neu fwy.
- Mae toiledau hygyrch i ferched a dynion yn ymyl desg y dderbynfa yn y logia blaen a gyferbyn â’r Ganolfan Casgliadau ar y llawr cyntaf. Mae larwm i alw am gymorth os bydd ei angen yn y ddau.
- Cynlluniwyd yr holl arddangosfeydd i fod yn hygyrch, gyda fersiynau print bras o destun arddangosfa ar gael a rhywfaint o esboniad mewn Braille ar gael ar gyfer arddangosion parhaol.
Mae croeso i gŵn tywys.
- Mae dwy ystafell ar gyfer cyfarfodydd ar y llawr cyntaf, mae dolen glyw wedi’i gosod yn y lleiaf ohonynt (ystafell addysg). Does dim dolen yn y llall. Gellir cael mynediad i’r ddwy ystafell trwy ddefnyddio’r grisiau neu’r lifft ac esgynfa. Mae un ris i mewn i’r ystafell fawr. Nid yw pob bwlch drws ar y llawr cyntaf yn cydymffurfio â’r canllawiau ar gyfer lled hygyrch.
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Lawrlwytho cynllun o’r amgueddfa - Fersiwn PDF 755Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Adeiladwyd yr Isadeilad gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

|