Stryt yr Hôb
Cerddwch ar hyd Stryt yr Hôb. Mae gwreiddiau enw Stryt yr Hôb yn deillio o ddechreuad y dref, pan mai hon oedd y ffordd a arweiniai allan i'r Hôb. Pasiwch heibio'r safle adeiladu, lle bu WHSmiths yn sefyll. Adeiladwyd Gwesty'r Three Pigeons ar y safle hwn yn 1699 ac yn y 1840au daeth yn Westy'r Lion. Pan ddaethpwyd â chanon Rwsiaidd a ddaliwyd yn Rhyfel y Crimea i Wrecsam yn 1857, cynhaliwyd y dathliadau yn y Lion. Mae'n debyg ei fod yn lleoliad yfed poblogaidd ymysg llawer iawn o filwyr y dref. Ymwelydd annhebygol arall oedd Guiseppe Garibaldi, y Chwyldroadwr Eidalaidd. Roedd ganddo gyfeillion ym Mhlas Marchwiel.
Fforchwch i'r chwith yn y gyffordd nesaf ac ewch ymlaen ar hyd Stryt yr Hôb. Edrychwch am adeilad to gwellt ar y chwith ac adeilad porth uchel ar y dde.
Tafarn yr Horse & Jockey yw'r adeilad to gwellt. Ers talwm, roedd llawer o adeiladau to gwellt yn Wrecsam a'r cyffiniau, ond ychydig iawn a oroesodd yr 20 Ganrif. Yr Horse & Jockey yw'r unig dafarn to gwellt hanesyddol ar ôl yn y dref.

Enw swyddogol y porth yw Adeiladau Westminster, unig weddillion arddangosfa Amaethyddol a Gwyddonol Wrecsam a gynhaliwyd yn 1876. Roedd yr arddangosfeydd hyn yn boblogaidd iawn yn ystod hanner olaf y 19 Ganrif. Roedd raid i unrhyw le a oedd am ddangos ei fod yn gadarnle cynnydd ac entreprenyddiaeth ddiwydiannol gynnal arddangosfa. Wedi i Wrecsam gynnal arddangosfa, bu raid i Baris a Glasgow ddilyn ôl ei throed. Adeiladwyd neuadd arddangos dros dro a orchuddiodd dir rhwng Stryt Egerton a Ffordd Rhosddu a Stryt Argyle a Stryt yr Hôb: o ganlyniad cafwyd man arddangos anferthol a oedd yn cynnwys celfyddyd gain, cynllunio a chynnyrch y diwydiannau lleol - brics, teils a therracotta; Dwr Mwynol a Bragu a Pheirianneg. Fel bob un o'r arddangosfeydd mawr, defnyddiwyd neuadd dros dro ac roedd pawb yn y cyfryngau'n cwyno am y gost uchel.
![]()







