Adeiladau'r Sir
Mae Stryt y Rhaglaw wedi newid yn llwyr dros y 30 mlynedd ddiwethaf, ond mae un adeilad yn dal i sefyll heb newid, sef Adeiladau'r Sir - cartref Amgueddfa Wrecsam.
Roedd y Milisia yn rhan bwysig o'r lluoedd arfog yn y sir hon ers o leiaf y cyfnod canoloesol. Erbyn canol y 19 Ganrif, nid oedd gwasanaeth yn y Milisia'n orfodol. Roedd cyflog ac arian listio yn denu llif gyson o ddynion i filisia pob sir. Mewn gwirionedd, roedd y Milisia yn hyfforddiant rhan amser am fis o bob blwyddyn ac yn barod bob amser i wneud eu rhan ar hyd a lled Prydain.
Roedd y 1850au yn gyfnod bywiog i fod o gwmpas: roedd y wlad yn rhyfela'n erbyn Rwsia, roedd llawer o aflonyddwch gwleidyddol gyda'r Siartyddion yn galw am "un dyn un bleidlais", roedd aflonyddwch diwydiannol yn parhau i fodoli mewn ardaloedd diwydiannol megis Dyffryn Moss a Rhosllannerchrugog, gyda'r perchnogion yn gwahardd gweithwyr a streiciau gan y glowyr yn ddigwyddiadau rheolaidd. Mewn gwirionedd roedd y Sefydliad dan bwysau mawr ac roeddent yn dibynnu llawer ar y Milisia i fynd i'r afael ag aflonyddwch.
Yn 1854 gofynnodd Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych i'r Ynadon Heddwch adeiladu Pencadlys gweddus i'r Milisia, oherwydd teimlai bod Neuadd y Dref yn "anniogel ac yn anaddas i gadw arfau'n ddiogel." Cytunodd yr YH i adeiladu Depo Milisia ynghyd ag "adeiladau diogel ac addas fel storfeydd Milisia, Ystafell Swyddog Negeseuau a Gwarchodydd, arfdy a chowt digonol i'r dynion ymgynyll."

Canlyniad hyn oedd adeilad gyda phedwar t @ r ar bob cornel i greu argraff dda ar y bobl leol, pa un ai os oeddent yn bwriadu codi helynt ai peidio. Ar y dechrau, roedd cynlluniau i dyllu ffos sych o amgylch yr adeilad a gosod gorchuddion dur dros y ffenestri, efallai rhag ofn i un o nifer o grwpiau gwrthryfelgar Wrecsam y 19 Ganrif godi gwarchae. Ni wireddwyd yr un o'r cynlluniau hyn - efallai bod yr YH wedi rhedeg allan o arian neu eu bod wedi penderfynu bod y boblogaeth leol yn llawer tawelach wedi'r cyfan. Y gwrthwyneb oedd yn wir mewn gwirionedd. Daeth y dref gyfan allan yn llu i groesawu cyrhaeddiad canon Rwsiaid a ddaliwyd yn y Crimea. Hebryngwyd y canon drwy'r dref gan gyn filwr ungoes a Gw ~ r Meirch Iwmyn Sir Ddinbych. Chwaraeodd band y Milisia a gosodwyd y canon y tu allan i Bencadlys y Milisia. Daeth y pencadlys yn gartref hefyd i staff parhaol y Milisia a'u teuluoedd megis yr uwch-ringyll a'r swyddog cyflenwi.
Yn 1877, penderfynodd y Llywodraeth i ad-drefnu ei lluoedd arfog yn llwyr ac adeiladwyd barics yn eu tro o amgylch y wlad. Cafodd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig farics newydd yn High Town ac felly, symudodd y Milisia i fyny'r ffordd.
Ychydig dros ugain oed a dim defnydd i'r adeilad. Yn ffodus, roedd ar Wrecsam angen Llys yr Ynadon newydd oherwydd nid oedd digon o le yn yr hen neuadd y dref, hefyd roedd ar yr Heddlu angen adeilad yn y dref. Yn 1879 symudodd yr adeiladwyr i mewn a throi Pencadlys y Milisia yn Orsaf Heddlu a Llys. Galwyd yr adeilad yn Adeiladau'r Sir, ac mae'r enw'n parhau i fod yn y gwaith cerrig uwchben mynedfa'r Amgueddfa.

Byddai Prif Gwnstabl Sir Ddinbych yn gweithio o'r adeilad hwn. Byddai'n gorfod ymdrin â helyntion megis Rhyfeloedd y Degwm ac anghydfodau parhaus yn yr ardaloedd mwyngloddio. Nid oedd un llys yn ddigon ymhen ychydig amser ac yn yr 1890au, adeiladwyd llys ychwanegol a chowt ymarfer i'r carcharorion a ddaliwyd yng nghelloedd yr heddlu. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd depo'r ARP yn yr adeilad hwn ac roedd eu pencadlys yng Ngwesty'r Imperial a oedd gyferbyn, cyn iddo gael ei ddymchwel. Erbyn y 1970au roedd angen mwy o le ar yr Heddlu a'r Ynadon, felly symudasant i adeiladau newydd sbon ym Modhyfryd.


Ers hyn, mae'r adeilad wedi bod yn gartref i Cyngor ar Bopeth, y Coleg Celf ac yn olaf, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Os oes gennych owns o egni ar ôl wedi'r holl gerdded, gallwch weld mwy o orffennol Wrecsam y tu mewn.

Map o ganol y dref >>
dychwelyd i'r mynegai
|