Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Hysbysebu

Hanes yr Amgueddfa

Llun Hanes o Ardaloedd SirolO Swyddogion Cyflenwi i Guraduron - mae'r Amgueddfa wedi chwarae amryw o rannau yn stori Wrecsam.

Mae gan yr amgueddfa dyrau fel castell, oherwydd fe'i hadeiladwyd fel barics i Filisia Lleol Brenhinol Sir Ddinbych yn 1857. Roedd rheoli pobl leol yn gymaint o waith y Milisia a brwydro mewn ymgyrchoedd tramor, felly adeiladwyd y barics yn agos i ganol y dref.

Roedd yr ardal o amgylch y barics yn wahanol iawn yr adeg honno o'i chymharu â nawr: Roedd Eglwys Sant Marc yn sefyll ar safle'r maes parcio aml lawr, Roedd y Werddon heb ei datblygu, heblaw am y bragdy, dim ond tai preifat oedd ar Stryt y Brenin ac roedd capeli Seion a Bryn-y-ffynnon yn arwain y ffordd i mewn i ganol Wrecsam.

I fyny'r grisiau, roedd yr arfdy a'r storfa. Roedd bywyd yn y dref wedi tawelu tipyn, o'i gymharu â'r awyrgylch chwyldroadol yn hanner cyntaf y 19 Ganrif, felly ni osodwyd y gorchuddion metal a gynlluniwyd ar gyfer ffenestri'r arfdy.

Yn 1877, symudodd y milwyr allan ac yn 1879, daeth yr adeilad yn Llys yr Ynadon ar gyfer y dref. Erbyn 1895, roedd dau lys i fyny'r grisiau. Defnyddiai'r Ynadon y grisiau llydan carreg ac adeiladwyd grisiau newydd ar gyfer y cyhoedd. Defnyddiai'r heddlu lleol, Heddlu Sir Ddinbych weddil yr adeilad. Roedd lle i'r Arolygydd, Uwcharolygydd, Rhingyll y Carchar, y Cwnstabl a phedwar Cwnstabl di-briod fyw yn yr adeilad. I lawr y grisiau, lle mae'r orielau erbyn hyn, roedd celloedd i'r meddwon a'r afreolus. Yr adeg honno, roedd y Brif Oriel yn fuarth agored. Yn raddol, roedd yr heddlu'n dewis byw y tu allan i'r adeilad, hyd nes dim ond Rhingyll y Carchar oedd yn byw yn yr adeilad. Symudodd oddi yno yn 1960. Symudodd yr heddlu oddi yno'n barhaol yn yr 1970au. Gallwch weld arwyddion y Llysoedd y tu allan i'r adeilad hyd heddiw. Cyhuddwyd pobl yn yr ystafelloedd a ddefnyddir erbyn hyn fel toiledau i'r cyhoedd a gallwch ymchwilio eich coeden deulu yn hen ffreutur yr Orsaf Heddlu.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lleolwyd yr ARP y tu ôl i'r adeilad. Mae'r seirien cyrch awyr yn parhau i fod yn union yr un lleoliad ag yr oedd yn ystod y rhyfel, ar ochr orllewinol yr adeilad - ac mae'n dal i weithio.

Mae digon o hanes yn Wrecsam a'r Gororau

Gallwch ddod wyneb yn wyneb ag un o drigolion cynharaf y gwyddom amdano yn yr Amgueddfa - Roedd 'Dyn Brymbo' yn byw ger Wrecsam yn ystod yr Oes Efydd Cynnar, mwy na 3,500 mlynedd yn ôl. Daethpwyd o hyd i Ddyn Brymbo yn ddamweiniol yn 1958 gan adeiladwyr lleol. Symudwyd y bedd cyfan ar y dechrau i Gaerdydd, ond daeth yn ei ôl i Wrecsam yn 1998. Yn 2001 gyda chymorth gan CAC, gofynnodd yr Amgueddfa i Dr Caroline Wilkinson, o Brifysgol Manceinion a rhaglen Meet the Ancestors gan y BBC i adlunio wyneb Dyn Brymbo o'i benglog. Cewch eich syfrdanu gan yr hyn a ddarganfyddwyd gennym am fywyd a marwolaeth Dyn Brymbo. ac efallai mai chi fydd yn gallu gweld tebygrwydd teulu.

Roedd gan y Rhufeiniaid anheddiad ym Mhlas Coch (safle Sainsbury's nawr) ac yn Holt, gwnaed y teils ar gyfer barics y XXfed Lleng yng Nghaer. Mae gan yr Amgueddfa rai o ddeunyddiau Holt yn ei chasgliad, ond mae'r rhan fwyaf o'r darganfyddiadau o gloddiadau dechrau'r 20fed Ganrif i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Darganfuwyd Plas Coch ar hap a damwain, felly efallai bod anheddiadau Rhufeinig eraill o amgylch Wrecsam yn aros am gael eu darganfod.

Llun Hanes o Tim cymru Pel-droedRoedd gan Wrecsam ran flaenllaw yn natblygiad cynnar pêl-droed yng Nghymru a hyd heddiw, dyma gartref ysbrydol y gêm.

Trefnwyd a chapteinwyd dîm pêl-droed cyntaf Cymru gan Llewlyn Kenrick o Riwabon (i'r de o Wrecsam). Ffurfiwyd Cymdeithas Pêl-droed Cymru yng Ngwesty'r Wynnstay Arms, cynhaliwyd gêm ryngwladol gartref cyntaf Cymru ar faes y Cae Ras (cartref CP Wrecsam a thaith pum munud ar droed o'r Amgueddfa). Cynhaliwyd rownd derfynol gyntaf Cwpan Cymru ym Mharc Acton a'r Waun, oedd man geni Billy Meredith, un o chwaraewyr gorau Cymru erioed.

Gallwch ddysgu mwy am y 'Gêm Fendigedig' yn yr Amgueddfa, lle mae Casgliad Pê-droed Cymru.