Mae'r daith gerdded ganlynol yn cychwyn o du allan i'r Amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw. Mae digonedd o hanes cuddiedig yn Wrecsam, a thrwy argraffu'r daith hon, byddwch yn gallu'i ddarganfod drosoch eich hun.
Lawrlwytho copi o Daith Gerdded Tref Wrecsam ar y ffurfiau canlynol:
Lawrlwytho'r Taith Gerdded Tref Wrecsam yn fersiwn PDF 215Kk ![]()
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.
Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
Taith Gerdded Wrecsam
Ar y daith hon, byddwch yn cerdded o amgylch y dref a byddwch yn gweld adeiladau hanesyddol Wrecsam a phasio heibio safleoedd y rhai na oroesodd.
Amser cerdded: 1 awr. Cerdded ar y gwastad.
Mynediad: Dim ond ar Camfa'r C @ n ac Allt y Dref ceir tipyn o elltydd i fyny ac i lawr ar y daith hon. Nid oes stepiau ar y daith hon.
Cychwyn o du allan i Amgueddfa Wrecsam. Edrychwch i'r dde.
Oddi ar Ffordd Sant Marc ar ochr yr adeilad roedd Neuadd yr Eglwys.
![]()
yn ôl i'r brig| dychwelyd i'r mynegai
Neuadd yr Eglwys
Neuadd yr Eglwys oedd lleoliad ymgynghoriad cyhoeddus trychineb Glofa Gresffordd yn 1934. Bu farw 261 glöwr a 3 achubwr yn y drychineb, sef y drychineb lofa waethaf yng Ngogledd Cymru. Cyflogwyd Stafford Cripps, yn ddiweddarach, Canghellor y Trysorlys yn ystod Llywodraeth Lafur 1945-51 a Hartley Shawcross, yn ddiweddarach, un o Brif Erlynwyr Profion Troseddau Rhyfel Nuremburg yn yr ymchwiliad.
Dymchwelwyd Neuadd yr Eglwys ac Eglwys Sant Marc gerllaw (erbyn hyn y maes parcio aml-lawr) i wneud lle ar gyfer cynllun datblygu manwerthu. Adeiladwyd yr Eglwys mewn ymateb i'r niferoedd mwy a oedd yn byw yn y dref yng nghanol y 19 Ganrif. Erbyn hyn, nid yw maint poblogaeth a niferoedd sy'n mynychu eglwysi'n cyd-fynd mor agos.
Trowch i'r chwith o fuarth blaen yr Amgueddfa a cherddwch cyn belled â giatiau'r Eglwys Gadeiriol y drws nesaf. Ewch i mewn i dir yr eglwys gadeiriol.
![]()
Ymlaen i Eglwys Gadeiriol y Santes Fair >>







